cafodd Mr. Powell, pan yn pregethu ar faes, yn sir Faesyfed, ei ddal a'i anfon i garchar, gan Mr. Hugh Lloyd, yr Uchel-Sirydd, yr hwn oedd yn berthynas agos iddo. Yr oedd gweinyddiad y warant wedi ei ymddiried i ddau-ar-bymtheg o heddgeidwaid, ond darfu iddynt oll ond un wrthod gwneyd dim o honi. Darfu i'r un hwnw, wrth fyned a Mr. Powell tua'r carchar, ganiatau iddo letya noswaith yn ei dŷ ei hun, yr hwn oedd ar eu ffordd tua'r carchardy, ac effeithiodd ei weddiau yn y teulu y noson hono mor ddwys arno fel nas gallasai fyned ag ef yn mhellach. Efe a adawodd y carcharor yn ei dy ei hun, ac a aeth ymaith, ond darfu i'r gweinidog erlidiedig, er rhagflaenu unrhyw ofid i'r heddgeidwad, ymrwymo gyda dau feichiau i ymddangos yn mrawdlys nesaf Maesyfed. Yn y brawdlys cafodd ei ryddhau yn anrhydeddus oddiwrth y cyhuddiadau a ddygesid yn ei erbyn, ac er mawr siomedigaeth i'w erlidwyr, gwahoddwyd ef i giniawa gyda'r barnwr. Parhaodd yr Uchel-Sirydd er hyny yn elynol iddo, ac ni orphwysodd hyd nes iddo ei erlid allan o'r wlad. Er achub ei fywyd, efe a ffodd i Lundain. Cyrhaeddodd yno yn Awst, 1642. Efe a arhosodd yn Lloegr am bedair blynedd a chwe' mis. Bu am y ddwy flynedd gyntaf yn pregethu yn Llundain, ac am y ddwy flynedd a haner ddiweddaf yn Dartford, yn Kent. Yr oedd yn rhyfeddol o boblogaidd a defnyddiol yno. Cyn gynted ag y tawelodd ystorm y rhyfel, aeth rhai o aelodau yr eglwys Ymneillduol yn sir Faesyfed, yr holl ffordd i Kent i wahodd eu bugail parchus i ddychwelyd atynt hwy. Cyn ei ddychweliad, efe a ymddangosodd ger bron Pwyllgor Cymanfa y Duwinyddion yn Westminster, yr hwn oedd wedi ei bennodi gan y Senedd i holi a chymeradwyo pregethwyr cyhoeddus, lle yr holwyd ef. Yr oedd rhai o'r Pwyllgor am iddo dderbyn urddiad Henadurol, ond gan ei fod yn Annibynwr diysgog, ac fel y cyfryw yn amheu hawl Pwyllgor o Weinidogion i urddo neb heb gydsyniad yr eglwys y bwriedid yr urddedig i weini ynddi, efe a wrthododd gymeryd ei urddo ganddynt. Ar ol ychydig ddadl rhyngddo ef a Mr. Stephen Marshall, un o aelodau y Pwyllgor, cydunwyd i roddi iddo y gymeradwyaeth ofynedig, heb iddo gymeryd ei urddo, yr hon a law-nodwyd gan ddau-ar-bymtheg o'r Pwyllgor, yn mysg y rhai yr ydym yn cael enwau Joseph Caryl, William Greenhill, Jeremiah Burroughs, Christopher Love, William Strong, Jeremiah Whitaker, Phillip Ney, &c.
Ar ei ddychweliad i Gymru, daeth yn un o'r dynion mwyaf llafurus ae effeithiol i daenu yr efengyl yn mysg ei gydwladwyr. Pregethai yn fynych ddwy a thair gwaith y dydd, ac anfynych y byddai am ddau ddiwrnod o un wythnos trwy y flwyddyn heb bregethu. Nid oedd braidd un eglwys, capel, na neuadd tref trwy yr holl Dywysogaeth lle nad oedd wedi bod yn pregethu. Byddai yn fynych yn pregethu mewn ffeiriau, marchnadoedd, ar y maesydd, ar benau y mynyddoedd, a pha le bynag y gallai gael pobl i bregethu iddynt. Mae yn anmhosibl ffurfio drychfeddwl cywir am helaethrwydd ei lafur yn Nghymru o'r flwyddyn 1646 hyd 1660.
Yr oedd Mr. Powell yn un o'r pregethwyr effeithiolaf a mwyaf poblogaidd yn ei oes, a dydd y farn yn unig a ddatguddia pa faint o ddaioni y bu yn offerynol i'w wneyd. Gan nad yw y goreu o blant Adda yn berffaith, nid oedd yntau heb ei wendid. Dichon iddo ar rai achlysuron drin offeiriaid anwybodus a boneddigion rhagfarnllyd Cymru gyda gormod o lymder, a bod angerdd ei ddyoddefiadau yn ei flynyddoedd diweddaf i'w briodoli i raddau i hyny. Efallai y gellid hefyd ddweyd ei fod i raddau