Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/280

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r ardal; a da genym feddwl fod yspryd hael yr hen dadau, o'r ddau Gwmcarnedd, mor wresog ag erioed, yn eu hwyrion a'u gor-wyrion. Samuel Breese, o'r Coed, yr hwn a ymollyngodd i weddio o'r galon pan ddiffoddodd ei ganwyll uwchben y weddi ysgrifenedig oedd Lewis Rees wedi gyfansoddi iddo. Yn Felin Dolcadfan, mewn cymundeb rhydd a chynes gydag eglwysi yr Annibynwyr a'r Trefnyddion Calfinaidd, ar ol bod yn ddefnyddiol yn Mochdref a Llanwnog, y gorphenodd y dirodres Evan Roberts, tad John a George Roberts, ei yrfa yn bump a phedwar ugain. oed. Thomas Williams, o'r Felin, yr hwn oedd yn athraw tyner i ddysgyblion ieuangaf y gymdeithas grefyddol. Richard Thomas, Trefolwern, cynes iawn ei galon, a gwlithog iawn ei ddoniau gyda'r ysgol Sul. Shon Humphrey ffraeth ei ymadrodd a gwresog ei brofiad, - a'i wir weddw Catrin yr hon a gadwai " ddyledswydd'" lawn reolaidd, ar ei haelwyd isel fechan heb fod neb yno gyda hi ond teulu y nefoedd. Y cywir a'r gonest a'r diwyd Josia Jones, Braichodnant, blaenor y gan am lawer o flynyddoedd; a'i frawd ynghyfraith pwyllog, y diacon Richard Davies, Dolydan; a'r athrawus Edward Evans, Llawrycoed, yr hwn a arferai ddarllen anerch o'r Evangelical Magazine, neu bregeth o waith rhyw hen Buritan, pan y byddai y gweinidog oddicartref. Roland Dafydd, Cwmclegernant, ewythr yr efengylydd hyawdl Thomas Davies o Lanuwchllyn, a Samuel Breese o Gwmcalch, y rhai oeddynt yn enwog am eu ffyddlondeb yn dyfod dros y bryniau i'r capel yn brydlawn a difwlch, drwy bob tywydd er garwed eu llwybr. A John Hughes, Cwmcarnedd-uchaf, nodedig am ei garedigrwydd fel cymydog, ei foneddigeiddrwydd fel gwladwr, a'i ffyddlondeb fel crefyddwr. Byddai ei air yn yr eglwys yn " derfyn ar bob ymryson," ac ar ei ol ef ni ddywedid mwyach. A'i gyd-ddiacon arafaidd Athelstan Owen (brawd Mr. John Owen, T.C.), yr hwn ar gychwyniad achos Dirwest, a drodd ei Fragdy mawr yn dai annedd, rhag iddo brofi yn brofedigaeth i deuluoedd yr ardal. A'r dirodres a'r addfwyn Richard Jones, Tymawr; a'r hynaws Thomas Jones, o'r Plas, a Stephen Rees, Clegerddwr, nodedig o ran eu ffyddlondeb a'u gofal am achos Iesu Grist.

Ond yr amser a ballai i ni grybwyll am yr hen dadau a'r mamau o Gwmderwen a'r Beudyhir, a Thynygors, a Phantywaun, Ty Llwyd, Bryngwyn, a'r Hendref, a'r Pandy, a Phenygeulan, a'r Dafarn Newydd, a'r Ddolfach, y rhai a daenent berarogl Crist yn mhob cylch ac yn mhob cyfarfod lle y byddent. [1]

Diau fod llawer eraill o rai rhagorol wedi bod yn yr hen eglwys barchus hon, ac na chyrhaeddodd eu henwau hyd atom ni. Nid ydym am grybwyll enwau y ffyddloniaid sydd yn aros; ond siaredir yn barchus am wasanaeth yr hen frawd William Jones, Tawelan, sydd yn awr yn Allen Co., Ohio, ac mor ymdrechgar y bu, yn enwedig gyda chodi yr Ysgoldy yn y Bont. Yr ydym yn gobeithio y megir yma lawer o oes i oes i fod yn ddilynwyr teilwng o'u tadau, "y rhai trwy ffydd ac amynedd sydd wedi etifeddu yr addewidion."

Mae yr hen eglwys enwog hon trwy yr oesau wedi bod yn nodedig ,am ei heddwch a'i hundeb, oddi eithr fod ychydig o rwgnachrwydd distaw wedi bod ynddi yn y ddwy ganrif ddiweddaf oherwydd amrywiaeth barn am fedydd. Parhaed heddwch o fewn eu rhagfuriau, a ffyniant yn ei phalasau hyd derfyn oesau y ddaear.

  1. Llythyrau. Meistri S. Roberts, ac O. Evans