Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/278

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymadawodd ef. Ond y mae yn lled sicr mai ffurfiad eglwysi gwahanedig mewn lleoedd eraill a wanychodd yr achos yn Llanbrynmair, ac nid aflwyddiant gweinidogaeth Mr Rees. Dan weinidogaeth fywiog Mr Tibbott, cynyddodd yr eglwys yn raddol a chyson, fel yr oedd yr aelodau yn y flwyddyn 1777 yn 240 o rif, o ba rai yr oedd 16 yn Fedyddwyr o ran golygiadau. Parhaodd yr achos i ychwanegu ei gryfder trwy holl amser Mr Tibbott, a'i ganlyniedydd Mr Roberts, fel yr oedd eglwys Llanbrynmair yn hir cyn marwolaeth Mr Roberts yn un o'r eglwysi gwledig lluosocaf, cyfoethocaf, a mwyaf haelionus yn y Dywysogaeth. "Am y deugain mlynedd cyntaf o'i hanes, bu y gynnulleidfa heb un lle rheolaidd i addoli, ond cyfarfyddent mewn ty, neu mewn coedwig, yn ol eu cyfleusdra a'u hamgylchiadau. O gylch y flwyddyn 1675, neillduwyd ystafell ganddynt yn y Ty Mawr at wasanaeth crefyddol, a chawsant lawer cymdeithas felus yn ystod y pedair blynedd a thri ugain y buont yn cyfarfod yno. Adeiladwyd yr addoldy yn 1739. Cafodd ei helaethu yn 1778, a'i ail adeiladu yn 1821; ac heblaw ail adeiladu yr addoldy, yr hyn a gostiodd i'r gynnulleidfa saith cant o bunau, darfu iddynt yn y pymtheg mlynedd diweddaf godi chwech o adeiladau cryfion a helaeth er cyfleusdra i wahanoh ganghenau yr ysgol Sabbothol, o werth yn nghyd dros bum cant o bunau; a darfu iddynt hefyd, yn ychwanegol at eu tanysgrifiadau tuag at gynal y weinidogaeth, a'u casgliadau at yr achos Cenhadol, Gymdeithas Feiblaidd, Athrofa Gwynedd, a sefydliadau eraill, gyfranu oddeutu chwe' chant o bunau at gynorthwyo cynnulleidfaoedd ereill yn adeiladiad eu haddoldai."[1]

Heblaw Aberhafesp a Phenarth, y canghenau o'r fam eglwys a ffurfiwyd yn eglwysi Annibynol yn y ddeunawfed ganrif, cafodd Carno, Llanerfyl, a Beulah eu gollwng i fod yn eglwysi Annibynol yn y ganrif bresenol, a gellir ystyried y rhan fwyaf o'r eglwysi o'r Drefnewydd i Fachynlleth, i raddau mwy neu lai, fel canghenau o'r hen gyff yn Llanbrynmair. Ac er fod ei merched yn lluaws, y mae yr hen fam etto yn gref a llewyrchus, heb arni ddim arwyddion henaint a methiant.

Cafodd llawer o bregethwyr, a rhai o honynt yn ddynion enwog iawn, eu cyfodi yn yr eglwys hon. Nid ydym yn sicr ein bod wedi dyfod o hyd i enwau pawb ohonynt. Wele yn canlyn gynnifer ag y gallasom ddyfod i wybod am danynt:—

Francis Turner. Bu am dymor yn weinidog cynorthwyol yn ei fam eglwys. Tua dechreu y ddeunawfed ganrif, symudodd i Warrington, lle y bu farw yn 1727, yn 73 oed. Bedyddiwr o farn ydoedd.

Richard Jenkins. Bu am lawer o flynyddau yn weinidog eglwys Annibynol yn Bromesgrove. Mae yn ein meddiant lythyr a ysgrifenodd at ei hen weinidog Mr Lewis Rees, dyddiedig Ionawr 25ain, 1777, yn yr hwn y dywed ei fod yn dri ugain ac wyth mlwydd oed, a'i fod wedi bod yn y weinidogaeth yn Bromesgrove am naw mlynedd ar hugain. Tebygol iddo fod yn gweinidogaethu mewn rhyw fan neu fanau eraill cyn myned yno. Nis gwyddom pa bryd y bu farw.

John Tibbott. Gweler ei hanes ef yn nglyn ag Esgairdawe.

Richard Tibbott. Daw ei hanes ef yn ein Cofnodion Bywgraphyddol.

Benjamin Cadman. Darfu iddo yntau, fel ei gyfaill R. Tibbott, ymuno a'r Methodistiaid, a bu gyda hwy fel cynghorwr am tua thair blynedd,

  1. Hanes bywyd y Parch. J. Roberts,tudal, 11.