Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/290

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Llanbrynmair, ac ymroddodd ar unwaith i fod yn weithgar a defnyddiol; dywed nad oedd dim a roddai fwy o hyfrydwch i'w feddwl na chael cyfleusdra i ymddyddan a'i gyd-ieuengetyd am bethau tragywyddol. Yn fuan ar ol ei dderbyniad i'r eglwys teimlodd awydd yn ei feddwl am ymroddi i waith y weinidogaeth, ond bu am rai blynyddau mewn petrusdod rhag ofn mai oddiar gau ddybenion yr oedd y meddyliau hyny yn ymgodi ynddo. Pa fodd bynag, ar anogaeth Mr. Tibbott a'r eglwys, dechreuodd gynghori ychydig yn y cyfeillachau; ac ar y Sabboth, Ionawr 21ain, 1790, pregethodd ddwywaith yn gyhoeddus yn Mnafon a Phenarth. Yn y Mawrth canlynol aeth i'r Athrofa i Groesoswallt, ar ei draul ei hun, a bu yno yn dysgu Lladin hyd y Sulgwyn y flwyddyn hono. Treuliodd wyliau y Sulgwyn yn Llanuwchllyn gyda Mr. Abraham Tibbott, ac aeth yn mlaen yno gyda y Lladin gyda mwy o rwyddineb braidd nag yn Nghroesoswallt. Yn niwedd Gorphenaf yr un flwyddyn aeth o Lanuwchllyn i Bwllheli, lle yr arosodd hyd y Nadolig dan addysg Mr. Benjamin Jones. Yn Ionawr, 1791, derbyniwyd ef i'r Athrofa yn Nghroesoswallt ar draul y Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain. Bu yno am flwyddyn dan ofal Dr. Edward Williams, ac y mae ei athraw dysgedig yn ei adroddiad o sefyllfa yr Athrofa yn Rhagfyr, 1791, yn dweyd fel y canlyn am dano:—
"John Roberts, a ddechreuodd ei fyfyrdodau yn Ionawr, 1791. Y mae efe wedi mynel rhagddo yn araf ond yn sicr (slow and sure). Gyda'r Lladin a'r Gramadeg Groeg y mae ef wedi bod yn benaf trwy y flwyddyn. Mae yn debygol y gwna efe bregethwr difrifol a phrofiadol." Yn nechreu y flwyddyn 1792 rhoddodd Dr. Williams ei swydd i fyny fel athraw ar ei symudiad i Birmingham, yr hyn oedd yn ofid mawr i Mr. Roberts, am ei fod yn edrych ar ei athraw fel un o'r dynion goreu a adnabuasai erioed. Ar ymadawiad Dr. Williams symudwyd yr Athrofa i Wrecsam i fod dan ofal Dr. Jenkin Lewis, a chafodd Mr. Roberts bob peth a ddymunai yn ei ail athraw drachefn. Bu dan addysg Dr. Lewis am dair blynedd, a pharhasant yn gyfeillion mynwesol tra ar y ddaear. Aeth Mr. Roberts y holl ffordd o Lanbrynmair i'r Casnewydd i bregethu pregeth angladdol ei hen athraw, yn 1831.

Tua naw mis cyn terfyniad ei amser yn yr athrofa, derbyniodd alwad serchog oddi wrth ei fam eglwys yn Llanbrynmair, i ddyfod yn gynorthwywr i'w hen weinidog Mr. Tibbott. Atebodd hi yn gadarnhaol, a dechreuodd ei weinidogaeth yno y Sul cyntaf o Ionawr 1795. Ei destynau y Sabboth hwnw oedd, yn y boreu, 1 Cor. ii. 2; ac yn y prydnawn, 2 Thes. iii. 1. Cynhaliwyd cyfarfod ei urddiad Awst 25ain, 1795. Bu Mr. Tibbott a Mr. Roberts yn cydlafurio yn gysurus a thangnefeddus hyd derfyn oes yr hen weinidog yn 1798; yna rhoddodd yr eglwys alwad newydd iddo ef i fod yn ganlyniedydd i Mr. Tibbott. Parhaodd i lafurio yn y maes eang a phwysig hwn gyda llwyddiant a pharch digyffelyb hyd derfyn ei oes weithgar a defnyddiol.

Bu y gweinidog rhagorol hwn farw, fel y bu fyw-mewn cymundeb agos a'r Arglwydd. Cafodd rai misoedd o gystudd cyn i'w ysbryd gael gollyngdod o'r babell bridd, ond dyoddefodd y cwbl yn dawel a chydag ymostyngiad i ewyllys ei Arglwydd. Bu farw mewn tangnefedd ychydig funudau wedi dau o'r gloch y boreu Gorphenaf 21ain, 1834. Claddwyd ef yn meddrod ei dad yn mynwent eglwys blwyfol Llanbrynmair, a dilynwyd ei gorff i'r gwely pridd gan dorf ddirfawr o alarwyr. Gweinyddwyd ar achlysur y claddedigaeth gan Mr. Morgans, Machynlleth; Mr. Griffiths,