o anmharch a chreulondeb nag y trinient y drwgweithredwyr; ie, gosodent y drwgweithredwyr mewn ystafelloedd clud ar lofftydd y carchardy, tra y gosodent yr Ymneillduwyr i orwedd ar ychydig wellt ar y lloriau lleithion; ac yr oedd amryw o honynt wedi cael eu gosod yn ymyl y geudy (privy), o'r hwn y rhedai ysgarthion y carcharorion atynt. Yr oedd yn mysg y dioddefwyr hyn amryw amaethwyr parchus a gwragedd tyner, a rhai a fuasent ychydig fisoedd cyn hyny yn ynadon heddwch yn y sir.[1] Nis gwyddom pa nifer o bobl Llanbrynmair oedd yn mysg y dioddefwyr hyn; ond gan i'r erledigaeth barhau, agos yn ddiattal, o 1660 hyd 1688, mae yn ddiau i amryw o honynt hwy gael eu rhan o'r tywydd garw.
Bu carchariad V. Powell, Captain Price, a Henry Williams, yn nghyd a llawer ereill o aelodau " Eglwys Sir Drefaldwyn," yn 1660, a'r blynyddau canlynol, yn foddion i wasgaru y dysgyblion, ac i wneyd y winllan, i raddau pell, yn anrhaithedig; ond methodd yr holl ystormydd a'i llwyr ddifrodi. Cyfarfyddai yr amrywiol ganghenau mewn anedd-dai yn ngwahanol barthau y Sir, i gynal moddion crefyddol, er holl enbydrwydd yr amseroedd. Mae yn ddiamheu fod y gangen yn, ac oddeutu, Llanbrynmair yn cynal moddion crefyddol yn y tymor hwn, er nad ydym wedi taro wrth un crybwylliad am hyny mewn un llyfr argraffedig na llawysgrifen, fel y cawn am rai lleoedd ereill. Yn llawysgrifau Lambeth, enwir amryw leoedd yn Maldwyn lle y cynhelid cyfarfodydd gan yr Ymneillduwyr yn 1669; ac mewn hen lyfr yn y Record Office yn Llundain, sydd yn cynwys enwau y lleoedd a drwyddedwyd at bregethu yn 1672, enwir rhai manau yn y sir hon, ond ni sonir am Lanbrynmair yn y naill na'r llall o'r hen lawysgrifau hyn. Dichon mai y rheswm am hyn ydyw fod y lle yn mhell oddiwrth yr ynadon, y boneddigion, a'r offeiriaid mwyaf erlidgar, a bod yr ychydig grefyddwyr a breswylient yn y cymoedd dirgel hyn, fel y Waldensiaid yn Nyffrynoedd Piedmont, i raddau wedi dianc sylw eu herlidwyr. Yr ydym yn cael yn nyddlyfr Henry Maurice, am Awst 30ain, 1672, iddo ef y diwrnod hwnw bregethu i gynnulleidfa luosog yn Llanbrynmair, pan yr oedd ar ei daith o'r Amwythig i Leyn.
Ar ol i'r gynnulleidfa fod am lawer o flynyddau yn cyfarfod o dy i dy yn yr ardal, tua'r flwyddyn 1675, cafodd yr arch gartref sefydlog mewn amaethdy o'r enw Ty Mawr. Neillduwyd ystafell o'r ty yn lle i addoli, ac yno y buwyd yn ymgynull am bedair blynedd a thri ugain, nes y codwyd y capel yn 1739. Nid oedd yr ystafell ond bechan a diaddurn, ond bu yn gartref i'r arch nes ei dwyn i'w thrigfan sefydlog yn y capel newydd, a elwir erbyn hyn yn Hen Gapel.
Wedi carchariad Mr Powell, bu y gangen yn Llanbrynmair, yn gystal a'r canghenau ereill trwy y sir, yn mwynhau gweinidogaeth Mr Hugh Owen, Bron y Cludwr; Mr Henry Williams, o'r Ysgafell; Mr Raynallt Wilson, o Aberhafesp; Mr John Evans, o Groesoswallt, tad y Dr. John Evans, Llundain, a thri phregethwr cynorthwyol, y rhai a ddesgrifir gan yr erlidwyr fel y canlyn:—David Phillips, dilledydd, o blwyf Llandyssil; Richard Baxter, gwas amaethwr, o blwyf Tregynon; a Morris Williams, cylchwr (cooper), o Llanfyllin Mae yn ymddangos mai Mr Hugh Owen yn unig a gydnabyddid fel y gweinidog o 1660 hyd 1672. Ar yr 28ain o Awst, yn y flwyddyn hono, urddwyd Mr Henry Williams yn gynorthwywr iddo. Yr oedd Mr Henry Maurice, ac ereill, yn cymeryd rhan yn
- ↑ Hanes bywyd R. Davies y Crynwr.