teimlodd Mr. Morgan nas gallasai sefyll yn hwy o flaen arch yr Arglwydd, a rhoddodd ofal bugeiliol yr eglwys i fyny yn mis Hydref 1857, er iddo fyw wyth mis ar ol hyny.
Wedi bod am fwy na blwyddyn heb weinidog, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. David Milton Davies, yr hwn oedd yn weinidog yn y Wern a Phenycae, sir Aberteifi. Dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Rhagfyr 1858, a pharhaodd i lafurio yma gyda derbyniad a chymeradwyaeth mawr nes y rhoddodd angeu derfyn ar ei fywyd defnyddiol Mehefin 7fed, 1869; ac er hyny hyd yn hyn, y mae yr eglwys wedi bod yn amddifad o weinidog.
"Nid yw yr eglwys Ymneillduol yn Mhendref wedi bod un amser yn lluosog ei haelodau-rhyw 150 i 170; ond y mae wedi bod yn perthyn iddi ddynion lled gyfrifol a da eu hamgylchiadau. Ac er nad ydyw wedi bod mor ymdrechgar i ledaenu egwyddorion crefydd Crist trwy y wlad oddi amgylch ag yr oedd ei hamgylchiadau a'i chyfleusderau yn caniatau, etto nid yw wedi bod yn gwbl ddilafur a difudd yn hyn; canys y mae yn eglur mai trwyddi hi y seiniodd Gair y Gwirionedd, ac y sefydlwyd achosion Penybontfawr, Llanrhaiadr, Llansantffraid, Main, Penllys, a manau eraill. Ond y mae yr un mor amlwg ei bod wedi gadael tir lawer o amgylch y dref heb ei feddianu, pan yr oedd ganddi gyfleusdra i wneyd hyny, ond daeth eraill ac a'i meddianasant.
"Y mae diffyg wedi bod mewn cydweithio â'r weinidogaeth gyhoeddus i gadw cyfarfodydd i weddio a sefydlu ysgolion Sabbothol yn y wlad oddi amgylch. Pa beth bynag a all dawn y gweinidog fod, a'i boblogrwydd yn traddodi ei bregethau, oni bydd yr aelodau yn ymdrechgar i sefydlu moddion eraill i gydweithio â'r weinidogaeth, nis gall fod yn hir yn llwyddianus!
"Ond er nad yw yr eglwys o ran rhifedi ond ychydig mewn cydmariaeth i lawer o eglwysi eraill, etto y mae wedi bod yn lled lafurus a haelionus gyda phethau amgylchiadol crefydd gartref. Gwelir iddi dynu i lawr ei hen addoldy, ac adeiladu un llawer mwy yn ei le, a thalu am dano ei hun, oddieithr un 20p. a dderbyniodd oddiwrth yr Undeb Cynnulleidfaol yn Nghymru tuag at dalu dyledion addoldai. Yn y flwyddyn 1840, prynodd ddarn o dir o amgylch y capel yn lle beddrod-yn fynwent i gladdu y meirw. Costiodd hyn fwy na chwe chant o bunau, yr hyn oedd yn swm go fawr yn yr amser gynt. Yn 1847, talodd 60p. eraill o ddyled oedd ar gapel bychan Soar; ac y mae wedi bod mor ffyddlon ag unrhyw eglwys mewn cynorthwyo eglwysi eraill i dalu eu dyledion. Y mae hefyd wedi bod yn haelionus tuag at gynal gwyr ieuaingc yn ein Hathrofeydd. Y mae yn ddigon eglur yn amgylchiadau yr eglwys hon, fel eraill, mai y rhai mwyaf haelionus tuag at achos Crist ydyw y rhai mwyaf llwyddianus yn eu hamgylchiadau bydol, fel y dywed yr Ysgrythyr—Yr enaid hael a frasheir; a'r hwn a ddyfrhao a ddyfrheir yntau hefyd.' Rhyw un a wasgar ei dda, ac fe a chwanegir iddo; a rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dylodi.'
"Yn mlynyddoedd 1844-5, cyfarfu yr eglwys hon ag amgylchiad pur gymylog a thywyll, trwy farwolaeth dros ugain o'r aelodau, a llawer o honynt yn brif golofnau yr achos yn y lle. Collwyd tri o ddiaconiaid yn lled agos o ran amser i'w gilydd—ein hen gyfaill Mr. Griffith Evans, a Mr. J. Jones, Tanner, ei fab-yn-nghyfraith; ac yn lled fuan ar eu hol, ein cyfaill ieuangc Mr. Robert Evans, yr hwn a fu farw yn y 30 mlwydd