Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddysgwyliadau ein Diwygiwr llofruddiedig, y buasai yr Arglwydd yn cyfodi yn mysg ei gydwladwyr, ddynion cymhwysi gario yn mlaen y gwaith a ddechreuwyd ganddo ef, eu cyflawn gwblhau. Cyn pen deugain mlynedd ar ol ei farwolaeth, yr oedd yn Nghymru saith neu wyth o bregethwyr efengylaidd a grymus-megis, William Wroth, o Lanfaches; William Erbery, o Gaerdydd; Mr. Phillips, o sir Benfro; Rees Pritchard, o Lanymddyfri; David Roberts, o Landinam; Robert Powell, o Langattwg, Glynnedd; Marmaduke Mathews, o Abertawy; Walter Cradock, a rhai eraill llai enwog; fe luosogodd eu nifer mewn ychydig o flynyddau, nes yr oeddynt yn amryw ugeiniau o rif, ac erbyn heddyw, y mae y gwyr a bregethant yn Nghymru yr egwyddorion y bu Penry farw drostynt, dros ddwy fil o nifer. Diau fod ysbryd gogoneddedig y merthyr yn llawenhau mewn gogoniant wrth ganfod hyn.

Yn y tu dalenau blaenorol taflasom frasolwg dros agwedd Cymru tra y bu yn ymddibynol yn unig ar yr Eglwys Sefydledig am ei haddysg gref- yddol, a gwelsom y fath olwg alaethus oedd arni o 1534, hyd ar ol 1646- Yn awr taflwn

II.—GIPOLWG AR AGWEDD PETHAU O GYFODIAD YMNEILL DUAETH HYD DDEDDF UNFFURFIAETH, YN 1662. Fel y nodasom yn barod, yr oedd ychydig o bregethwyr, o egwyddorion Puritanaidd, wedi cyfodi yn Nghymru yn nheyrnasiad James I., ac yn gynar yn nheyrnasiad Siarl I., ond gan fod yr offeiriaid agos oll yn anfoesol, anwybodus, neu o dueddiadau Pabyddol, gwnaethant bob peth a fedrent i gyfodi rhagfarn yn y werin anwybodus yn eu herbyn, ac i'w herlid. Er fod un o'r pregethwyr hyn—Rees Prichard, Llanymddyfri, yn gydffurfiwr selog, ni ddiangodd ef o herwydd ei lafur a'i sêl yn erbyn pechod, rhag cael llawer o'i erlid, llawer llai y diangodd Worth, o Lanfaches, ac eraill, a ddechreuent ogwyddo at Ymneillduaeth. Pan ddarfu i'r Brenhin Siarl, dan gyfarwyddyd yr Archesgob Laud, orchymyn i'r holl offeiriaid ddarllen y llyfr chwareuyddiaethau o'r pulpudau ar y Sabboth, gorfodwyd Mr. Wroth, Mr. Erbery, Mr. Cradock, ac fe ddichon rai eraill yn Nghymru, i droi yn Ymneillduwyr cyhoeddus. Yn fuan wedi hyn, sef yn Tachwedd, 1640, agorwyd y Senedd. a elwid "y Senedd hir," a chyn pen nemawr o amser wedi hyny, cyfododd anghydfod rhwng y Brenhin a'r Senedd, yr hwn a derfynodd mewn rhyfel gwladol, ac yn nienyddiad y Brenhin a'i ddau brif gynghorwr, Iarll Strafford a'r Archesgob Laud. Yr achosion o'r anghydfod oedd y gorthrwm mewn pethau gwladol a chrefyddol a arferai y Brenhin a'i ddau gynghorwr. Yr oedd Siarl wedi cymeryd i'w ben, nas gallasai ef fod yn deilwng o'r enw brenhin, heb iddo draws-arglwyddiaethu ar y Senedd a'r wlad, a gwneyd ei ewyllys ei hun yn ddeddf ddigyfnewid, a mynai Laud i bawb yn ddieithriad blygu mewn pethau crefyddol i'w olygiadau a'i ddefodau Pabyddol ef, dan boen carchariad, ac amddifadiad o bob braint fel gwladwyr am anufudd-dod. Wedi i'r wlad ddyoddef hyn am wyth neu ddeng mlynedd, aeth y baich yn rhy annyoddefol i'w ddyoddef yn hwy,