Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/283

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn rhy ymyrgar gyda phethau gwladol, ac yn gwneyd yn rhy eofn, yn y fath oes derfysglyd a'i oes ef, wrth wthio i'r cyhoedd ei olygiadau fel gwerinwr. Bu ei ymosodiad diarbed ar Oliver Cromwell a'i Weinyddiaeth, yn nghyd a newidiad disymwth ei farn ar fedydd yn 1655, yn gryn niwed i'w ddefnyddioldeb a'i ddylanwad yn Nghymru; ond wedi y cwbl, dylai ei goffadwriaeth fod yn anwyl a pharchus gan holl Ymneillduwyr Cymru.

Dichon na ddoyddefodd un Cymro yn ei oes ef gymaint dros ei grefydd a Vavasor Powell. Cafodd ei ddal yn Ebrill 1660, a'i gadw am tua naw wythnos yn ngharcharau y Trallwm a'r Amwythig. Yn Gorphenaf 1660 daliwyd ef drachefn, gan Uchel-Sirydd Maldwyn, am nad attaliai bregethu ar fygythiad y gwr hwnw. Ar ol bod am rai misoedd yn garcharor yn Maldwyn, symudwyd ef i'r Fleet Prison yn Llundain, lle y cadwyd ef yn gaeth mewn ystafell fechan, afiachus, ac aflan, am yn agos ddwy flynedd. Ar y 30ain o Fedi, 1662, symudwyd ef o Lundain i Gastell Southsea, ger llaw Portsmouth, lle y bu yn garcharor am fwy na phum mlynedd. Ar gwymp Clarendon, a lleddfiad yr erledigaeth i raddau, cafodd ei ollyngdod unwaith etto trwy orchymyn y brenin. Cyn pen llawn ddeng mis ar ol hyn, cafodd ei ddal drachefn a'i garcharu. Aethai i'r Bath a Chaerodor er mwyn ei iechyd, ac wrth fyned oddi yno adref, trwy Ddeheudir Cymru, pregethodd i gynnulleidfaoedd lluosog mewn gwahanol fanau yn sir Fynwy. Aeth i Ferthyr Tydfil, lle y pregethodd i tua mil o bobl yn agos i Eglwys y Plwyf, oddiwrth Jeremiah xvii. 7, 8. Tra yr ydoedd yn pregethu, darfu i George Jones, offeiriad y plwyf, gychwyn gyda brys tua Chaerdydd i ymofyn awdurdod i'w ddal. Yn mysg pethau eraill, tyngodd fod Mr. Powell yn cael ei ddilyn gan dorf o ddynion arfog. Yn foreu y dydd canlynol, daeth un Major J. Carne, a nifer o filwyr, i Ferthyr, a daliasant Mr. Powell yn ei letty. Pan ofynodd iddynt ar ba awdurdod yr oeddynt yn ei ddal, ysgydwodd Carne ei gleddyf, a dywedodd mai ar awdurdod hwnw. Wedi myned ag ef i Gaerdydd, rhoddwyd ef yn ngharchar yno. Cymerodd hyn le tua Hydref 1668. Ar ol llawer o ffug brawfiadau, yn Nghaerdydd a'r Bontfaen, darfu i gyfaill i Mr. Powell yn Llundain fynu cyfodi yr achos i lys uwch; ond methwyd cael gan Uchel-Sirydd Morganwg i ollwng ei ysglyfaeth o'i balfau nes ei fygwth a dirwy o gan' punt. Mai 16eg, 1669, symudwyd ef o Gaerdydd i Lundain. Ymddangosodd ger bron y Court of Common Pleas yno ar yr 22ain o'r un mis; ac er nas gellid profi un o'r cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn, ni chaniatawyd ei ryddid iddo, ond anfonwyd ef drachefn i'r Fleet Prison, yn unig er boddio ei elynion gwaedlyd. Yn y carchar hwn y bu o hyn allan nes i angau ddatod ei gadwynau am bedwar o'r gloch yn y prydnawn, Hydref 27ain, 1670. Dywedir i un o wyr y llys boreu dranoeth ddweyd wrth brenin Siarl II. "Y mae Vavasor Powell wedi cael ei ollwng yn rhydd." Pwy," ebai y brenin, "a'i gollyngodd yn rhydd?" "Brenin uwch na'ch Mawrhydi," oedd yr ateb. Ar hyny edrychai y brenin yn syn, ac aeth yn fud.

Darfu i Mr. Powell ysgrifenu tua thri ar ddeg o lyfrau. Yn yr iaith Saesonig yr ysgrifenwyd y rhan fwyaf os nid pob un o honynt, ond cyfieithwyd amryw o honynt i'r Gymraeg yn yr oes hono. Yn mysg y llyfrau a gyhoeddodd, y mae un bregeth a draddododd o flaen y senedd yn Rhagfyr 1649.[1]

  1. Rees's Nonconformity in Wales, p.p. 114-123.