Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/259

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fyw, ond yn awr dros 84 oed. Derbyniwyd ef yn aelod yn y New Inn, gan Mr. T. Walters, er's 63 o flynyddau yn ol. Bu am flynyddau wedi hyny yn byw yn ardal y Groeswen, ac yn aelod defnyddiol yno. Un nodedig arali yn mysg cychwynwyr yr achos hwn oedd y rhagrybwylledig J. Edmunds, neu Jim o'r Engine, fel y gelwid ef yn gyffredin. Bu y gwr hwn yn more ei oes yn ddyn nodedig o annuwiol, ac yn ymladdwr proffesedig; ond wedi iddo gael ei ddychwelyd at yr Arglwydd, bu yn llawn mor hynod gyda chrefydd ag y buasai yn flaenorol gyda phechod. Nid ydym yn cofio i ni erioed weled dyn mwy toddedig dan y gair. Pan y clywsai ryw beth pwrpasol am Grist a gras Duw, nis gallasai yn unwedd attal ei deimladau heb dori allan i ddiolch, ac yr oedd ei swn bob amser yn hyfryd gan y rhai a'i hadwaenai, ac yn ddieithriad yn toddi y gynnulleidfa. Cofgolofn nodedig a gyfodasid gan ras Duw ydoedd. Yn nechreu y flwyddyn 1854, rhoddodd Mr. Ellis ofal yr eglwys i fyny, ac yn mhen ychydig fisoedd wedi hyny, rhoddwyd galwad i Mr. R. Parry, Penmorfa, sir Gaernarfon. yr hwn sydd yn awr yn Victoria. Bu Mr. Parry yma hyd Ionawr 1859, pryd y symudodd i New Market, sir Fflint. Ar ol ei ymadawiad ef, bu Mr. Griffith Roberts, Cefncoedycymer, yn gweinidogaethu yma am oddentu naw mis. Yn mhen tua blwyddyn ar ol ei ymadawiad rhoddwyd galwad i Mr. W. Williams, Tredegar, y gweinidog presenol. Dechreuodd Mr. Williams ei weinidogaeth yma Hydref, 20fed, 1861. Yr oedd yr addoldy y pryd hwnw yn cael ei gyfnewid yn ei ffurf a'i adgyweirio. Costiodd yr adgyweiriad tua 250p. Cynaliwyd cyfarfod yr agoriad a sefydliad Mr. Williams, Ebrill 20fed, 21ain a'r 22ain, 1862. Pregethwyd ar yr achlysur gan G. Roberts, Cefncoedycymer; R. Thomas, Hanover; J. M. Davies, Maesycwmwr; E. Hughes, Penmain; W. Jones, a D. Hughes, B.A., Tredegar; D. Price, Aberdare; T. Rees, Cendl; H. Daniel, Pontypool; D. Williams, Berea, a J. M. Thomas, Abersychan. Mae Abercarn, neu Abergwyddon, fel y gelwid y lle gynt, yn ardal boblog a phwysig iawn, ac yn debygol o gynyddu mewn poblogaeth am flynyddau etto; ond y mae taeniad cyflym yr iaith Saesonaeg yn mysg yr ieuengetyd yma, fel yn mhob ardal arall yn Mynwy, yn llawer o anfantais i'r achos Cymreig. Yr ydym yn hyderu y ca Mr. Williams fywyd ac iechyd i fod yn ddefnyddiol iawn yn y cylch pwysig hwn am flynyddau etto.

KING STREET, BRYNMAWR.

Achos Saesonig yw hwn. Dechreuwyd ef yn y flwyddyn 1848. Yn y flwyddyn hono cyfododd annghydfod yn eglwys y Primitive Methodists ar y Brynmawr; ymadawodd o ugain i ddeg ar hugain o aelodau, a chymerasant ystafell yn y dref at gynal gwasanaeth crefyddol. Yn fuan wedi hyny gwnaethant eu meddyliau i fyny i ymuno a'r Annibynwyr. Gwahoddasant Mr. Jeffreys, Penycae, i'w corpholi yn eglwys Annibynol. Ar eu corpholiad darfu i rai Annibynwyr, a hoffent wasanaeth crefyddol yn yr iaith Saesonaeg yn fwy na'r Gymraeg, gymeryd eu lle yn eu mysg. Bu Mr. Jeffreys yn ymweled a hwy yn fisol am yn agos i flwyddyn. Yn 1849, ychwanegwyd rhai ugeiniau at yr eglwys; a thrwy gymorth Mr. John Jones, masnachwr, Brynmawr, cafwyd tir, a dechreuwyd adeiladu capel, yr hwn a orphenwyd, ac a agorwyd yn y flwyddyn 1850. Yn lled fuan wedi hyny ymadawodd y rhan fwyaf o'r rhai