yr Arglwydd eich Duw chwi. Cedwch fy ngorchymynion a gwnewch hwynt, myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd." Sancteiddiad fel gwaith Duw ac fel dyledswydd dyn yw baich y bregeth; ac ni ddarllenasom ddim erioed sydd yn fwy clir a goleu ar y mater; ac y mae mor gynil a chymedrol fel y mae yn syndod i ni beth a allasai fod yn dramgwyddus ynddi i neb. Cyhoeddwyd y bregeth yn y Dysgedydd am Mai 1834, yn mhen pum mlynedd ar hugain ar ol ei thraddodi, wedi ei hanfon i'r Swyddfa yn llawysgrif Mr. Roberts ei hun, gyda nodyn o'i blaen yn hysbysu iddi gael ei thraddodi yn Nghymanfa Treffynon, a chyda dymuniad am iddi gael ei hargraffu. Yr oedd hon yn un o'r pethau diweddaf, os nad yn wir y peth diweddaf oll, aysgrifenodd Mr. Roberts i'r wasg, oblegid bu farw cyn pen deufis ar ol ei hymddangosiad; lle y gwelwn fod yr hybarch Mr. Roberts yn glynu hyd y diwedd wrth y gwirioneddau goruchel a gredasai ac a bregethasai dros ei holl fywyd. Ail gyhoeddwyd y bregeth yn yr Annibynwr am Chwefror ac Ebrill 1864, o'r un llawysgrif ag y cyhoeddwyd hi yn y Dysgedydd ddeng mlynedd ar hugain cyn hyny; wedi ei hanfon gan Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, yr hwn oedd bresenol yn Nhreffynon, ac yn gwrando y bregeth. Gwrandawai y rhan fwyaf o'r gweinidogion yn Nhreffynon ar Mr. R. yn amheus iawn, canys yr oedd "yn dwyn rhyw bethau dyeithr i'w clustiau." Addefai Mr. Williams, o'r Wern, yr hwn oedd yn bresenol yn y Gymanfa, ac yn gwrando y ddwy bregeth, wrth gyfaill i ni yn mhen deng mlynedd ar hugain ar ol hyny, ei fod yn meddwl ar y pryd eu bod yn cyfeiliorni yn ddychrynllyd; ond ni bu yn hir cyn mabwysiadu yr un golygiadau, ac ni wnaeth neb wedi hyny yn ei oes fwy, o'r pulpud yn arbenig, i wrthweithio llifeiriant Antinomiaeth oedd wedi dyfod yn genllif dros eglwysi ein gwlad.
Cyhoeddodd Mr. Roberts ddau draethawd ar y mater yma—y cyntaf yn 1814, dan yr enw Cynygiad Gostyngedig, mewn ffurf o ddau lythyr at gyfaill; ac yn y flwyddyn 1820, cyhoeddodd Galwad Difrifol, neu y Llyfr Glas, fel y gelwid ef yn gyffredin, yn yr hwn yr eglura yn helaethach yr un egwyddorion. Dadleuodd lawer ar ddalenau y Dysgedydd a'r Seren Gomer, ar y pynciau sydd mewn dadl rhwng Calfiniaid ac Arminiaid; ac ar y pynciau y gwahaniaetha Calfiniaid oddi wrth eu gilydd arnynt. Yr oedd yn un o'r dadleuwyr tecaf a mwyaf boneddigaidd a ymaflodd mewn ysgrifell erioed. Ni chymerai byth fantais annheg ar ei wrthddadleuydd —ni phriodolai iddo olygiadau na ddatganwyd ganddo—ni chynygiai ei ddal yn gyfrifol am ei gasgliadau ei hun oddi wrth ei olygiadau—ni roddai hyd yn nod, yr hyn oedd weithiau yr ystyr mwyaf naturiol i ymadroddion, os gwyddai nad y meddwl hwnw a gysylltai yr ysgrifenydd a hwy—ni wnai ddim mewn un modd a fyddai i'r gradd lleiaf yn anghydweddol a'r ymchwiliad gonestaf a mwyaf diffuant am gael allan y gwirionedd. Dadleuodd gymaint ag odid neb yn ei oes; ond dadleuodd fel ymofynydd didwyll am wybod ewyllys ei Arglwydd.
Ond coron ei holl ragoriaethau eraill, a'r hyn a roddai fywyd a dysglaerdeb yn y cwbl oedd ei dduwioldeb amlwg, a'r cymundeb agos a chyson a ddaliai a'r Arglwydd. "Dyn Duw" ydoedd yn llawn ystyr yr ymadrodd. Yma yr oedd "cuddiad ei gryfder." Nid oedd uwchlaw llawer o'i frodyr am nerth ei alluoedd meddyliol; ac yr oedd ar ol i lawer o honynt yn yr elfenau hyny a ystyrir yn angenrheidiol i wneyd pregethwr poblogaidd, etto trwy gydgyfarfyddiad y pethau rhag—grybwylledig; a'r oll wedi eu bedyddio a duwiolfrydedd anarferol, daeth i fod yn un o'r