yna dychwelodd at ei hen frodyr. Bu am lawer o flynyddau yn weinidog yn Mitcheldean, Sir Gaerloew. Yr oedd newydd fyned oddi yno yn 1777. Nis gwyddom yn mha le na pha bryd y bu farw. Dywed Mr Thomas, Hanesydd y Bedyddwyr, ei fod yn wr duwiol, er ei fod. dros fedydd plant.
David Jervice. Cymeradwywyd ef gan yr eglwys i Athrofa Abergavenny Rhagfyr 28ain, 1781. Nis gwyddom ychwaneg am dano. Mae yn debygol ei fod yn rhyw berthynas i'r hen weinidog Mr W. Jervice.
John Roberts. Gweler ei hanes ef yn nes yn mlaen.
George Roberts, brawd Mr John Roberts. Ymfudodd i'r America yn 1795, a bu yno yn enwog a defnyddiol iawn fel gweinidog a gwladwr am yn agos i dri ugain mlynedd.
David Lewis. Dechreuodd bregethu yn 1808. Ymsefydlodd yn gyntaf yn Newport, Sir Amwythig. Symudodd oddi yno i Erdington, gerllaw Birmingham. Yn 1831, ymfudodd i'r America, ac ymsefydlodd yn Pennsylvania, lle yr oedd llawer o'i geraint. Yr oedd yn nai i'r Meistriaid John a George Roberts.
John Breese, o Liverpool, ac wedi hyny o Gaerfyrddin. Rhoddir ei hanes yn nglyn a Chaerfyrddin.
Evan Davies (Eta Delta). Daw ef dan ein sylw yn nglyn a Newmarket, lle y terfynodd ei weinidogaeth.
Samuel Roberts. Dechreuodd bregethu yn 1820. Mae ei enw a'i hanes yn hysbys i bob darllenydd Cymreig. Hyderwn na fydd galwad neb am flynyddau etto ysgrifenu ei gofiant.
John Roberts, yn awr o Gonwy. Mae yn adnabyddus trwy holl Gymru wrth y ddwy lythyren J. R. Dechreuodd bregethu tua y flwyddyn 1830.
Thomas Owen. Ymfudodd i'r America.
John Davies. Yn awr o Spring Green, Wisconsin, America.
Evan Lewis. Gorphenodd ei yrfa pan yn parotoi i'r Coleg.
David Jones. Yn awr o Abersoch, Arfon.
Morris Jones. Gwr ieuangc o'r eglwys yma a aeth drosodd i America, a ddechreuodd bregethu yno, ac a urddwyd yn gynorthwywr i Mr George Roberts, Ebensburgh.
Y mae hen eglwys Llanbrynmair o oes i oes wedi magu llawer o wyr a gwragedd talentog, rhagorol mewn crefydd, a chedyrn yn yr Ysgrythyrau, heblaw y rhai a aethant yn bregethwyr; ond nid oes genym ddefnyddiau wrth law i roddi eu hanes, ond anfonwyd i ni y crybwyllion canlynol am rai o honynt:-
Richard Hughes, Cwmcarnedd-uchaf, yr hwn oedd yn fwy ei ddylanwad o blaid trefn, mewn byd ac eglwys, nag unrhyw Ynad Heddwch yn y Sir. Meibion iddo ef oeddynt Cadben William Hughes, yr hwn yn ngwres ei wladgarwch a ymrestrodd i'r Milisia pan oedd y gair allan fod Napoleon y Cyntaf yn parotoi at oresgyn Lloegr, a'r hwn yn nyddiau cyntaf ei ymarferiadau milwraidd, a nychodd ei iechyd, ac a gymerwyd i orphwysfa gwlad yr hedd, ar gychwyniad gyrfa nodedig o obeithiol fel gwladwr ac fel crefyddwr; a'i frawd Ezekiel Hughes, o Cleves, Ohio, cymydog a chyfaill i'r Arlywydd Harrison, a thad ynghyfraith y cariadus a'r gweithgar B. W. Chidlaw, A.C., Brawd Richard Hughes, hynach nag ef, Edward Hughes,o Gwmcarnedd-isaf, roddodd dir, ar amod hael, yn y cwr mwyaf cyfleus ar a feddai, at godi yr Hen Gapel a chael claddfa yn ei ymyl; yr hwn nas gallesid gael y pryd hyny mewn unrhyw gwr arall