Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/286

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd haner nos, nes y teimlai ei hun mor lluddedig ac oer fel yr anobeithiai am ei fywyd. Yn Rhagluniaethol, yn mhen ychydig funudau, cafodd ei hun yn ymyl beudy, i'r hwn y ceisiodd fyned i mewn, ond cafodd fod y drws yn gloedig. Wedi ymdrechu myned i mewn am tuag awr, a phan oedd pob gobaith agos a'i adael, daeth o hyd i dwll yn y mur, trwy yr hwn y gallodd ymwthio i mewn. Gorweddodd yno rhwng y gwartheg hyd y boreu, ac yna aeth allan yr un ffordd ag y daethai i fewn. Canfu dy heb fod yn mhell, a thynodd tuag ato. Pan gurodd, cyfododd gwr y ty i'w ollwng i mewn. Cafodd fod ei wallt a'i farf wedi rhewi, ei ddwy- law yn ddideimlad gan oerni, ei ddillad mor ddiblyg ag estyll gan y rhew a'r eira, ac yntau braidd yn rhy wan i siarad. Cyneuodd y dyn dân da, rhoddodd iddo laeth berwedig, a gosododd ef mewn gwely cynes, lle y gorweddodd am rai oriau. Yna cyfododd, wedi adfywio yn lled dda, ac aeth y boreu hwnw i bregethu i'r lle y disgwylid ef, a phregethodd yno gyda ei fywiogrwydd arferol.

Nis gallasai llafur dibaid a theithio gwlad noeth a mynyddig ar bob math o dywydd lai nag effeithio ar y cyfansoddiad cryfaf. Felly, rhodd- odd ei iechyd yntau ffordd yn raddol, a bu farw yn y flwyddyn 1699, yn 62 oed. Pregethwyd yn ei angladd gan Mr. James Owen, Croesoswallt, yn ol dymuniad yr ymadawedig, ond gorchymynodd i'r pregethwr beidio son dim am dano ef wrth draddodi ei bregeth angladdol. Yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ei gyfrif yn Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd twyll. Ychydig cyn ei farw, ysgrifenodd Mr. Owen lythyr o gyngor caredig i bobl ei ofal yn Meirionydd a Maldwyn, yr hwn a alwodd ei Lythyr Cymun diweddaf. Y mae o ran sylwedd fel y canlyn:—"Gochelwch fydolrwydd, rhag, fel yr ofnwyf, i'r byd, fel cancr, fwyta i fyny bob daioni mewn llawer o honoch, gan adael eich heneidiau fel cregyn sychion. Gosodwch eich hwynebau yn erbyn balchder calon, a gofelwch gadw i lawr bob meddwl uchel am danoch eich hunain ar bob cyfrif. Ymroddwch i arfer y ddyledswydd bwysig o hunan-ymwadiad; ie, llawenhewch yn mhob cyfleu i ymddarostwng i'r llwch er mwyn Iesu; gan ymdrechu bod yn barod i faddeu, anghofio, a myned heibio unrhyw beth a wneler yn eich erbyn; ymgeisiwch o flaen pob peth am heddwch. Gwyliwch rhag y dymer uchelfrydig sydd yn barod bob amser i ddywedyd, Hwy yw y troseddwyr, nid myfi; eu lle hwy yw plygu i mi, ac nid myfi iddynt hwy. Nid yw hyn ond effaith balchder, a mwy o gariad atom ein hunain nag at yr Arglwydd Iesu Grist a'i ffyrdd." Ar ol rhoddi cyfarwyddiadau i swyddwyr, ac aelodau henaf yr eglwys, gyda golwg ar y callineb a'r arafwch gofynol er rhagflaenu dadleuon yn nghylch bedydd, sylwa fod y dadleuon hyny wedi achlysuro rhwyg mawr yn Ngwrecsam, er dianrhydedd i enw Duw a mawr niwed i grefydd; a bod y rhai a gymerasent ran yn y cyfryw ddadleuon wedi cyfaddef wrtho ef iddynt wrth groes ddadleu golli presenoldeb Duw, ac iddynt osod ataliad ar y gwaith o achub eneidiau. "Yr wyf yn dymuno gwasgu hyn at eich ystyriaeth," meddai, "canys dylech oll ddymuno yn fwy am helaethu terfynau teyrnas Crist, a chael ei ddelw Ef wedi ei hargraffu ar eneidiau dynion, na'u cael wedi eu nodi gan eich hopiniynau neillduol eich hunain. Os yw delw Crist wedi cael ei hargraffu ar fy enaid, yr wyf yn sicr o gael myned i'r nefoedd; ond gallaf gael y ddau ddull o fedydd, a myned i uffern wedi y cwbl."

JOHN OWEN. Mab Mr. Hugh Owen. Yr oedd yn weinidog ieuangc gobeithiol a chymeradwy iawn, ac, ar ol marwolaeth ei dad, yr unig