Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/262

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu casglu yn nghyd gan y gweithiau glo. Bu Mr. Jenkins, Rhymni, yn pregethu yn fisol, a mynychach, yn Mhɔntaberbargod, tua dwy filldir islaw New Tredegar, am ddeng mlynedd ar hugain cyn dechreu yr achos hwn, ond nid yw yn debygol y buasai un achos Annibynol yn cael ei sefydlu rhwng Rhymni a Salem, oni buasai i agoriad y gweithiau glo dynu lluaws o drigolion i'r lle. Yn y flwyddyn 1860, daeth llawer o aelodau perthynol i'r Annibynwyr, o eglwysi Rhymni, Tredegar, Cendl, &c., i fyw i'r ardal, ac yn fuan dechreuasant gynal moddion crefyddol yma mewn anedd-dai. Yn niwedd y flwyddyn hono dechreuwyd adeiladu capel, yr hwn a agorwyd Mai 26ain a'r 27ain, 1861. Yr oedd rhif yr aelodau y pryd hwnw rhwng 60 a 70, ac erbyn diwedd y flwyddyn 1863 yr oeddynt yn 104. Yn Tachwedd, 1864, urddwyd Mr. David Jones, o athrofa Aberhonddu, yma; ac y mae wedi bod yn llafurus a thra llwyddianus yn y lle hyd yn awr, (Awst, 1870); pryd y mae ar symud i gymeryd gofal yr eglwys yn Nghwmbwrla, Abertawy. Yn mhen tua blwyddyn ar ol urddiad Mr. Jones, gosodwyd oriel yn y capel, yr hyn a'i helaethodd yn fawr. Mae ynddo tua 500 o eisteddleoedd, ac y mae yn mhob ystyr yn addoldy hardd a chyfleus. Capel yr Uchdir y gelwir ef, oblegid ei fod wedi cael ei adeiladu ar ran o'r fferm a elwir Cefn yr Uchdir. Ar dir Arglwydd Tredegar y mae yn sefyll. Mae y gweithfaoedd yn y ddwy flynedd ddiweddaf wedi bod yn farwaidd iawn, ac felly, yn y tymhor hwn, ymadawodd pump a deugain o'r aelodau o'r ardal, ond eto mae y nifer sydd ar ol tua chwech ugain. Mae y gymydogaeth yn un bwysig iawn, ac yn debygol o gynyddu mewn poblogaeth am flynyddau etto. Hyderwn yr anfona yr Arglwydd yn fuan fugail wrth fodd ei galon i'r ddiadell ieuangc a gobeithiol hon.

EGLWYS SAESONAEG BLAENAFON.

Rhoddasom eisoes hanes helaeth am yr achos Cymreig yn y lle yma, ond y mae yma hefyd achos Saesonaeg wedi ei ddechreu er's blynyddau, ac yn myned rhagddo yn llwyddianus. Ffurfiwyd yr eglwys yma ar yr 22ain o Fawrth, 1863, yn neuadd y dref, pan yr ymgyfamododd 16 o aelodau i fod yn gymdeithas gristionogol. Corpholwyd hi yn rheolaidd gan y Meistriaid Thomas Griffiths, Blaenafon; Jason Jenkins, Pontypool, a George Thomas, Brynbiga; a theg yw dyweyd mai aelodau o eglwys Gymreig Bethlehem, oedd y rhan fwyaf o'r 16 a unasant. Mae yr eglwysi Cymreig a'u gweinidogion yn haeddu parch mawr ar gyfrif eu parodrwydd i roddi gollyngdod i nifer o'u haelodau, ac yn aml yr yr aelodau goreu o ran eu hamgylchiadau, i fyned i ddechreu achosion Saesonaeg. Yn mhen tua blwyddyn wedi corpholiad yr eglwys, darfu iddynt gyttuno a'r Bedyddwyr am hen gapel gwag o'r eiddynt hwy; ac ynddo y buont yn addoli dros yspaid. Yn hwn yr ordeiniwyd Mr. Daniel Evans, o athrofa Caerfyrddin, ar y 14eg a'r 15fed o Fedi, 1864, pryd y gweinyddwyd gan y Meistri W. Morgan, Caerfyrddin; T. Rees, Casgwent; J. Davies, Caerdydd; R. Thomas, Hanover, a Jason Jenkins, Pontypool. Wedi iddynt addoli yn dawel yma am dair blynedd, prynwyd y capel uwch eu penau gan y Wesleyaid, fel y bu raid iddynt ddychwelyd i'w hen babell yn neuadd y dref; lle digon annghyfleus ac anfanteisiol i'r achos. Yn y cyfwng tywyll hwn, ac er fod yr eglwys yn wan a thlawd, ymgalonogodd, ac aeth