Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/276

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dr. Daniel Williams yn Llanbrynmair, a chylch y weinidogaeth yn eang, a Mr Roberts yn heneiddio, teimlid fod angen cynorthwywr arno, ac fel yr oedd yn hollol naturiol disgwyl, dewisodd yr eglwys ei fab hynaf, Mr Samuel Roberts, yn gynorthwywr iddo, ac ar derfyniad ei amser yn Athrofa y Drefnewydd, derbyniodd Mr S. Roberts yr alwad, ac urddwyd ef Awst 15fed, 1827. Ar yr achlysur, traddodwyd y gynaraeth gan M. Jones, Llanuwchllyn. Gofynwyd y gofyniadau arferol gan Mr J. Griffith, Tyddewi. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr Jenkin Lewis, Casnewydd.. Pregethwyd i'r gweinidog ieuangc gan Mr Edward Davies, Drefnewydd, ac i'r eglwys gan Mr W.Williams, Wern. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth hefyd gan Meistri C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Llanrwst; D. Morgans, Machynlleth; T. Griffiths, Hawen; J. Breese, Llynlleifiaid; W. Morris, Llanfyllin; W. Jones, Rhydybont; Williams, Llanfairmuallt; D. Williams, Llanwrtyd; J. Davies, Llanfair; J. Jones, Main; J. Ridge, Bala. [1] Llafuriodd Mr S. Roberts fel plentyn gyda thad am naw mlynedd, hyd nes y rhoddwyd terfyn ar fywyd defnyddiol yr hybarch John Roberts, Gorph. 21ain, 1834.

Bu y gofal yn hollol ar Mr S. Roberts, am fwy na blwyddyn wedi marw Mr Roberts; ond ar derfyniad tymor Mr John Roberts, ail fab yr hen weinidog yn Athrofa y Drefnewydd, rhoddodd yr eglwys alwad iddo i fod yn gyd-weinidog a'i frawd, Mr S. Roberts, yn yr Hen Gapel, a'r canghenau cysylltiedig. Urddwyd Mr John Roberts Hyd. 8fed, 1835. Darluniwyd natur eglwys gan Mr J. Griffiths, Tyddewi. Gofynwyd yr holiadau arferol i'r gweinidog a'r eglwys gan Mr D. Morgan, Machynlleth. Gweddiodd Mr E. Davies, Drefnewydd, am fendith ar yr undeb. Anerchwyd y gweinidog gan Mr D. Williams, Llanwrtyd, a'r eglwys gan Mr J. Breese, Caerfyrddin. Gweinyddwyd hefyd mewn cysylltiad a'r Urddiad yn Llanbrynmair a Charno gan y Meistri H. Lloyd, Towyn; H. Pugh, Llandrillo; C. Jones, Dolgelleu; M. Jones, Llanuwchllyn; J.Griffiths, Rhaiadr; J. Roberts, Capel Garmon; R. Rowlands, Henryd; E. Price, Ruthin; T. Lewis, Llanfairmuallt; W. Jones, Amlwch; W. Rees, Heol Mostyn; D. Price, Penybont; T. Jones, Minsterley; W. Morris, Llanfyllin; J. Williams, Dinas; H. Morgan, Samah; J. Williams, Llansilyn; J. Davies, Llanfair . E. Evans, Abermaw; ac E. Hughes, Treffynon. [2]

Bu y ddau frawd yn cyd-lafurio am flynyddau, gyda pharch a dylanwad mawr, fel canlynedyddion eu tad parchedig. Trwy gysylltiadau priodasol, symudodd Mr J. Roberts am dymor, yn 1838, i Lansantsior, a bu am yspaid blwyddyn yn gofalu am yr eglwysi yn Llansantsior a Moelfra; ond heb lwyr dorri ei gysylltiad a'r eglwys yn Llanbrynmair. ystod ei absenoldeb ef bu Mr Hugh James, yn awr o Lansantffraid, yn gofalu am yr ysgol ddyddiol, yn Llanbrynmair; ac yn cynorthwyo Mr S. Roberts yn y weinidogaeth. Dychwelodd Mr J. Roberts yn mhen y flwyddyn i Lanbrynmair, a bu yno yn cydlafurio a'i frawd hyd 1847, pan y derbyniodd alwad o Ruthin, ac y symudodd yno, ac ni ddychwelodd mwyach i Lanbrynmair. Yr oedd y gofal bellach yn llwyr ar Mr S. Roberts, ond trwy gael cynorthwy athraw i'r ysgol ddyddiol, a rhoddi eglwys Carno i fynu, a chyfyngu ei weinidogaeth i'r Hen Gapel a Beulah; yr oedd yn gallu gwneyd heb gydlafurwr.

  1. Dysgedydd 1827. Tudal. 276
  2. Dysgedydd 1835. Tudal. 380.