fuasent yn aelodau gynt gyda'r Primitive Methodists, a bu yr achos dros dymhor yn dra isel. Y gweinidog sefydlog cyntaf oedd Mr. John Thomas, aelod gwreiddiol o eglwys y Morfa. Ni bu ef yma flwyddyn gyflawn. Y nesaf oedd Mr. E. W. Johns, mab Mr. D. Johns, Madagascar. Bu ef yn gwasanaethu yr achos hwn, mewn cysylltiad a'r achos Saesonaeg yn Nghendl, o ddechreu 1853 hyd yn agos diwedd 1854, pryd y rhoddodd ei swydd i fyny. Dilynwyd ef gan Mr. George Greig, o Scotland. Bu ef yma am dair blynedd, ac yn nodedig o ddefnyddiol; ond yn niwedd y flwyddyn 1859, gorfodwyd ef gan ddiffyg iechyd i ymadael a'r lle, er galar a cholled dirfawr i'r gynnulleidfa. Ar ol ymadawiad Mr. Greig, rhoddwyd galwad i Mr. William Thomas, o Gaerodor, yr hwn a wasanaethodd y lle gyda llawer o lwyddiant am ddwy flynedd, ond o herwydd nad oedd ei gyflog yn ddigon i gynal ei deulu lluosog bu raid iddo roddi y weinidogaeth heibio, ac ymgymeryd a galwedigaeth fydol. Yn 1862 ymsefydlodd Mr. T. F. Nathan, o'r athrofa orllewinol yma. Yn 1869 symudodd oddiyma i Wrexham. Yn fuan ar ol ei ymadawiad ef, daeth Mr. D. Daw, o Gaerodor, i ymweled a'r lle, a chafodd alwad unfrydol. Dywedir fod Mr. Daw yn dderbyniol iawn, ac yn debygol o fod yn llwyddianus. Mae yn ddiameu fod yr achos hwn wedi dyoddef yn fawr o herwydd newid y gweinidogion mor fynych. I amgylchiadau, nad oedd gan yr eglwys na'r gweinidogion un reolaeth drostynt, yr ydym i briodoli y newidiadau mynych hyn, ond er hyny effeithiasant er cryn niwed i'r achos.
CAPEL BARHAM, CENDL.
Dechreuwyd yr achos hwn yn niwedd y flwyddyn 1849. Yn mhen ychydig fisoedd wedi i T. Rees, symud o Lanelli i Gendl, gwelodd fod yno luaws mawr o Saeson yn cyfaneddu, a bod yr enwad Annibynol yn cael ei golledu o eisiau gwasanaeth crefyddol yn yr iaith Saesonaeg. Ar ol ymgynghori ag ychydig gyfeillion, o Gymry a Saeson, cymerodd ystafell eang y tu cefn i'r Refiners' Arms, at gynal addoliad. Sefydlwyd yno Ys- gol Sabbothol, a phregethu cyson, ac aeth pob peth yn mlaen yn llew- yrchus iawn. Yn mhen rhai blynyddau, cymerwyd tir at adeiladu capel, yr hwn a agorwyd yn Ebrill, 1859, gan y Dr. Morton Brown, o Cheltenham. Galwyd ef Barham Chapel, o barch i'r Arglwyddes Barham, merch yr hon, sef Mrs. Thompson, a'i phriod, Mr. Thomas Thompson, oedd y rhai blaenaf ar res y tanysgrifwyr at yr adeiladaeth. Rhoddasant hwy haner can' gini i gychwyn. Costiodd y capel a'r ysgoldy y tu cefn iddo tua £1,200. Rhoddodd yr eglwys yn Carmel £100 ato, a chasglodd ei gweinidog y gweddill mewn gwahanol barthau o Gymru a Lloegr. Mae yr achos hwn, yr un fath a'r achosion Saesonig eraill yn y cymydogaethau cylchynol, wedi dyoddef yn dost o herwydd diffyg gweinidogaeth ddigon sefydlog a galluog. Bu y rhai canlynol yn olynol yn gweini i'r eglwys fechan hon, am adegau byrion, yn ystod y deunaw mlynedd diweddaf: E. W. Johns, a G. Greig, mewn cysylltiad ag eglwys Saesonig Brynmawr; F. G. Andrews, mewn cysylltiad a'r eglwys Saesonig yn Nhredegar; a B. W. Evans, George Applegate, ac Alexander Scott, mewn cysylltiad a'r eglwys yn y Tabernacl, Penycae. Gweinidogion Penycae a'r Brynmawr sydd yn bresenol yn gofalu am y lle. Mae yr ysgoldy eang sydd tu cefn i'r capel wedi ei sicrhau mewn gweithred ddiogel at wasanaeth yr