raddau, eu gwahaniaeth golygiadau, a chydunasant i gydweithredu a chyd-ddyoddef dros yr egwyddorion mawrion yr oeddynt oll yn cydolygu arnynt.
Gan fod Vavasor Powell yn wr cyhoeddus ac enwog iawn, ac nid yn unig yn Ymneillduwr selog, fel crefyddwr, ond hefyd yn werinwr o ran ei olygiadau gwladyddol, a bod amryw o'i bobl yn cydolygu ag of yn y pethau hyn, dechreuodd ystorm erledigaeth ruthro ar bobl grefyddol Sir Drefaldwyn gyda y rhai cyntaf yn Nghymru ar ol adferiad Siarl II. Yn Mai 1660 y daeth y brenin i Lundain, ac yn Mehefin, yr oedd rhai o grefyddwyr Maldwyn yn ngharchar, fel y dengys y llythyr canlynol, a ysgrifenwyd gan Mr Powell tua diwedd Mehefin, 1660:—
"At fy anwyl frodyr, Henry Williams, Capt. L. Price, a Thomas Fudge, carcharorion yn y Trallwm.
Anwyl Frodyr,—Yr oeddwn yn teimlo yn ddwys oherwydd eich dyoddefiadau er pan y clywais gyntaf am eich trallod, ond oherwydd fy ymrwymiadau i bregethu mewn gwahanol fanau, yn nghyda marwolaeth a chladdedigaeth y chwaer dduwiol hono yn Sir Faesyfed, nis gellais ddychwelyd hyd yn hwyr lawn y chweched dydd ; er hyny, y ddoe yn foreu, penderfynais ymdrechu sicrhau eich rhyddhad chwi, er i mi wrth hynny, o bosibl, beryglu fy rhyddid fy hun, ac felly siaredais yn gyntaf a'r Is-Sirydd, yna aethum i'r Drefnewydd gyda bwriad siarad a'r Uchel-Sirydd, heb wybod llai na fuasai yn fy anfon yna atoch chwi, canys cefais ar ddeall ei fod wedi penderfynu fy nedfrydu inau i garchar. Felly, ar ol ystyriaeth ac ymgynghoriad, mi a ysgrifenais lythyr ato, copi o ba un yr wyf yn amgau yn hwn, ac hanfonais iddo gyda Mr. Payne, yr hwn yn wir a amlygai deimlad dwys tuag atoch a throsoch chwi ; ac o'r diwedd atebodd yr Uchel-Sirydd fel y canlyn gyda golwg arnoch sef y cewch eich rhyddid y foru, ond i chwi anfon rhyw gyfeillion cyfrifol ato ef i fachnio yr ymddangoswch chwi ger ei fron ef pa bryd bynag y galwo am danoch. Gwnewch, gan hyny, yn ddioed yr oll a fedroch yn hyn, rhag i eraill etto droi ei feddwl, a rhag y dichon i hanes y cyffroadau mawr sydd yn awr yn Llundain, gyda y Post nesaf, rwystro y cwbl. Yr wyf fi dan addewid ddychwelyd y foru i Sir Faesyfed i bregethu, pe amgen buaswn yn dyfod atoch fy hun. Yr oeddwn wedi bwriadu bod gyda chwi neithiwr, ond methais orphan fy ngwaith hyd ar ol machlud haul. Yr wyf fi yn barod i ymrwymo drosoch cyn belled ag y mae fy meddianau, ac hyd yn nod fy mywyd yn myned. Yr wyf yn anfon i chwi yn y llythyr hwn un bunt a deg swllt y rhai yr wyf yn dymuno arnoch eu rhanu rhyngoch yn ol fel y mae eich hamgylchiadau yn gofyn. Dymunais yn daer trwy Mr. Payne am ryddhad i'm cyfaill gonest Sam, ond nis gellais gael un addewid am hyny nes y clywo ef rywbeth am Sir Richard Saltonstall, pa un a ydyw wedi rhoddi ei hun i fyny yn Llundain ai nad yw. Yr Arglwydd a santeiddio i chwi ac ninau ein dyoddefladau. Gallwn ddisgwyl ychwaneg o ddyoddefiadau neu waredigaeth ryfeddol yn fuan. Nid ychwanegaf gan fy mod mown brys mawr.
Eich gwir serchog Frawd,
Bore Dydd yr Arglwydd.V. Powell.
OY. Cofiwch fi at y brawd Quarrell, a'r lleill. Ar ol i chwi ddarllen y copi amgauedig, cedwch ef yn ddiogel i mi."
Ymddengys i'r brodyr gael eu rhyddhau dranoeth i ysgrifeniad y llythyr uchod, ond ychydig ddyddiau o ryddid a gawsant ; oblegid yr ydym yn cael i'r Uchel-Sirydd, Syr Mathew Price, yr hwn oedd erlidiwr creulon, anfon Capt. Price, Henry Williams, a V. Powell, i garchar drachefn yn nechreu Gorphenaf 1660.[1] Nid oedd hyn ond dechreuad gofidiau. Yn fuan, llanwyd y carcharau yn y Sir gan Ymneillduwyr i'r fath raddau, fel nad oedd yno le i ladron ac yspeilwyr ; a chymaint oedd creulondeb yr awdurdodau, fel y trinient y crefyddwyr gyda llawer mwy
- ↑ State Papers, Charles II 's reign, vol. viii.