Mr Meredith yn bregethwr poblogaidd iawn, ac i'r gynnulleidfa gynyddu yn fawr yn y tymor byr y bu ef yn llafurio yno. Ar ol bod yno ar brawf am flwyddyn neu ychwaneg, cafodd ei urddo yn 1733; ond cyn pen blwyddyn ar ol hyny, ymwrthododd yr eglwys ag ef, oherwydd y barnent nad oedd yn iachus yn ei farn ar rai o brif athrawiaethau crefydd. Yn y flwyddyn 1734, galwodd yr enwog Edmund Jones o Bontypool heibio i Lanbrynmair, ac arweiniodd sylw yr eglwys at Mr Lewis Rees, gwr ieuangc gobeithiol oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr yn Athrofa y Llwynllwyd, Sir Faesyfed.
Galwodd hefyd sylw Mr Lewis Rees at Lanbrynmair a'r amgylchoedd, fel maes nodedig i ddyn ieuangc gweithgar i lafurio ynddo. Boddlonodd Mr. Lewis Rees i fyned i Lanbrynmair ar yr amod i'w gyfaill ddyfod i'w hebrwng yno, ac a hyny y cydsyniodd yr "hen broffwyd" o Bontypool. Rywbryd yn gynar yn y flwyddyn 1734, dacw y ddau gyfaill yn cychwyn, a phan ar fynydd Carno goddiweddwyd hwy gan gysgodau yr hwyr, a chan fod y ddau yn gwbl ddyeithr aeth yn ddyryswch hollol arnynt. Maent yn Nghoedyfron yn myned yn mlaen yn araf a lluddedig, ac wedi colli y ffordd yn lan. Crwydro y maent yn ol ac yn mlaen dan gysgodau yr hirnos; ac yn ei byw ni fedrent gael allan o'r dyryswch. Yn eu penbleth dyna y ddau yn troi i ymddiddan a'u gilydd am Dduw a'i bethau. Gwresogwyd eu calon yn yr ymddiddan — llanwyd hwy a'r Yspryd Glan — a phrofasant y fath gymundeb a Duw nes yr oedd y lle iddynt yn borth i'r nefoedd. Yr oedd eu meddyliau mor dawel a gorfoleddus fel nad oeddynt yn gofalu am fyned allan oddiyno. Ond yn ddisymwth dacw hwy allan o'r coed, ac yn ddiarwybod. iddynt eu hunain pa fodd, cyrhaeddasant y Ty Mawr erbyn dau o'r gloch y boreu. Wedi cyrhaedd y ty, yn lle galw am wely fel y gallesid disgwyl i un yn ei ludded mawr wneyd, wele Edmund Jones yn myned i ystafell o'r neilldu, ac y mae yno mewn ymdrech meddwl yn gweddio dros ei gyfaill ieuangc Lewis Rees am nodded ac amddiffyn y Goruchaf drosto, ac am lwyddiant ar ei weinidogaeth. Daeth allan o'r ystafell " a'i wyneb yn dysgleirio fel wyneb angel," a phrofodd Llanbrynmair, a phrofodd gogledd Cymru i weddi Edmund Jones gael ei gwrando.
Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Rees, a bu yn rhyfeddol o ddefnyddiol yma, ac mewn amryw fanau eraill yn y gogledd, am lawer o flynyddau. Yn fuan ar ol sefydliad y gweinidog ieuangc lluosogodd y gwrandawyr ac amlhaodd y cymunwyr yn fawr. Cynhyrfodd hyny lid rhai o elynion yr achos fel y llwyddasant i droi y gynnulleidfa allan o'r Ty Mawr, lle buasai yn ymgynnull er's mwy na thriugain mlynedd. Yn wyneb hyn bu raid iddynt edrych allan am le i adeiladu capel, yr hwn a adeiladwyd, fel y crybwyllasom eisioes, yn 1739, a thrwy ymdrech egniol Mr Rees casglwyd digon yn fuan i dalu traul yr adeiladaeth. Bu Mr Rees yn llafurio yn Llanbrynmair, a'r ardaloedd cylchynol, o 1734 hyd 1738, cyn iddo gael ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Yn Mlaengwrach, Cwmnedd, Morganwg, ei fam eglwys, yr urddwyd ef, Ebrill 13eg, 1738, pryd y gweinyddodd Meistri James Davies, Merthyr; Roger Howells, Cwmllynfell; Joseph Simons, Chwarelau Bach; Edmund Jones, Pontypool; David Williams; Richard Rees; a Henry Davies, gweinidog y lle. Dichon mai y rheswm paham yr urddwyd ef yno yn hytrach nag yn Llanbrynmair, maes ei lafur, ydoedd prinder gweinidogion yn y gogledd i weinyddu ar yr achlysur, tra yr oeddynt yn gymharol luosog ac agos at eu gilydd yn y Deheudir. Yn mhen tair neu bedair blynedd ar ol adeil-