daioni, trwy siarad, ysgrifenu, ac ymddwyn yn ddoeth a theilwng o'i swydd. Un hynod ydoedd am ymddyddan yn bersonol â dynion mewn oed ac à phlant am fater eu heneidiau. Dywed ei hun iddo gael mwy o brofion ei fod wedi bod yn ddefnyddiol i bersonau neillduol trwy ymddyddanion personol na thrwy ei weinidogaeth gyhoeddus. "Dymunwn," meddai, fod bob amser yn barod i ymddyddan am grefydd; a bod yn daer mewn gweddi am gyfleusdra beunyddiol i wneuthur neu ddywedyd rhyw- beth er iachawdwriaeth dragywyddol fy nghyd-anfarwolion." Anfynych, os un amser, yr ysgrifenai lythyr cyfrinachol at neb heb son rhywbeth am grefydd ynddo, a chafodd amryw brofion fod llythyrau a ysgrifenasai wedi bod yn foddion i achub eneidiau.
Ond yr hyn a osododd arbenigrwydd arno, a'r hyn a wnaeth ei enw yn enw cenedlaethol, ydoedd y rhan neillduol a gymerodd yn nadleuon duwinyddol y ganrif bresenol. Mae ei enw yn adnabyddus fel un o'r rhai blaenaf, yn wir y blaenaf oll yn Nghymru, o amddiffynwyr yr hyn a elwid yn system newydd. Yr oedd Andrew Fuller a Dr. Edward Williams o'i flaen wedi datgan yr un golygiadau yn Lloegr; ond efe oedd y cyntaf i'w cyhoeddi yn Nghymru, ac ni wnaeth neb fwy drostynt nag a wnaeth efe. Eglurai hwy yn bwyllog a manwl, ac amddiffynai hwy yn gryf a phenderfynol, ac etto yn ddoeth a boneddigaidd. Goddefodd wg ac anfoddlonrwydd llawer o'u herwydd—triniwyd ef fel heretic a chyfeiliornwr peryglus ymosodwyd arno mewn cynhadleddau a thrwy y wasg—a chauwyd rhai o bulpudau ei enwad ei hun yn ei erbyn; ond daliodd y cwbl heb gyffroi na chythruddo, na dywedyd geiriau caledion am ei wrthwynebwyr cryfaf. Cael allan y gwirionedd oedd ei amcan ef, ac yr oedd ganddo hyder diderfyn yn hwnw y dygai farn i fuddugoliaeth. Mr. James Griffiths, o Fachynlleth, wedi hyny o Dyddewi, oedd un o'r rhai cyntaf o'i gyd-lafurwyr a syrthiodd i mewn a'r un golygiadau; a chawsant ill dau lawer cyfle i ymddyddan a'u gilydd arnynt cyn anturio eu pregethu yn gyhoeddus. Yn Nghymanfa Treffynon, a gynhaliwyd yn 1809, yr anturiasant gyntaf i draethu eu golygiadau mewn Cymanfa; ac yr ydym yn teimlo yn dra sicr yn ein meddwl iddynt wneyd hyny oddiar ragfwriad, fel rhai yn teimlo fod eu rhwymedigaeth i'r gwirionedd yn galw arnynt i'w datgan yn gyhoeddus. Pregethodd Mr. James Griffiths yn y Gymanfa hono y noson gyntaf oddiar Heb. v. 9-"Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn awdwr iachawdwriaeth dragywyddol i'r rhai oll a ufuddhant iddo." Ni chawsom gyfle i weled pregeth Mr. Griffiths, gan na chyhoeddwyd hi; ond gallwn gasglu mai y wedd ymarferol i'r gwirionedd a ddelid allan ganddo fod ufudd-dod i'r efengyl yn hanfodol er derbyn rhinwedd yr iachawdwriaeth. Nid oedd y gwirionedd hwnw mewn un modd yn dderbyniol yn y dyddiau hyny. Edrychid ar yr iachawdwriaeth fel rhyw drefniant mawr i ddyogelu cadwedigaeth, yn annibynol hollol ar bob ymddygiad o eiddo dynion. Dichon na ddywedid yn eglur nad oedd gan ddyn ddim i'w wneyd er ei gadwedigaeth; ond yr oedd tôn yr athrawiaeth yn amlwg yn cyfleu syniad felly. Ofnent hwy alw ar ddyn i wneyd ei waith, rhag i hyny gymylu graslonrwydd yr iachawdwriaeth. Ac yr oedd gwaith Mr. Griffiths yn pregethu—fod ufudd-dod i'r efengyl yn hanfedol er derbyn rhinwedd yr iachawdwriaeth-yn athrawiaeth newydd a dyeithr gan lawer.
Pregethodd Mr. J. Roberts dranoeth ar Sancteiddhad, oddiar Lev. xx. 7, 8 "Ymsancteiddiwch gan hyny a byddwch sanctaidd; canys myfi yw