Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/287

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weinidog Ymneillduol yn Meirionydd. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa yr enwog Mr. Frankland, yn Rathmel, yn sir Gaerefrog, lle y dechreuodd ei fyfyrdodau, Tachwedd 23ain, 1639, yr un amser a Mr. Thomas Baddy, o Ddinbych. Ar orpheniad ei amser yn yr athrofa, dewiswyd ef yn gydweinidog a'i dad yn ei gylch gweinidogaethol eang, yn siroedd Meirion a Maldwyn. Ond er rhagored gwr ieuangc ydoedd, fe fachludodd ei haul a hi etto yn ddydd. Aeth ar neges i'r Amwythig, a chymerwyd ef yn glaf yno, yn nhy Mr. Orton, (tadcu Job Orton, bywgraphydd Dr. Doddridge), a bu farw, ar ol naw diwrnod o gystudd, yn ddeg-ar-hugain oed, Mehefin 27ain, 1700. Aeth Mr. James Owen i'w weled y nos cyn ei farwolaeth, ac amlygodd obaith a dymuniad am i'r Arglwydd arbed bywyd un oedd mor ddefnyddiol ac angenrheidiol yn Nghymru; atebodd yntau yn addfwyn, "Balchder fyddai tybied fod ar Dduw eisieu neb o honom." Pregethodd Mr. Mathew Henry ei bregeth angladdol, a dywed yn ei ddyddlyfr, wrth gyfeirio at yr amgylchiad, "Yr oedd galar dirfawr ar ei ol, ac nid heb achos, oblegid nid oedd nemawr o wyr ieuaingc cyffelyb iddo i'w cael." Bu farw y gweinidog ieuangce gwerthfawr hwn o fewn ychydig gyda blwyddyn ar ol ei dad.

RAYNALLT WILSON. Nid oes genym ond y peth nesaf i ddim o hanes Mr. Wilson. Dywedir yn Llaw-ysgrifau Lambeth ei fod yn 1669 yn ysgolfeistr yn Aberhafesp, a'i fod yn Ymneillduwr gweithgar. Yn nghofnodion y Bwrdd Henadurol am 1690, crybwyllir am dano ef fel pregethwr teithiol yn Maldwyn. Y flwyddyn hono, fel yr ymddengys, y derbyniodd gymhorth arianol y waith gyntaf oddiwrth y Bwrdd, ac yn 1713 y derbyn- iodd y swm olaf. Yr oedd yn fyw yn 1715, ond nid ymddengys iddo fyw yn hir wedi y flwyddyn hono. Dywedir ei fod yn ysgolhaig rhagorol, ac yn ysgol feistr effeithiol. Hyn yw y cwbl a wyddom am dano.

REES PROTHEROE. Gweler hanes Caerdydd a'r Watford.

WILLIAM JERVICE. Gweler Hanes Llanfyllin.

BENJAMIN MEREDITH. Nid oes genym ddim i ychwanegu at yr hyn a nodasom mewn perthynas iddo ef.

LEWIS REES. Gweler hanes y Mynyddbach, Morganwg.

'SIMON WILLIAMS. Gweler hanes eglwysi Rhaiadr, Llandrindod a Thredwstan.

RICHARD TIBBOTT. Ganwyd y gwr rhagorol hwn yn Hafodypant, yn mhlwyf Llanbrynmair, Ionawr 18fed, 1719. Efe oedd yr ieuengaf o chwech o blant. Yr oedd ei rieni yn bobl dduwiol iawn, ac yn aelodau o'r eglwys yn Llanbrynmair, a chawsant yr hyfrydwch o weled pump o'u chwech plant yn proffesu crefydd, a dau o honynt yn weinidogion yr efengyl. Yr oedd Richard yn ofni yr Arglwydd o'i febyd, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys cyn ei fod yn llawn bymtheg oed. Felly yr oedd mewn cymundeb eglwysig yehydig fisoedd cyn i Lewis Rees ddyfod i Lanbrynmair. Dechreuodd bregethu cyn ei fod yn gyflawn ugain oed, sef tua y flwyddyn 1738. Yn fuan wedi hyny, aeth i'r ysgol i Landdowror, dan ofal yr enwog Griffith Jones. Dichon mai Mr. Rees, ei weinidog, a'i cynghorodd i fyned yno. Y canlyniad o hyny fu, iddo ymuno a'r Methodistiaid, a bu yn aelod gwasanaethgar a defnyddiol o'r cyfundeb hwnw hyd y flwyddyn 1762, pryd y derbyniodd alwad oddi- wrth ei fam eglwys yn Llanbrynmair, ac yr ymunodd drachefn a'r Annibynwyr. Yn nghymdeithasfa y Methodistiaid, a gynhaliwyd yn y Watford, Morganwg, yn Ionawr, 1742, penderfynwyd iddo fod yn ym-