Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/268

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

redinol yn mysg eglwysi o'r un dosbarth mewn siroedd eraill. Mae siroedd eraill erbyn hyn wedi dyfod i fyny a hi, os nad wedi myned heibio iddi, ond sir Fynwy a fu ar y blaen am flynyddau.

Ond yr hyn yn arbenig sydd yn nodweddu sir Fynwy ydyw, mai yma y mae agwedd drawsnewidiol Cymru o'r Gymraeg i'r Saesonaeg yn fwyaf amlwg o un sir yn y Dywysogaeth. Mae yma eglwysi lle na phregethid gair o Saesonaeg bum' mlynedd ar hugain yn ol, na chlywir nemawr air o Gymraeg ynddynt yn awr; ac eglwysi eraill, oblegid glynu yn ormodol wrth yr iaith, wedi colli eu gafael ar yr ardalwyr, ac enwadau eraill wedi myned i mewn i'w llafur. Yr ydym mor awyddus a neb am barhad yr iaith Gymraeg, ond nid yw ond gwaith ofer i geisio rhwyfo yn erbyn y llifeiriant. Rhaid i ni gymeryd pethau fel y maent, a gwneyd y goreu o honynt. Y ffaith yw, y mae yr iaith Saesonaeg yn dyfod yn genllif dros rai rhanau o'r wlad, ac y mae sir Fynwy yn engraifft nodedig o hyny; ac os mynwn ni ddal ein gafael yn y tir sydd wedi ei feddianu gan ein tadau, a sicrhau yr oes sydd yn codi i grefydd ac i'n henwad, y mae yn rhaid darparu moddion gras iddynt yn yr iaith y maent yn medru arni. Mae y mwnau wedi eu gweithio allan mewn rhai parthau o'r sir, a lluaws o'r Cymry wedi ymfudo, fel nad yw yn debyg y gwelir yr eglwysi Cymreig yn lluosocach nag ydynt yn bresenol, ac oni wneir ymdrech egniol i ddarparu ar gyfer cynydd y boblogaeth Saesonaeg, nis gellir disgwyl y bydd i'r enwad yn y sir ddal i fyny mewn rhifedi. Mae yn dda genym weled arwyddion mor eglur fod yr eglwysi Cymreig yn teimlo hyn, ac yn cydweithredu er gwneyd y ddarpariaeth angenrheidiol. Buasai yn dda genym allu dyweyd fod yr un egni a pharodrwydd i'w weled yn eglwysi y cyfundeb Saesonaeg. Ac edrych ar bethau yn gyffredinol, yr ydym yn teimlo wrth adael sir Fynwy fod golwg iachus a chalonog ar ein henwad. Mae heddwch a chydweithrediad yn ffynu yn yr eglwysi—y pwlpudau yn cael eu llenwi gan weinidogion o fywyd pur, a doniau cymeradwy—holl sefydliadau crefydd yn cael eu cadw mewn cyflwr o fywiogrwydd a gweithgarwch; ac er nad oes llwyddiant neillduol yn cymeryd lle, nes peri "sain can a moliant yn mhyrth merch Seion;" etto y mae arwyddion amlwg a diamheuol fod yr "amddiffyn ar yr holl ogoniant."