Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/288

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

welwr cyffredinol a'r cymdeithasau neu yr eglwysi ieuaingc. Mewn cymdeithasfa a gynhaliwyd yn Llanddeusant, sir Gaerfyrddin, yn Chwefror, 1742, penderfynwyd iddo fyned i sir Benfro i gadw ysgol, ond nid ymddengys i'r penderfyniad hwnw gael ei gario allan. Wedi hyny gosodwyd ef yn arolygydd y cymdeithasau Methodistaidd yn sir Drefaldwyn; a thra y parhaodd ei gysylltiad a'r Methodistiaid, bu yn ddiattal yn llenwi swyddau o anrhydedd ac ymddiried yn eu mysg. Yr oedd ei weithgarwch diflino, mwyneidd-dra ei dymer, a'i dduwioldeb seraphaidd, y fath, fel nas gallasai neb a'i hadwaenai lai na'i barchu a'i anwylo.

Wedi iddo ddychwelyd at yr Annibynwyr, ac ymsefydlu fel gweinidog yn Llanbrynmair, ymroddodd a'i holl egni i gyflawni dyledswyddau ei gylch eang a phwysig. Heblaw y llwyddiant cyson fu ar ei weinidogaeth, cafodd, fel y crybwyllwyd eisoes, ddau dymor o adfywiad nerthol, a threuliodd ei holl dymor gweinidogaethol yn serchiadau pobl ei ofal, a'r wlad yn gyffredinol. Y Sabboth olaf y pregethodd oedd Ionawr 21ain, 1798. Pregethodd ddwywaith y Sabboth hwnw, a gweinyddodd Swpper yr Arglwydd mewn dau le. Ymddangosai fel pe buasai ei gorph yn gryfach, a'i deimladau yn fwy nefolaidd nag arferol y diwrnod hwnw. Sylwai un o'i wrandawyr ei fod wrth siarad am ddyoddefiadau Iesu Grist fel pe buasai braidd yn y nefoedd, heb feddwl fawr mai dyna y tro olaf iddo yfed o ffrwyth y winwydden gyda yr eglwys ar y ddaear. Y dydd Mawrth canlynol pregethodd ei bregeth olaf, yn nhy cyfaill iddo. Dychwelodd adref dydd Mercher yn lled lesg, ond yn ddiboen, a llawn fwriadai bregethu y Sul canlynol, ond fel arall y gwelodd yr Arglwydd yn dda ordeinio. Cymerwyd ef yn glaf iawn nos Sadwrn, gan y graianwst, (gravel), a bu mewn poenau dirdynol agos yn ddiattal o'r pryd hwnw hyd Ddydd yr Arglwydd, Mawrth 18fed, 1798, pryd y rhyddhaodd angeu ef o'i holl boenau. Amlygai ymostyngiad hollol i ewyllys yr Arglwydd yn ei gystudd, a bu farw mewn cyflawn fwynhad o'r nefoedd, Claddwyd ef y dydd Iau canlynol, a'r Sabboth ar ol hyny pregethodd Mr. Roberts, ei ganlyniedydd, ei bregeth angladdol, oddiwrth 2 Sam. iii. 38, "Oni wyddoch chwi i dywysog ac i wr mawr syrthio heddyw yn Israel?" Bu Mr. Tibbott yn briod dair gwaith. Ni chafodd gyfoeth gydag un o'i wragedd, ond cafodd beth llawer rhagorach—duwioldeb amlwg. Cafodd bymtheg o blant, a bu deg o honynt fyw ar ei ol ef. Mab iddo ef oedd y diweddar addfwyn Mr. Richard Tibbott, Llanfyllin.

Yr oedd Richard Tibbott yn ddiarhebol am ei dduwioldeb, ei lafur crefyddol, a'i ryddfrydigrwydd. Ymddangosai ei fod yn dal cymundeb diattal a'r Arglwydd, a thrwy ei fywyd cyhoeddus o driugain mlynedd parhaodd yn sicr a diymod a helaeth yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol. Dyoddefodd beth erledigaeth. Bu am un noswaith yn garcharor yn Nolgelleu, a chafodd ei guro gan erlidwyr unwaith yn sir Gaernarfon, nes iddo lewygu dan yr ergydion. Er iddo fod mewn cysylltiad a dau enwad, cadwodd ei gymeriad a'i barch trwy ei oes gyda y ddwy blaid: ie, yr oedd yn sefyll mor uchel yn ngolwg y byd crefyddol yn gyffredin, fel y croesawid ef i bulpudau y tri phrif enwad—y naill fel y llall. Cyhyd ag y parhaodd ei nerth, teithiai yn fynych trwy Ogledd a De, a phregethai yn ei deithiau yn ddiwahaniaeth yn nghapeli pob enwad. Er na chawsom le i ddeall ei fod yn bregethwr anghyffredin o fawr, etto yr oedd yn boblogaidd iawn ar gyfrif ei gymeriad santaidd, ei ysbryd nefolaidd, ei athrawiaeth nefolaidd, ei synwyr cyffredin cryf, a'i dymer fwyn a di-