Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/291

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tyddewi; Mr. Williams, Wern; Mr. Jones; Dolgellau; Mr. Jones, Llanuwchllyn; a Mr. Davies, Drefnewydd.

Mae yr enwau Llanbrynmair a John Roberts wedi eu cysylltu yn anwahanedig a'u gilydd, ac y maent yn rhwym o ddisgyn yn nghyd i'r oesau dyfodol. Nid oedd un gweinidog yn Nghymru yn ei oes a'i enw yn fwy adnabyddus trwy Gymru, Lloegr, ac America, na "Roberts Llanbrynmair." Nid ei fawredd a'i hyawdledd fel pregethwr a ennillodd yr enwogrwydd yma iddo, ond cydgyfarfyddiad amryw bethau eraill, y rhai nad oes gan un gweinidog ieuangc, yn enwedig yn yr oes hon, un esgus am fod yn amddifad o honynt.

Yr oedd John Roberts yn ddyn boneddigaidd a gweddaidd iawn yn ei ymddangosiad; cadwai lwybr canol rhwng y gwladwr trwsgl ac afler, a'r coegyn dirmygus. Mae mwy o gysylltiad rhwng ymddangosiad corfforol dyn a'i barch neu ei anmharch mewn cymdeithas nag a feddylia llawer. Nid ychydig o ddynion, da ar y cyfan, sydd wedi anafu eu defnyddioldeb a'u parch i raddau mawr trwy drwsgledd ac anfoesgarwch eu hymddangosiad.

Yr oedd ei serchogrwydd a mwyneidd-dra ei dymer yn gwneyd llawer iawn i'w gymeradwyo i ffafr y cyhoedd. Er mwyneiddied a boneddiced dyn ydoedd, nis gallodd fyned trwy anialwch y byd hwn heb gael llawer brathiad i'r byw gan ddrain a mieri cymdeithas; ond dioddefodd y cwbl gyda mwyneidd-dra a boneddigeiddrwydd teilwng o weinidog a Christion. O herwydd iddo fabwysiadu golygiadau duwinyddol mwy rhydd ac eang ar drefn yr efengyl na'r hyn a gyhoeddid yn gyffredin yn yr oes hono, cafodd lawer o'i enllibio a'i erlid, nid yn unig gan enwadau eraill, ond hefyd gan rai brodyr lled ddylanwadol yn ei enwad ei hun; ond dyoddefodd bob ymosodiad a wnaed arno yn addfwyn ac heb roddi sén am sén. Nis gwyddom iddo erioed ad-dalu ymosodiadau ei wrthwynebwyr arno gyda chwerwder annghristionogol mewn gair nac ysgrifen. Er ei fod yn nodedig am ei fwyneidd-dra, etto ni oddefai i'w dynerwch beri iddo waeddi ïe gyda phawb a phob peth. Er mwyneiddied ydoedd, yr oedd yn ddigon gonest a gwrol i ddweyd wrth ei gyfeillion a'i gydnabod ei farn am eu colliadau, ond gwnelai hyny yn y fath fodd hynaws nas gallasai un dyn a gradd o deimlad crefyddol ynddo lai na'i garu a'i barchu am ei onestrwydd.

Yr oedd yn enwog am ei synwyr cyffredin, a'i ofal i beidio gwneyd na dweyd dim yn anheilwng o'r swydd santaidd yr oedd ynddi. Mae diffyg synwyr cyffredin wedi bod yn fynych yn llawn cymaint o niwed i ddefnyddioldeb gweinidogion a diffyg duwioldeb. Dymunwn alw sylw pob pregethwr ieuangc at y frawddeg ganlynol a ysgrifenodd Mr. Roberts tua deunaw mis cyn ei farwolaeth: Rhydd i mi gryn hyfrydwch i feddwl na ffurfiais erioed, gyda golwg ar briodi, unrhyw gyfeillach â neb, ond â'r un ag y mae genyf le i feddwl oedd wedi ei hamcanu i mi." Pe byddai pob pregethwr yn ofalus na byddo dim yn ei eiriau na'i weithredoedd yn anheilwng o'r swydd gysegredig y mae wedi ymgymeryd â hi, rhagflaenid llawer o waradwydd i grefydd a gwawd annuwiolion. Dylai pregethwr yr efengyl fod yn mhob peth yn un nas gellir ar dir teg ei feio; ac yr oedd John Roberts, yn ol tystiolaeth ei gydnabod yn gyffredinol, yn un o'r fath. Yr oedd yn ddyn llafurus a defnyddiol anghyffredin. Ymddengys mai gwasanaethu Duw ac achub eneidiau dynion oedd holl waith a hyfrydwch ei fywyd. Yr oedd yn dal ar bob cyfleusdra i wneuthur