Yn 1857, gwnaeth Mr. S. Roberts ei feddwl i fyny, er galar i filoedd o'i gyfeillion yn Llanbrynmair a holl Gymru, i ymadael a hen faes ei lafur ef a'i henafiaid, ac ymfudo i America. Yr oedd canoedd, o bryd i bryd, o aelodau Hen Chapel Llanbrynmair, wedi ymfudo i America; ac yn eu plith lawer o'r dynion goreu a fu yn yr eglwys yn mhob cyfnod yn ei hanes. Dichon nad oes yr un eglwys yn Nghymru ag y mae cynifer o'i haelodau wedi ymfudo i America ag eglwys Llanbrynmair. Nis gellir myned i unrhyw sefydliad amaethyddol Cymreig, braidd trwy yr Unol Dalaethau, na welir yno rai o Lanbrynmair. Mae y cysylltiad yma sydd rhwng pobl Llanbrynmair a'u cyfeillion yn America, yn gwneyd fod yn hawdd iawn ganddynt ymfudo; a chariodd hyny, y mae yn lled sicr, yn mysg pethau eraill, ddylanwad ar feddwl Mr Roberts, er ei ddwyn i benderfyniad i adael gwlad ei dadau.
Wedi ymadawiad Mr S. Roberts, bu yr eglwys am dymor heb sefydlu ar weinidog. Ond yn gynar yn y flwyddyn 1861, rhoddasant alwad i Mr David Rowlands, B.A., myfyriwr yn Athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef Mehefin 5ed a'r 6ed. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Williams, Castellnewydd. Holwyd y gofyniadau gan Mr J. Williams, Aberhosan. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr H. Morgan, Samah. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr W. Ambrose, Porthmadog, ac i'r eglwys gan Mr J. Roberts, Conway. Yr oedd yn bresenol ar yr amgylchiad tua 30 o weinidogion. Yn nhymor gweinidogaeth Mr Rowlands, adgyweiriwyd y capel, a muriau y fynwent o'i amgylch, a'r rhan fwyaf o'r ysgoldai, a chafwyd Harmonium i'r capel, a thalwyd yr oll o'r ddyled. Derbyniodd Mr Rowlands alwad oddiwrth yr eglwys Seisnig yn y Trallwm, a phenderfynodd symud yno; a Hydref 30ain, 1866, cynhaliwyd cyfarfod ei ymadawiad yn Llanbrynmair, pan yr anrhegwyd ef a phwrs ac £20 ynddo, fel arwydd o'u teimlad da tuag ato; ac y cyflwynwyd anerchiad iddo wedi ei arwyddo gan y diaconiaid.
Yn Mawrth 1867, rhoddwyd galwad i Mr Owen Evans, o Wrecsam, i weinidogaethu yma, ac efe yw y gweinidog presenol.
Yr ydym yn llafurio dan anfantais i roddi hanes manwl o rif a chynydd yr eglwys hon yn ngwahanol gyfnodau ei hanes o ddiffyg defnyddiau, ac yn neillduol o herwydd fod agos holl Ymneillduwyr y sir yn cael eu cyfrif yn un eglwys hyd ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac am rai blynyddau wedi hyny. Dywedir fod yr achos yn lled gryf a'r gwrandawyr yn lluosog yn Llanbrynmair yn amser gweinidogaeth Vavasor Powell, Hugh Owen, a Henry Williams; ond ymddengys iddo wanychu o flwyddyn i flwyddyn o amser marwolaeth Hugh Owen hyd ddechreuad gweinidogaeth B. Meredith; ac mai dan weinidogaeth effeithiol Lewis Rees y cyfodwyd ef i rym cyffelyb i'r hyn ydoedd yn nhymor gweinidogaeth y gweinidogion cyntaf. Yn 1715-17, pan gasglodd y Dr. John Evans, Llundain, ystadegau yr eglwysi Ymneillduol, nid oedd cynnulleidfa Llanbrynmair ond pedwar ugain a deg o rif, yn aelodau a gwrandawyr. Un tirfeddianwr oedd yn eu plith, a dau o'r gynnulleidfa oedd a phleidlais — un dros y Sir, a'r llall dros y bwrdeisdrefi. Yr oedd cangen o'r eglwys y pryd hwnw yn ymgynnull yn Nhrefeglwys, ac yn gant o rif, ond oll yn bobl dlodion, heb un tirfeddianwr, amaethwr, na masnachwr yn eu mysg. Dywed Mr Thomas yn Hanes y Bedyddwyr i'r achos gryfhau yn fawr yn mlynyddau cyntaf gweinidogaeth Mr Rees, ond ei fod wedi gwanychu drachefn cyn iddo symud o'r lle, ac mai tua chant ac ugain oedd rhif yr aelodau pan