adu y capel, derbyniodd Mr Rees alwad oddiwrth yr eglwys yn Maes-yr-onen, Maesyfed, a symudodd yno yn groes iawn i ewyllys ei gyfeillion yn Llanbrynmair. Yn y ty bychan wrth Hen Gapel Llanbrynmair y ganwyd Dr. Abraham Rees, mab Mr L. Rees, yr hwn wedi hyny a ddaeth yn wr enwog yn ei oes.
Yr ydym yn casglu oddiwrth ryw awgrymiad o eiddo Mr J. Thomas yn Hanes y Bedyddwyr mai yr achos penaf o'i ymadawiad oedd yr anghydwelediad oedd yn yr eglwys yn nghylch bedydd. Ond nid yw yn ymddangos iddo dori ei gysylltiad yn llwyr a Llanbrynmair, oblegid cyrchai yno yn rheolaidd bob mis drwy yr holl amser y bu yn Maesyronen; ac yn mhen tair blynedd dychwelodd yno yn llwyr er llawenydd mawr i'w gyfeillion. Yr ydym yn barnu mai yn y flwyddyn 1746 y dychwelodd. Ar ol llafurio yma drachefn gyda llawer o ddiwydrwydd a llwyddiant hyd flwyddyn 1759, symudodd i'r Mynyddbach, gerllaw Abertawe, lle treuliodd weddill ei fywyd.
Dilynwyd Mr Rees yn y weinidogaeth yn Llanbrynmair gan Mr Simon Williams. Nid ymddengys iddo ef aros yma ond rhy brin dair blynedd. Symudodd oddiyma i Dredustan, Brycheiniog lle y bu hyd ei farwolaeth. Gallwn grybwyll yma i Mr John Tibbott, un o aelodau yr eglwys, fod am rai blynyddau— yn gynorthwywr i Mr Rees yn y weinidogaeth yn Llanbrynmair, ac iddo fod yno yn llafurio am bum mlynedd ar ol ei ymadawiad. Yn 1763, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Esgeirdawe, Sir Gaerfyrddin, lle y bu farw yn 1785. Nis gwyddom pa un a gafodd ei urddo yn Llanbrynmair ai naddo.
Ar ol ymadawiad Mr Simon Williams rhoddwyd galwad i Mr Richard Tibbott, brawd Mr John Tibbott, yr hwn oedd yn aelod gwreiddiol o'r eglwys ond a fuasai am bum mlynedd ar hugain yn llafurio yn mysg Methodistiaid. Urddwyd ef yn mis Tachwedd 1762, a pharhaodd i lafurio yma gyda llwyddiant anghyffredin hyd derfyn ei oes yn 1798. Ymddengys iddo yn nhymor ei weinidogaeth, o Tachwedd 1762 hyd Ionawr 1798, dderbyn pum cant ond pedwar o aelodau i'r eglwys. Cafodd ei loni gan ddau adfywiad nodedig yn y gynnulleidfa. Y cyntaf yn 1778, pryd yr ychwanegwyd llawer at yr eglwys, ac y lluosogodd y gwrandawyr fath raddau fel y bu raid helaethu y capel; yr ail oedd adfywiad bythgofiadwy 1787, yn yr hwn yr oedd dylanwadau anorchfygol yn cael eu teimlo, ac yr ychwanegwyd tua phedwar ugain a deg at yr eglwys mewn yspaid o ddeuddeg mis.
Yn nechreu y flwyddyn 1795, penderfynodd Mr Tibbott a'r eglwys, gan fod llesgedd henaint yn ei rwystro ef i gyflawni ei waith fel gynt, i roddi galwad i Mr John Roberts, un o'r aelodau, yr hwn oedd yn awr ar orphen ei amser yn Athrofa Croesoswallt, i ddyfod yn gynorthwywr yn y weinidogaeth. Urddwyd Mr Roberts, Awst 25ain, 1796 Ar yr achlysur, traddodwyd y gynaraeth gan Mr J. Griffiths, Caernarfon. Derbyniwyd ei gyffes gan Dr. George Lewis. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr R. Tibbott. Traddodwyd y cyngor i'r gweinidog gan Dr. Jenkin ac i'r eglwys gan Mr B. Jones, Pwllheli; a bu ef a'r hen weinidog yn cydlafurio gyda'r brawdgarwch mwyaf. Ar ol marwolaeth Mr Tibbott, yn 1798, rhoddodd yr eglwys ail alwad i Mr Roberts i fod yn ganlyniedydd iddo, ac i gymeryd y gofal gweinidogaothol yn gyflawn. Bu Mr Roberts yn llafurio yn y cylch pwysig hwn, gyda llwyddiant mawr, a chyda chymaint o barch ag un gweinidog yn Nghymru. Gan fod ysgol