a'r canlyniad fu i'r Senedd sefyll dros y wlad a hawlio rhyddid, a'i fynu trwy rym arfau, pryd nad oedd dim arall yn tycio. Mae haneswyr toriaidd ac esgobyddol wedi arfer rhoddi camddarluniad gwaradwyddus o'r rhyfel yn nyddiau Siarl I., sef ci osod allan fel rhyfel y Puritaniaid Ymneillduol yn erbyn yr Eglwys Wladol, ond nis gall dim fod yn fwy anghywir na hyny. Eglwyswyr proffesedig oll oedd aelodau "y Senedd hir" ar y cyntaf, ond amddiffynent ryddid gwladol a chrefyddol, yr hyn ni fynai y Brenhin, yr Archesgob, a'u pleidwyr, ei ganiatau. Rhanwyd y wlad yn fuan i ddwy blaid, sef pleidwyr trais, a phleidwyr rhyddid. Yr oedd mwyafrif dirfawr y boneddigion, y werin anwybodus, y meddwon, a phawb a gymerent eu llwgrwobrwyo, yn mhlaid y Brenhin, a'r rhan fwyaf o'r dosbarth canol o gymdeithas, megis y masnachwyr, y mân dirfeddianwyr, a'r Puritaniaid agos oll o blaid y Senedd, am fod y Senedd o blaid rhyddid. Yr oedd y Puritaniaid o ddechreuad teyrnasiad Elizabeth hyd yn awr, wedi bod yn wrthrychau gwg y penau coronog a'r esgobion; nid rhyfedd, gan hyny, iddynt uno a'r blaid a ymdrechai lifio cyrn a thori danedd eu gelynion marwol hwy. Y mae hefyd yn deilwng o sylw, fod yr holl Babyddion trwy y deyrnas, a'r dynion mwyaf annuwiol a gelynol i grefydd bur, yn mhlaid y Brenin, ac yr oedd hyny, heb son am ddim arall, yn ddigon i droi y Puritaniaid yn ei erbyn.[1] Gan nad oedd y Puritaniaid yn Nghymru ond ychydig ò rif, ac yn cyfaneddu mewn conglau tair neu bedair o siroedd, a bod y gwyr mawr a'r offeiriaid, yn cael eu dilyn gan y lluaws anwybodus, oll o blaid y Brenhin, yr oedd eu sefyllfa hwy ar doriad y rhyfel allan yn enbyd i'r eithaf. Pe buasent yn ymuno a byddin y brenhin, buasai raid iddynt ryfela yn erbyn yr egwyddorion yr oeddynt er's blynyddau wedi dyoddef llawer er eu mwyn, a phan oedd corph eu cydwladwyr gyda y Brenhin, yr oedd yn anhawdd ac yn beryglus iddynt ddangos eu hochr. Yn y cyfyngder hwn, cynghorwyd y gweinidogion i ffoi i Loegr am ddyogelwch, lle yr oedd byddinoedd y Senedd yn gryfion a lluosog, ac felly y gwnaethant. Buont yno yn ddefnyddiol o 1642, hyd 1646, pryd y dychwelasant i Gymru ar ol i Cromwell ddarostwng plaid y Brenhin, a sefydlu awdurdod y Senedd trwy yr holl wlad. Darfu i'r ychydig grefyddwyr a adawyd yn y wlad ddyoddef y triniaethau mwyaf barbaraidd rhwng 1642 a 1646. Cymerwyd ymaith eu hanifeiliaid, ysbeiliwyd a llosgwyd tai llawer o honynt, dinystriwyd eu hyd ar y maesydd, a chafodd rhai o honynt eu blingo yn fyw, a'u haner pobi o flaen tanau, ac eraill eu crogi a'u lladd mewn gwaed oer.[2] Ond er eu holl ddyoddefiadau, safasant gyda gwroldeb merthyron at eu hegwyddorion, a llwyddasant, dan yr amgylchiadau trallodus hyn, i ennill tuag wyth gant i'r ffydd, wrth fyned o dŷ i dŷ i ymddyddan am bethau crefyddol, yn ystod y pedair blynedd y buont heb weinidogion.
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/27
Prawfddarllenwyd y dudalen hon