o'r eiddynt barch mawr yn y dref; a rhoddwyd trwyddo ergyd marwol i erledigaeth gyhoeddus. Bu Mr. Lewis yn ymroddgar a llafurus i gyflawni y weinidogaeth. Yn ei amser ef y sefydlwyd Cyfarfod y Pasg yma, yr hwn sydd wedi ei barhau yn ddifwlch hyd yma. Ymddengys yr arferid cynal gwylmabsant neu ffair gwagedd yma er cyn cof ar adeg y Pasg; ac yr oedd yr annuwioldeb a'r llygredigaeth oedd yn nglyn a hwy yn cyffroi ysbryd Mr. Lewis; a phenderfynodd y mynai gyfarfod pregethu yn Nghapel Pendref, er gwrthweithio dylanwad y cynnulliadau pechadurus hyny. Nis gallwn gael allan i sicrwydd pa bryd y cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar y Pasg yma; ond yr ydym yn sicr ei fod yn cael ei gynal yn 1796, oblegid yn y flwyddyn hono y daeth Ann Thomas, Dolwar, i'r dref yn ferch ieuangc 16eg neu 17eg oed gyda bwriad fel y lluaws o'i chyfoedion i gael rhan o ddifyrwch yr uchelwyl lygredig. Trwy ryw foddion arweiniwyd hi i'r capel lle yr oedd y cyfarfod yn cael ei gynal, a Mr. Benjamin Jones, Pwllheli, yn pregethu, a bu yr oedfa hono yn foddion ei dychweliad at yr Arglwydd. Bwriadodd unwaith ymuno a'r achos Annibynol yn Llanfyllin, ond wedi deall fod gan y Methodistiaid Calfinaidd addoliad a phregethiad ffyddlawn o'r efengyl yn Mhontrobert yn ymyl ei chartref penderfynodd fwrw ei choelbren yn eu plith. Daeth Ann Thomas ar ol hyny yn adnabyddus fel Ann Griffiths yr Emynwraig enwog; a chenir rhai o'i hymnau cyhyd ag y pery yr iaith Gymraeg. Bu Mr. Jenkin Lewis farw wedi "ymdrechu ymdrech deg," Tach. 25ain, 1805.
Ar ol marwolaeth Mr. Lewis bu yr eglwys yma am rai blynyddau heb weinidog; ond o'r diwedd rhoddasant alwad i Mr. David Roberts, myfyriwr o'r Athrofa yn Ngwrecsam; ac urddwyd ef Mawrth y Pasg, 1810. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Griffith, Machynlleth; J. Lewis, Gwrecsam; W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Davies, Aberhafesp; D. Davies, Trallwm; W. Jones, Trawsfynydd; D. Morgan, Talybont; C. Jones, Llanuwchllyn; J. Davies, Llundain; ac eraill. Bu yn llafurio yma am bum mlynedd, ac yna symudodd i Fangor yn 1815, ac oddiyno symudodd i Ddinbych lle y daw ei hanes etto dan ein sylw.
Yn 1815, rhoddodd yr eglwys alwad i Dr. George Lewis i fod yn weinidog, a chydsyniodd a'r cais, a symudwyd yr Athrofa ar yr hon yr oedd yn athraw yn Ngwrecsam gydag ef i Lanfyllin. Llafuriodd yma gyda chymeradwyaeth mawr am fwy na chwe blynedd; a bu ef a'r myfyrwyr dan ei ofal o wasanaeth mawr i'r achos yn y dref a'r wlad oddiamgylch. Symudwyd yr Athrofa i'r Drefnewydd yn 1821, ac ymadawodd Dr. Lewis yr un pryd i fod yn athraw ynddi, ac i gymeryd gofal yr eglwys yn y lle.
Ar ol i Dr. Lewis benderfynu symud i'r Drefnewydd, rhoddodd yr eglwys yn Llanfyllin alwad i Mr. William Morris, yr hwn oedd yn fyfyriwr yn yr Athrofa, i fod yn weinidog iddynt. Urddwyd ef yn nechreu Ionawr 1822; ac fel hyn y ceir hanes yr urddiad yn y Dysgedydd am Chwefror 1822, tudal. 57:
"Ionawr 2il, 1822, urddwyd y Parch. W. Morris (yn ddiweddar myfyriwr yn yr Athrofa gynt yn Llanfyllin, ond yn bresenol yn y Drefnewydd), waith y weinidogaeth yn mhlith yr Anymddibynwyr yn Llanfyllin, sir Drefaldwyn. Cyfarfu yr eglwys yn gryno y diwrnod o'r blaen am 10 yn y boreu, i ymbil am fendith Duw ar y gwaith pwysfawr oedd i gymeryd