Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/273

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gwasanaeth, a gweddiwyd yr urdd weddi gan Mr James Quarrell, o'r Amwythig. Bu farw Mr Williams tua y flwyddyn 1685. Yn mhen rhyw ychydig amser ar ol hyny, urddwyd un o aelodau yr eglwys drachefn yn gynorthwywr i Mr Owen, sef Mr Raynallt Wilson, o Aberhafesp, yr hwn oedd yn pregethu oddiar y flwyddyn 1669, os nad cyn hyny. Haera Mr Joshua Thomas, hanesydd y Bedyddwyr, mai Bedyddwyr oedd Mr Henry Williams a Mr R. Wilson, ond nid ydym wedi gweled un prawf o hyny yn ein holl ymchwiliadau, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb. Dengys cofnodion y Bwrdd Henadurol yn Llundain fod Mr Wilson yn derbyn cymhorth blynyddol o'r drysorfa hono o 1690 hyd 1713. A ydyw yn unwedd yn debygol y buasai y Bwrdd Henadurol, y rhai oeddynt yn yr oes hono mor ragfarnllyd tuag at y bobl a alwent yn Ail Fedyddwyr, yn cyfranu arian am dair blynedd ar hugain i un o weinidogion sect y coleddent y fath ragfarn tuag ati? Mae yn hysbys fod yr Henaduriaid o'r dechreuad yn cynorthwyo gweinidogion yr Annibynwyr, fel eu gweinidogion eu hunain; ond ni ddeallasom erioed eu bod yn ddigon rhyddfrydig i gynorthwyo gweinidogion y Bedyddwyr, nes iddynt tua diwedd y ganrif ddiweddaf fyned yn Ariaid ac Undodiaid—yna taflasant eu trysorfa i raddau yn agored i Ymneillduwyr selog o bob plaid. Bu farw Mr Hugh Owen yn 1699; a'i fab Mr John Owen, yr hwn a fuasai am ychydig yn gynorthwywr i'w dad a Mr Wilson, a fu farw yn lled ddisymwth yn 1700. Tua yr amser hwn, yr oedd Mr Francis Turner, un o aelodau yr eglwys, a Bedyddiwr o farn, wedi ei alw i gynorthwyo yn y weinidogaeth, ond ymadawodd i gymeryd gofal eglwys o Fedyddwyr yn Warrington. Mehefin 16eg, 1702, cafodd Mr Rees Protheroe ei urddo gan Mr Mathew Henry, Mr D. Jones, o'r Amwythig, a Dr. Charles Owen, i fod yn weinidog i'r eglwys yn Sir Drefaldwyn; ac y mae yn sicr i'r gangen yn Llanbrynmair gael ei rhan o'i weinidogaeth yntau. Bu Mr Protheroe yn llafurio yn y Sir hon hyd 1712, pryd y symudodd i Gaerdydd. Dilynwyd ef gan Mr William Jervice yn 1713. Yr oedd amryw Fedyddwyr yn yr eglwys er dyddiau Mr V. Powell, ac nid ymddengys iddynt gael un gweinidog sefydlog yma o'u golygiadau eu hunain er ymadawiad Mr Powell, ond Mr Francis Turner, dros ychydig o amser fel gweinidog cynorthwyol. Ymddengys fod y Bedyddwyr yn anfoddlon i ddewisiad Mr Jervice, am y chwenychent gael gweinidog o'u barn eu hunain. Pa fodd bynag, aeth pethau yn mlaen yn lled dawel hyd ar ol marwolaeth yr hen weinidog Mr Wilson, yr hyn a gymerodd le ryw bryd rhwng 1715 a 1720. Yna, gan fod holl eglwysi y Sir dan ofal Mr Jervice, nis gallasai ymweled a Llanbrynmair a'i changhenau ond anfynych; ac er mwyn boddloni y rhai oedd yn yr eglwys dros fedydd trochiad, cydunwyd i gael cymhorth gweinidogion y Bedyddwyr o'r Dolau a'r Pentref yn Sir Faesyfed. Gan fod ychwaneg nag un gweinidog yn mhob un o'r eglwysi hyny, yr oeddynt yn gallu dyfod i Lanbrynmair a'r canghenau mor fynych fel yr oedd rhyw ran o'r eglwys yn cael pregeth gan y naill neu y llall ohonynt agos bob Sabboth trwy y flwyddyn. Esgorodd hyn yn raddol ar fesur o oerni rhwng y Bedyddwyr a Mr Jervice, fel mai y canlyniad fu iddo ef tua y flwyddyn 1730, neu yn i an ar ol hyny, ymadael yn hollol a Llanbrynmair, a chyfyngu ei lafur i Lanfyllin a'r canghenau perthynol i'r lle hwnw. Ymhyfhaodd y Bedyddwyr bellach yn Llanbrynmair, fel y llwyddasant i gael gan yr eglwys i roddi galwad i Mr Benjamin Meredith, o Lanwenarth, Mynwy, Bedyddiwr proffesedig. Mae yn ymddangos fod