Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/270

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLANBRYNMAIR

Mae yr eglwys enwog hon yn hen iawn, ond nid yw yn gwbl eglur pa bryd, na thrwy lafur pwy, y casglwyd ac y ffurfiwyd hi. Mae yn dra thebygol mai ffrwyth gweinidogaeth Walter Cradock ydyw, yr hwn a fu yn pregethu yn Ngwrecsam gydag arddeliad anghyffredin yn y flwyddyn 1635, ac am y tair blynedd canlynol a deithiai yn achlysurol trwy siroedd Maesyfed, Maldwyn, a Brycheiniog. Yr oedd hefyd un Roberts yn bregethwr galluog yn y Sir hon, ac yn Maesyfed mor foreu a'r flwyddyn. 1634. Mae yn debygol mai hwn yw y David Roberts am yr hwn y dywedir ei fod yn ddefnyddiol iawn yn Llangurig tua y flwyddyn 1646, a fu wedi hyny yn Llandinam, ac a symudodd i Drefaldwyn, Ebrill 29ain, 1654.[1] Cafodd y dyn da hwn ei erlid yn ddidrugaredd gan Esgob Tyddewi, yn y blynyddoedd 1634 a 1635.[2] Nis gwyddom pa cyn belled yr effeithiodd ei lafur ef yn Llanbrynmair, ond gan nad oedd ond prin un pregethwr galluog ar gyfer pob Sir yn Nghymru y pryd hwnw, mae genym bob sail i farnu fod y lle hwn yn cael rhan helaeth o'i weinidogaeth.

Ar derfyniad y rhyfel cartrefol, yn 1646, a sefydliad rhyddid crefyddol, cafodd Sir Drefaldwyn ran helaeth o weinidogaeth rhai o'r pregethwyr galluocaf yn y Dywysogaeth. Tua y flwyddyn 1650, neu cyn hyny, daeth yr enwog Vavasor Powell i fy w i Ceri, ac o hyny allan, hyd ei garchariad yn 1660, mwynhaodd Siroedd Trefaldwyn a Maesyfed rhan fwyaf o'i lafur gweinidogaethol. Cafodd amryw bregethwyr galluog eraill eu sefydlu mewn gwahanol blwyfydd, megis David Roberts yn Llandinam, Rees Jones yn y Bettws, Henry Parry yn Cemmaes, a Symon Swayne yn Machynlleth. [3] Cyn terfyniad tymor llywodraeth y senedd ac Oliver Cromwell, yn ol tystiolaeth Vavasor Powell, yr oedd un-ar-bymtheg o bregethwyr galluog yn y Sir hon, a deg o'r cyfryw wedi cael eu haddysgu yn y prif athrofau. Un eglwys y cyfrifid crefyddwyr yr holl sir o 1646 hyd yn agos at derfyniad yr erledigaeth, yn 1688, er eu bod yn cyfarfod i addoli mewn deuddeg neu bymtheg o wahanol fanau tra phell oddiwrth eu gilydd. Mwynhaodd Eglwys Sir Drefaldwyn, dangnefedd hyfryd hyd nes i rai o genhadau y Crynwyr, tua y flwyddyn 1652, ddyfod i daenu eu golygiadau yn eu plith, ac ennill rhai dysgyblion, nid anenwog o blith yr aelodau, megis Richard Davies, o'r Trallwm, a Charles a Thomas Lloyd, Ysweiniaid, a rhai eraill lled bwysig o ran eu talentau a'u safle mewn cymdeithas. Cyn fod y gofid a'r terfysg, a achlysurwyd gan gyfodiad y Crynwyr, wedi tawelu, tua diwedd y flwyddyn 1655 newidiodd Vayasor Powell ei farn am fedydd, yn dra disymwth, a chymerodd ei drochi. Gan ei fod ef yn enwog a phoblogaidd, a bod ei ddylanwad yn mysg crefyddwyr y Sir yn ddirfawr, dilynwyd ei siampl gan amryw o aelodau yr eglwys wasgaredig, a chymerasant hwythau eu trochi ; ac er i Mr Powell a'i blaid ddal yn selog hyd y diwedd dros gymundeb cymysg, etto dygodd yr amrywiaeth golygiadau ar fedydd lawer o ddadleuon a theimladau annymunol i fysg yr aelodau. Gydag adferiad Siarl II, yn 1660, ac adnewyddiad yr erledigaeth, anghofiodd y crefyddwyr i

  1. State Papers, Interregnum, Vol. 319.
  2. The Lambeth MSS., Vol. 943.
  3. State Papers, Interregnum, Vol. 319 a 286.