ond nis gall dim fod yn fwy anheg ac anghy wir na hyny. Cydffurfwyr oedd naw o bob deg o'r dirprwywyr cyn y rhyfel, a chydymffurfiodd pawb o honynt, ond tri neu bedwar, drachefn ar ol adferiad Siarl II. Am y gweinidogion a enwir yn y weithred, y cwbl oedd ganddynt hwy i'w wneuthur oedd, barnu cymhwysderau pregethwyr. Nid eu diswyddo na'u rhoddi mewn swydd. Addefir yn rhwydd eu bod fel Anghydffurfwyr yn gweithredu yn anghyson ag egwyddorion Anghydffurfiaeth, fel y deallir hwy yn yr oes hon, trwy gydsynio i ymdrafod dim a phethau crefyddol dan ddarbodaeth gweithred Seneddol, ond ychydig iawn o Ymneillduwyr yr oes hono, oedd wedi dyfod yn ddigon goleu i ganfod na ddylai Seneddau ymyraeth dim a chrefydd. Gan mai Esgobyddion, cyn ac ar ol tymor y werinlywodraeth, oedd y rhan fwyaf o lawer o wneuthurwyr a gweinyddwyr y weithred hon, nis gall Eglwyswyr ddyweyd dim yn ei herbyn heb boeri ar eu dillad eu hunain. Cafodd llawer o offeiriaid eu troi allan o'u bywioliaethau dan y ddeddf hon. Dywed Dr. Walker, eu bod yn chwe' chant o rif, ond y mae yn sicr nad oeddynt yn un o bedwar o'r nifer hyny, ac y mae yn sicr hefyd fod rheswm digonol dros droi allan bob un a dröwyd. Yr oedd llawer o honynt yn feddwon, tafarnwyr, tyngwyr a rhegwyr, a phuteinwyr, eraill yn anghymwys o ran galluoedd at waith y weinidogaeth, eraill yn hollol anwybodus o'r iaith Gymraeg. Dywed un o honynt hwy eu hunain, mai prin un o bob pymtheg o offeiriaid Mynwy, a'r cylchoedd, a fedrai siarad ac ysgrifenu y Gymraeg. Nis gellir profi fod cymaint ag un person o foesau teilwng, ac o ryw fedr canolig i bregethu, wedi cael ei droi allan, oddieithr ei fod yn derfysgwr cyhoeddus yn erbyn y llywodraeth.
Er nad oedd yn holl Gymru yn 1641, dros tua deuddeg neu dri-ar-ddeg o bregethwyr galluog a duwiol; yr oeddynt erbyn 1652, wedi lluosogi i fwy na chant a haner o rif, a phob un o honynt yn pregethu dair a phedair gwaith yn yr wythnos, a rhai lawer yn amlach.[1]
Er i ryddid crefyddol gael ei sefydlu trwy gyfraith, a bod yr holl bregethwyr yn awr yn Nghymru dan nawdd y Senedd, etto, cyfarfyddodd y rhan fwyaf o honynt a rhwystrau dirfawr yn eu hymdrech i efengyleiddio y wlad. Yr oedd corph y genedl yn anwybodus a gelynol i grefydd bur. Y rhan fwyaf o lawer o'r gwyr mawr yn llawn gelyniaeth at y Senedd a'r pregethwyr, a'r offeiriaid drygionus a droisid allan o'u bywioliaethau yn arfer pob ystryw a fedrent i rwystro pregethiad yr efengyl. Terfysgent y cyfarfodydd, taenent chwedlau celwyddog am y pregethwyr, a chyhoeddent lyfrynau enllibus a chableddus i'w diraddio; mewn gair, ni adawent unrhyw ddrwg y gallent feddwl am dano heb ei wneyd er atal y gwaith da i fyned rhagddo. Ond er y cwbl yn mlaen yr oedd yn myned. Yn 1646 a 1647, cyhoeddwyd dau argraffiad o'r Testament Newydd, yn cynwys tua chwe' mil o gopïau, gan Mr. Walter Cradock, ac yn 1654,
- ↑ Whitelock's Memorials, p.p. 518.