Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/263

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r anturiaeth o adeiladu addoldy prydferth, mewn man cyfleus a chanolog, lle gallesid disgwyl llwyddiant, gyda bendith yr Arglwydd. Ar yr 11eg o Orphenaf, 1867, gosodwyd i lawr gareg sylfaen yr addoldy newydd gan H.O. Wills, Ysw., Bristol, pryd y traddodwyd anerchiadau, ganddo ei hun, W. Graham, Ysw., (maer) Casnewydd, yn nghyd a'i frawd o Cheltenham, ac amryw weinidogion. Yr oedd traul adeiladiad y capel newydd yn 1000p. Ar y 18fed o Fehefin, 1868, agorwyd ef. Cynaliwyd amryw gyfarfodydd mewn cysylltiad a'r agoriad. Pregethwyd gan Meistriaid H. T. Robjohns, o New-Castle-on-Tyne; J. Davies, Caerdydd; J. Evans, B.A., Milford; R. Thomas, Hanover; P. W. Darnton, B.A.; H. Oliver, B.A., Casnewydd; a T. Rees, D.D., Abertawy. Wedi i'r eglwys fod am ychydig fisoedd heb weinidog, trwy symudiad Mr. D. Evans i Narbeth, Penfro; ar yr 21ain o Hydref, 1869, sefydlwyd David Thomas, gynt myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, yn fugail ar yr eglwys. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Meistriaid H. Oliver, B.A.; P. W. Darnton, B.A., Casnewydd; J. Davies, Caerdydd; W. Morgan, Caerfyrddin; H. Jones, Ffaldybrenin. Mae yr achos yn myned rhagddo, a gwedd siriol ar bob peth.

ADOLYGIAD AR HANES Y SIR

Wrth adolygu hanes yr achos yn sir Fynwy, am fwy na dau cant a deg ar hugain o flynyddoedd, yr ydym yn barod i ddywedyd, "Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd." Mae y winwydden a blanwyd yn Llanfaches yn mis Tachwedd 1639, wedi gwreiddio a llenwi y tir. "Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod, a'i changhenau oedd fel cedrwydd rhagorol. Hi a estynodd ei changau hyd y mor, a'i blagur hyd yr afon." Er na bu y llwyddiant mor helaeth ag y buasid yn dymuno, nac mor helaeth hwyrach ag y gallesid disgwyl yn ol yr afael foreu a gafodd yr efengyl yn y sir; etto ni bu y "llafur yn ofer yn yr Arglwydd." Mae yr eglwys hono oedd y pryd hwnw yn "trigo yn unig yn y coed," erbyn heddyw wedi ymledu yn 62 o ganghenau, a llawer o honynt yn cyfrif eu haelodau wrth y canoedd. Y mae sir Fynwy wedi ei rhanu yn ddau gyfundeb-y cyfundeb Cymreig yn cynwys 35 o eglwysi, a'r cyfundeb Saesonaeg yn cynwys 27 o eglwysi. Mae y rhanau brasaf o'r sir gan y Saeson, ond yn y rhanau hyny y mae lleiaf o gynydd wedi bod. A gadael allan yr achosion newydd sydd wedi eu codi yn Nghasnewydd, a'r eglwysi Saesonaeg sydd wedi eu ffurfio yn y rhanau gweithfaol, ychydig iawn o gynydd sydd wedi ei wneyd yn y rhanau hollol Seisnigaidd o'r sir, yn yr haner can' mlynedd diweddaf; ac y mae yn ddrwg genym ddyweyd fod amryw o'r eglwysi yn wanach yn mhob ystyr yn awr nag