Am 6 o'r gloch prydnawn, dechreuwyd yr addoliad trwy ddarllen, mawl, a gweddi gan Mr. J. Watkins, o Lanfair; a phregethodd y Parchn. H. Williams, Llanelli, a W. Hughes, Dinas, oddiwrth Salm lxxxvi. 5; Eph. v. 11; a dibenwyd trwy fawl a gweddi. Am 10, diwrnod y cyfarfod, dechreuwyd trwy ddarllen, mawl, a gweddi gan y Parch. J. Davies, Llanfair; yna traddodwyd y gyn-araeth gan y Parch. M. Jones, Llanuwchllyn; derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog ieuangc gan y Parch. W. Hughes, Dinas; offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch. H. Williams, Llanelli; a phregethodd y Parchedig D. Morgans, Machynlleth, ar ddyledswydd y gweinidog, oddiwrth 2 Cor. ii. 16; a'r Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, ar ddyledswydd yr eglwys, oddiwrth Rhuf. xvi. 3, a dybenwyd trwy fawl a gweddi.
"Am 2, dechreuwyd trwy ddarllen, mawl, a gweddi gan y Parch. E. Davies, Cytiau; a phregethodd y Parch. M. Jones, Llanuwchllyn, a'r Parch. H. Williams, Llanelli, oddiwrth Ioan xii. 13, a Salm lxxxvi. 10, a dibenwyd trwy fawl a gweddi.
"Am 6, dechreuwyd trwy ddarllen, mawl, a gweddi_gan Mr. M. Ellis (eydfyfyriwr a'r urddedig); a phregethodd y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, a'r Parch. D. Morgans, Machynlleth, oddiwrth Job xxv. 4, Act. xv. 9, a dibenwyd trwy fawl a gweddi. Ni welwyd cyfarfod mwy cysurus yn Llanfyllin erioed o'r blaen, arwyddion helaeth o'i foddlonrwydd ar y gwaith, a chanoedd yn cael lle i ddyweyd wrth ymadael mai da oedd iddynt fod yno, a llawer o le i gredu fod gan Ben Mawr yr eglwys law neillduol yn anfon Mr. Morris i lafurio yn Llanfyllin a'i chymydogaeth, drwy fod adfywiad mawr ar yr achos goreu, megis bywyd o feirw."
Bu Mr. Morris yma am ddwy flynedd ar bymtheg yn llafurio fel gweinidog, ac yn boblogaidd iawn fel pregethwr trwy yr holl wlad. Yn ystod ei weinidogaeth ef y codwyd y capel presenol, ond ei fod er hyny wedi ei adnewyddu a'i ad-drefnu. Dechreuwyd tynu yr hen i lawr Ebrill 13eg, 1829, ac agorwyd y newydd Hydref 13eg a'r 14eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd y nos gyntaf gan M. Jones, Farteg, a J. Williams, Dinas. Dranoeth, am 10, E. Davies, Drefnewydd, a J. Roberts, Llanbrynmair. Am 2, T. W. Jenkins, Croesoswallt (yn Saesneg), a W. Williams, Wern. Am 6, H. Morgan, Samah; T. Jones, Llangollen; ac I. Pergrine, Domgay. Yn 1830, codwyd hefyd gapel bychan a elwir Soar, yn mhlwyf Meifod, yr hwn sydd yn parhau mewn cysylltiad a Llanfyllin, a chynhelir ysgol Sabbothol a phregethu ynddo yn rheolaidd. Derbyniodd Mr. Morris alwad o Glandwr, ger Abertawy, a symudodd yno yn nechreu haf 1839.
Derbyniodd Mr. David Morgan, oedd y pryd hwnw yn Manchester, alwad oddi yma yr Hydref cyntaf wedi ymadawiad Mr. Morris, a dechreuodd ei weinidogaeth yn mis Tachwedd 1839. O gylch yr amser yma, sicrhawyd capel bychan a elwir Siloh at wasanaeth yr eglwys, yr hwn oedd wedi ei godi ychydig cyn hyny; ac y mae moddion rheolaidd yn cael eu cynal ynddo fel yn Soar, er nad oes eglwysi wedi eu corphori yn y naill na'r llall. Llafuriodd Mr. Morgan a'i holl egni yn ystod y blynyddoedd y bu yma; ond gan fod ei iechyd yn adfeilio, cydunodd ef a'r eglwys yn nechreu 1855 i roddi galwad i Mr. Price Howell-yr hwn oedd ddwy flynedd cyn hyny wedi ei urddo yn Amana, sir Gaernarfon-i fod yn gyd-weinidog ag ef. Parhaodd yr undeb am oddentu dwy flynedd, pan y symudodd Mr. Howell i gymeryd gofal yr eglwys yn Mhwllheli. Yn fuan ar ol hyny,