Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/266

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

peryglon. Tybiai llawer yn yr eglwysi fod rhai gweinidogion yn ymyraeth yn ormodol a hawliau yr eglwysi; nid yn unig yn llywodraethiad eu heglwysi gartref, ond hefyd yn eu cyfarfodydd chwarterol a'u cymanfaoedd. Yr oedd son am dderbyn eglwysi i'r cyfundeb—ceryddu eglwysi yn y cyfundeb a diarddel eglwysi o'r cyfundeb, yn rhywbeth nad ydoedd yn gydnaws a'u teimladau. Nid felly y dysgasant hwy Annibyniaeth, ac aethant i gredu fod rhyw rai am eu hysbeilio o'r rhyddid y mae Annibyniaeth yn ei sicrhau, a'u dwyn yn gaeth dan iau ryw gaethiwed. Yr ydym yn mhell o feddwl fod neb yn amcanu at ddim o'r fath beth; ond yr ydym ar yr un pryd yn addef fod y dull anochelgar y geiriwyd rhai penderfyniadau a gyhoeddwyd yn enw cyfundeb Mynwy, yn rhoddi sail i ddynion drwgdybus i feddwl hyny; yn enwedig gan eu bod cael eu cyhoeddi pan oedd Siartiaeth wedi llenwi meddyliau y lluaws a'r fath eiddigedd o swyddogaeth ac awdurdod pawb a gyfrifid mewn goruchafiaeth. Ond y mae hyn oll yn mysg y pethau a fu; ac am fwy na phum' mlynedd ar hugain, y mae eglwysi Mynwy wedi mwynhau heddwch agos yn ddidor; a thô newydd o weinidogion ac aelodau wedi codi na wyddant, ond yn unig mewn hanes, am y tymhestloedd brofodd eglwysi y gweithfeydd mewn amser a fu; ond a ddangosodd er hyny fod eu gwreiddyn yn ir ynddynt, ac y gallasant oroesi yr holl ystormydd.

Yr ydym yn teimlo fod y wedd symudol sydd wedi bod ar y weinidogaeth yn y sir yn anfantais i'w llwyddiant; ac y mae yr eglwysi Saesonig yn y rhanau gweithfaol, yn arbenig, wedi dyoddef oddiwrth hyn. Dynion ieuaingc heb gael ond ychydig o brofiad, yn dyfod i'r ardal ac heb aros yno ond dros dymor byr, nis gallesid disgwyl iddynt wneyd y gwaith sydd yn rhaid ei wneyd, cyn y bydd i achos wreiddio a chael gafael mewn ardal. Mae amryw o'r achosion Saesonaeg newyddion, wedi dyoddef yn fawr oddiwrth y mynych symudiadau sydd wedi cymeryd lle; a chyfle wedi ei roddi yn yr argyfwng rhwng y naill weinidog a'r llall, i ddynion hyfion i ymwthio i'r awdurdod o'r rhai y mae digonedd i'w cael bob amser yn nglyn ag achosion newyddion.

Mae yn nodedig i'w ganfod yn hanes eglwysi y sir yma, mai ychydig mewn cydmariaeth o'r rhai a anwyd ynddi godwyd i bregethu. Cawn nifer luosog o bregethwyr wedi codi yn eglwysi y sir; ond dyfodiaid o'r siroedd gorllewinol oeddynt gan mwyaf; nid rhyw lawer o arweinwyr sydd iddi o'r meibion a fagodd. Mae amryw wedi codi o bryd i bryd—yn wir,