yr oeddynt yn nechreuad y ganrif bresenol. Nid yw yr hen eglwysi Saesonaeg, a ddylasai fod yn ffynonellau cryfion o ddylanwadau iachusol ar y wlad fras o'u hamgylch, wedi gwneyd ond y nesaf peth i ddim o blaid eangiad achos y Gwaredwr yn y sir; ac am yr achosion Saesonaeg yn y rhanau gweithfaol, y mae agos y cwbl a wnaed wedi ei wneyd gan y gweinidogion a'r eglwysi Cymreig, gyda chynnorthwy ychydig o gyfeillion gweithgar a haelionus y tu allan iddynt. Mae yr eglwysi Cymreig wedi darparu, nid yn unig ar gyfer eu hangenrheidiau eu hunain, ond y maent hefyd wedi gorfod darparu ar gyfer y dyfodiaid Saesonaeg, a'r Cymry sydd yn troi yn Saeson; neu yntau oddef i'w holl lafur crefyddol gael ei wrth-weithio gan ddylanwad arferion llygredig a ddygid i'w mysg gan estroniaid o iaith a chenedl.
Mae yr eglwysi Cymreig gan mwyaf oll yn gyfyngedig i'r rhanau gweithfaol o'r sir, ac felly yn cyfranogi o holl fanteision ac anfanteision yr eglwysi hyny yn gyffredinol. Dyfodiaid o siroedd Aberteifi, a Phenfro, a Chaerfyrddin, ac yn neillduol o sir Frycheiniog, ydyw llawer iawn o aelodau hynaf yr eglwysi Cymreig yn sir Fynwy. Mae yn wir fod plant llawer o'r rhai hyny yn awr, y rhai a anwyd ac a fagwyd yn y sir, yn gwneyd i fyny ran fawr o'r eglwysi; ond dyfodiaid i'r wlad oedd rhieni y rhan fwyaf o honynt. Ceir mewn amryw o'r eglwysi gryn nifer o ddyfodiaid o'r Gogledd, neu y rhai y daeth eu rhieni yn yr oes o'r blaen i lawr o'r Gogledd.
Os nad ydym yn camsynied, y mae yn eglwysi sir Fynwy yn ol eu rhifedi fwy o Ogleddwyr nag a geir mewn eglwysi o'r un dosbarth yn sir Forganwg. Dichon fod yr hawsdra gyda pha un y gallesid dyfod i lawr o'r Gogledd i'r sir, mewn blynyddau a aethant heibio, yn rheswm am hyny; a hwyrach fod y ffaith fod cryn lawer o Ogleddwyr wedi bod yn gweinidogaethu yn y sir, fel y gwelir yn hanes amryw o'r eglwysi, yn cyfrif am hyny. Ond y mae yn yr eglwysi er hyny nifer luosog o frodorion gwreiddiol y sir; ac nid ydynt, a dyweyd y lleiaf, "yn ol mewn un dawn" i'r dyfodiaid o siroedd eraill sydd wedi ymsefydlu yn eu plith; a dyfod bellach gyda hwy yn un bobl, a thrwy wahanol gysylltiadau wedi ymdoddi i'w gilydd. Ond yr oedd yr amrywiaeth yma ar un adeg yn anfantais i gyd-weithrediad. Deuai pob un o'i wlad gan dybied fod y cynlluniau a welodd yn gweithio yn yr eglwys lle y dygwyd efi fyny yn anffaeledig; ac wrth fod yn aml gynifer o wahanol gynlluniau ag oedd o bersonau, gorchwyl anhawdd yn fynych oedd atal gwrthdarawiad rhyngddynt; ac edrychai yr hen