ragfarn. Ni chafodd nemawr o fanteision addysg, heblaw ysgol gyffredin yn y wlad, ac ychydig fisoedd yn Llanddowror, ond yn ol tystiolaeth Dr. Edward Williams, yr hwn a ysgrifenodd gofiant iddo i'r Evangelical Magazine, am 1802, yr oedd, trwy ei ddiwydrwydd personol, wedi dyfod yn gryn gyfarwydd yn y Groeg a'r Lladin, ac i wybod ychydig o'r Hebraeg. Etto nid ar ei ysgolheigdod, ond ar ei ddaioni a'i ddefnyddioldeb, yr ymddibynai ei enwogrwydd.
JOHN ROBERTS. Ganwyd y gwr enwog ac anwyl hwn yn Bronyllan, plwyf Mochtref, Maldwyn, Chwefror 25ain, 1767. Yr oedd ei rieni yn ddynion duwiol iawn, ac yn aelodau o'r eglwys Annibynol yn Llanbrynmair, ond yn perthyn yn benaf i'r gangen o honi a ymgynnullai yn Aberhavesp. Bu ei dad yn aelod eglwysig am ddeng mlynedd a thriugain. Yr oedd ei dad a'i fam yn ofalus iawn am ddwyn i fyny eu teulu lluosog yn ofn yr Arglwydd. I ymddyddan a gymerodd le rhyngddo a'i fam y priodola Mr. Roberts ei argraffiadau crefyddol cyntaf. "Pan o gylch pedair oed," meddai, "cefais yr hyfrydwch un noson o gysgu gyda'm mam. Wedi i ni orwedd yn y gwely, treuliwyd ganddi beth amser i ddysgu i mi weddi yr Arglwydd. Gofynais iddi, A oedd raid i mi farw? Attebodd hithau, Fod pawb i farw, a'm bod inau i farw; ond fod genyf enaid i fyw byth mewn byd arall: ac wrth geisio gwasgu ar fy meddwl fy mod i fyw byth, torodd allan i wylo, ac wrth ei chlywed, ymollyngais inau i wylo, a gwnaed argraff y pryd hyny ar fy meddwl nas gellir byth ei ddileu. Mynych iawn y cofiwn ar ol hyn, pan, dichon, yn nghanol difyrwch fy mebyd, fod genyf ENAID I FYW BYTH; a byddai pob adgofion o'r tro hwnw yn gwneyd dwys argraffiadau ar fy meddwl, ac yn peri i mi wylo llawer; a diau genyf y gallai mamau etto fod o fythol les i'w plant bychain, wrth geisio gwasgu yn fore ar eu meddyliau eu bod i fyw byth. Dros lawer o flynyddoedd ar ol hyn, parhaodd fy meddwl mor dyner, nes bod arnaf arswyd bron beunyddiol rhag gwneuthur dim a anfoddlonai yr Arglwydd. Pan oeddwn o gylch un ar ddeg oed, bu farw fy mam, a pharodd hyny i mi feddwl gyda mwy o ddwysder nag erioed am angeu, a byd tragywyddol. Ar ol hyn cefais y budd a'r fraint o gysgu gyda'm tad, yr hyn a fu o fendith neillduol i mi, am ei fod ef, drwy hyny, yn cael mynychach hamdden i'm hyfforddi yn y pethau a berthynent i'm heddwch diddarfod. Yr oeddwn weithiau y pryd hyny, pan yn wan a chlaf yn y gwely, yn teimlo hyfrydwch nas medraf ei ddarlunio, wrth glywed fy nhad yn darllen a gweddio yn y teulu, ac wrth fyfyrio ar dosturi a chariad y Gwaredwr yn ymostwng i farw dros euog bechadur; a melus iawn genyf heddyw ydyw adfeddwl am ddwysder a serchogrwydd y cynghorion a'r cyfarwyddiadau a roddwyd i mi gan fy rhieni o gylch triugain mlynedd yn ol."
Pan yn ddwy ar bymtheg oed ymadawodd a thy ei dad ac aeth i fyw at geraint iddo yn Aberhafesp, ond ni chafodd nemawr o fanteision crefyddol yno. Denwyd ef i gymdeithasu a dynion ieuaingc diofn Duw, ac yn raddol i hoffi eu cyfeillach ac i ddysgu eu ffyrdd. Er na ddarfu iddo syrthio i unrhyw anfoesoldeb cyhoeddus, ymollyngodd i raddau pell o ddideimladrwydd am achos ei enaid. Ar ol bod yno ddwy flynedd arweiniodd Rhagluniaeth ef i ardal Llanbrynmair, a thrwy ddylanwad ei chwaer henaf, yr hon oedd yn nodedig am ei duwioldeb, cafodd ei ennill i fyned yn gyson i'r cyfarfodydd crefyddol, ac yn fuan daeth i deimlo dylanwad crefydd ar ei enaid. Hydref 29ain, 1786, ymunodd a'r eglwys