o'i oedran. Dylai hyn gael lle dwys ar feddwl yr eglwys, fel y dywed yr apostol: 1 Cor. xi. 30, 31.
"Y mae ychydig gymunroddion wedi eu gadael gan wahanol bersonau tuag at gynhaliaeth gweinidog yn y lle. Ni ddylai hyn mewn un modd fod yn achlysur i'r eglwys leihau ei hymdrechion haelionus ei hun yn nghynaliaeth y weinidogaeth. Y mae y cymunroddion hyn yn 220p., gyda dwy bunt a deg swllt yn flynyddol yn dyfod yn ol ewyllys un Mrs. Roberts, o Wrecsam."[1]
Bu yma ar rai adegau ddynion nodedig mewn crefydd-" cadarn yn yr Ysgrythyrau "—nas gallesid yn fuan eu syflyd oddiwrth y ffydd, na'u cael i droi oddiwrth yr hyn a ystyrient hwy yn wirionedd. Cyfrifid yr eglwys yn uchel Galfinaidd yn yr adeg yr oedd dadleuon duwinyddol yn cynhyrfu y wlad; ond nid oedd ei syniadau uchel am ras yn atalfa iddi flaenori mewn gweithredoedd da. Nis gallasom gael rhestr gyflawn o'r dynion nodedig a fu yn perthyn i'r eglwys hon o bryd i bryd; ond crybwyllir gyda pharch am enwau y personau a ganlyn fel rhai rhagorol yn mysg y brodyr a fu yn perthyn i'r eglwys yn y ganrif bresenol :—Robert Chidlaw, a fu yn proffesu crefydd yma am fwy na 60 mlynedd, ac a ennillodd iddo ei hun radd dda, er nad oedd ond dyn cyffredin ei amgylchiadau. Yr hen Edward Pryce, yr hwn a elwid "Yr Orddfawr," am yr arferai bob amser siarad yn gryf a phenderfynol dros ddysgyblaeth. Symudodd ef i America. Elijah Morris oedd ddyn o ddeall cryf, ac yn athraw goleuedig yn yr ysgol Sabbothol. William Dodd oedd yn hen gymeriad gwreiddiol, ac a fu am oes hir yn un o golofnau yr achos. Evan Hughes y Gof oedd yn wr da a ffyddlon; a gadawodd gymunrodd o 20p. at y weinidogaeth yn y lle. John Daniel, John Owen, o'r Cwm, wedi hyny o'r Tanhouse, a John Richards, Patent Maker, ydynt enwau sydd wedi disgyn i lawr hyd atom gyda pherarogl. Griffith Evans oedd wr haelionus, selog, a chrefyddol iawn. Er ei fod uwchlaw y cyffredin o ran ei amgylchiadau, cyfrifai ei hun yn wastad y llai na'r lleiaf. Robert Evans, ei fab, oedd wr ieuangc addawus iawn, ond a symudwyd gan angeu yn mlodeu ei ddyddiau. John Jones, Tanner, mab-yn-nghyfraith y dywededig Griffith Evans, oedd ddyn o feddwl penderfynol, ac wedi ei wreiddio yn ddwfn yn ngwirioneddau yr efengyl. Richard Tibbott a'i deulu a fu am dymor maith yn swcr mawr i'r achos yma. Mab oedd efe i'r hyglod Richard Tibbott, gweinidog Llanbrynmair. "Gwr defosiynol yn ofni Duw yn nghyd a'i holl dŷ oedd Mr. Tibbott. Cristion cywir a heddychlon. Gwelodd ei ferched rhinweddol yn gwywo i'r bedd o flaen ei lygaid; ac nid oes iddo neb wedi ei adael ar ol i ddwyn ei enw.
Bu llawer o wragedd rhagorol yn perthyn i'r eglwys hon-gwragedd a gymerent ran gyhoeddus gyda chrefydd, ac y bu eu dylanwad a'u gwasanaeth o gynorthwy mawr i achos y Gwaredwr. Mrs. M. A. Tibbott, gwraig gyntaf Mr. Richard Tibbott, oedd un a gymerodd lawer o boen er mwyn crefydd, ac yr oedd ei chalon yn gynes gyda'r achos yn ei holl ranau. Arferai y gwragedd yma gynal cyfarfodydd gweddio yn gyhoeddus, ac yr oedd rhai o honynt yn meddu ar ddoniau nodedig. Crybwyllir yn arbenig am Mrs. Foulkes, Tanner, a'i chwiorydd-y Misses Price, Mrs. Jenkin Lewis, Betty Daniel, a Betty Pritchard, Eva Judith, Betty Jones, Mrs. Tibbott (ail wraig Mr. R. Tibbott), Gwen Evans, ac amryw eraill;
- ↑ Llyfr Eglwys Llanfyllin. Ysgrifenwyd gan Mr. D. Morgan.