Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/299

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyned yn mlaen, a chydag anhawsder y gellid ei glywed. Parhaodd y pregethu yn y Pantmawr, nes y codwyd capeli yn yr ardaloedd o'i gylch; ac y gwelwyd nad oedd un amcan ymarferol yn cael ei gyrhaedd o barhau y gwasanaeth yno yn hwy; ac yn 1855, yn agos i derfyn gweinidogaeth Mr. D. Morgan, gwerthwyd y blwydd-dal am 80p., a rhoddwyd y swm ar log i weinidog Llanfyllin.

Yn nechreu y flwyddyn 1780, daeth Mr. John Griffith, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, yma, a derbyniodd alwad gan yr eglwys fechan adfeiliedig yn y lle. Urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth Gorph. 5ed, 1780. Yr oedd amryw o weinidogion enwog o Gymru a Lloegr yn bresenol ar yr achlysur, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth; megis, Meistriaid R. Gentleman, Athraw yr Athrofa yn Nghaerfyrddin, S. Lucas, Amwythig; Edward Williams (Dr. Williams wedi hyny), o Groesoswallt; R. Tibbott, o Lanbrynmair; A. Tibbott, o sir Fon; T. Davies, o Lanuwchllyn; ag eraill. Ni bu Mr. Griffith yma ond dwy flynedd; ond yn yr ysbaid byr hwnw bu yn hynod o lafurus a llwyddianus yn ngwaith yr Arglwydd. Bu yn offeryn i adfywio yr achos yn y lle, ac i helaethu terfynau teyrnas y Gwaredwr trwy y wlad oddiamgylch. Ymdyrai lluoedd i wrando arno yn y meusydd ac ar y mynyddoedd, a phrofodd ei weinidogaeth dan arddeliad yr Ysbryd Glan yn allu Duw er iachawdwriaeth llawer o eneidiau. Yr oedd rhywbeth nodedig o fawreddog ac awdurdodol yn ei edrychiad; yr oedd yn ddyn corphol, glandeg, ei lais yn nodedig o beraidd, a'i gyfarchiad yn ddengar a serchiadol. Medrai ganu nes lliniaru ei erlidwyr yn yr adeg fwyaf cyffrous ar eu cynddaredd, ac yn aml y dywedent pan y dechreuai weddio" rhagor o'ch canu os gwelwch yn dda wr dyeithr, a dim o'ch gweddio na'ch pregethu." Bu lawer gwaith mewn perygl am ei einioes, ond yr oedd llaw yr Arglwydd gydag bu ci lwyddiant yn fawr. Yn 1782, derbyniodd alwad o Gaernarfon, ac er gofid i'w gyfeillion a cholled i sir Drefaldwyn, cydsyniodd a'r gwahoddiad. Nid yw yn gwbl sicr pa bryd y symudwyd y cymundeb o'r Pantmawr i Lanfyllin, ond y mae yn debygol mai o gylch yr adeg yma pan y ffurfiwyd eglwysi Annibynol yn y Trallwm a'r Sarnau.

Yn ystod y tair blynedd dilynol gwasanaethid yr eglwys yn Llanfyllin fynychaf gan fyfyrwyr yr Athrofa oedd erbyn hyn yn Nghroesoswallt dan arolygiaeth Dr. Edward Williams. Ar un nos Sadwrn yr oedd un o honynt i bregethu mewn ty a elwid Pont'radyn. Clywodd y dorf am yr oedfa, a cheisiasant aflonyddu ar yr addolwyr trwy daflu ceryg trwy y drws a dryllio y ffenestri. Yn ffodus, fodd bynag, digwyddodd fod person y plwyf ac un o'r enw Evans yn marchogaeth tua'r fan, a phan glywsant y swn brysiasant i'r lle. Cyrhaeddodd y blaenaf y ty ychydig o flaen yr olaf, a chan dybied mai efe oedd y pregethwr ymosododd yr erlidwyr arno; gwylltiodd y ceffyl a syrthiodd ef a'i farchogwr i'r afon, lle y gwaeddai am drugaredd. Adnabyddwyd ei lais, a ffoisant oll. Daliodd un o honynt, a mynodd wybod ganddo beth oedd yr achos o'r holl gynhwrf; ac wedi deall, yn lle ei geryddu neu ei gospi, dygodd wr Pont'radyn o flaen yr ynadon. Gofynasant iddo beth oedd y cyfarfod a gynhaliwyd yn ei dy? Attebai, "Mai nid cyfarfod i werthu diod neu wirod oedd nac ychwaith cyfarfod i chwareu cardiau, neu gyfarfod i chwareu am arian (gambling), onide ni buasech yn codi gwarant i'm dwyn o'ch blaen; canys cedwir y cyfryw gyfarfodydd yn y dref a'r gymydogaeth bob wythnos, heb ymholiad gan un o honoch paham eu cynhelir." Methasant a