Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/305

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac mewn cyfnod diweddarach, yr oedd Mrs. Jones, Tanhouse, yn nodedig fel un o "heddychol ffyddloniaid Israel." Mae enwau rhai rhagorol y ddaear yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth. Gosododd Paul ar gof a chadw yn ei lythyrau enwau y gwragedd sanctaidd a fu o wasanaeth iddo ef yn achos yr efengyl; ac y mae llawer eglwys yn Nghymru yn ddyledus i "lafurus gariad" gwragedd rhinweddol, fel offerynau am yr olwg lwyddianus sydd arnynt.

Cyfodwyd yma o bryd i bryd gryn nifer o bregethwyr; ac er nad oes genym restr gyflawn o honynt, yr ydym yn sicr fod y rhai canlynol wedi codi oddi yma :

Robert Owen. Urddwyd ef yn Llanengan, yn sir Gaernarfon. Bu yno dros amryw flynyddoedd. Symudodd i Cwmbychan, Morganwg. Ymollyngodd yn ei arferion, a darfu ei gysylltiad â'r weinidogaeth; ac y mae wedi ei gladdu er's yn agos i 20 mlynedd.

Robert Jones, a Charles Jones. Dau frawd a fuont am flynyddau lawer yn bregethwyr cynorthwyol yn y dref a'r amgylchoedd. Yr oeddynt mewn sefyllfaoedd bydol cysurus, ac felly yn gallu rhoddi eu gwasanaeth yn rhad i eglwysi bychain yr ardaloedd cylchynol. Bu llaw ganddynt yn sefydliad amryw o eglwysi y rhan yma o sir Drefaldwyn, fel y cawn achlysur i sylwi etto pan y deuwn at yr eglwysi hyny. Bu Mr. Robert Jones farw lawer o flynyddoedd o flaen Mr. Charles Jones; a symudodd yr olaf i Langynog yn ei flynyddoedd diweddaf. Brawd iddynt hwy oedd Mr. David Jones, Llansantffraid, am yr hwn y bydd genym lawer i'w ddyweyd pan ddeuwn at yr eglwys hono; a chwaer iddynt hwy oedd Mrs. Tibbott, gwraig gyntaf Mr. Richard Tibbott; a da genym ddeall fod crefydd yn aros yn yr achau.

John Morris. Urddwyd ef yn weinidog yn y Main. Daw ef dan ein sylw yn nglyn â'r eglwys yno.

Thomas Richards. Symudodd ef i Benybontfawr, lle y treuliodd ei oes yn bregethwr cynorthwyol parchus a derbyniol gan yr holl eglwysi. Bydd genym air am dano yn hanes Penybontfawr.

Edward Evans. Mab Mr. Griffith Evans, un o hen ddiaconiaid yr eglwys. Bu yn astudiwr yn yr Athrofa pan yn Llanfyllin, a symudodd gyda hi i'r Drefnewydd. Yno y derbyniwyd ef yn aelod, yr olaf a dderbyniwyd gan Dr. Lewis. Bu dan addysg yn Wem, dan ofal Mr. Edwards; ac yn Nghroesoswallt, dan ofal Dr. T. W. Jenkin; a phan yno y dechreuodd bregethu. Bu yn Athrofa Homerton, ac wedi hyny yn Mhrifysgol Glasgow; ond dychwelodd i Lanfyllin at ei deulu, gan ymgymeryd â masnach ei dad, ac yma y mae yn aros hyd yr awr hon.

Ellis Hughes. Er mai un o Ddinas Mawddwy ydyw, a mab i'r hen weinidog parchus W. Hughes, etto yma y dechreuodd bregethu yn niwedd 1829, neu ddechreu 1830. Wedi bod dan addysg yn y Neuaddlwyd a'r Drefnewydd, urddwyd ef yn Nhreffynon; ac y mae yn awr yn Mhenmain. Jeremiah Jones. Urddwyd ef yn Abergele, a bu farw yn gymharol ieuangc. Gweler ei hanes yno.

Owen Evans. Yr hwn sydd yn weinidog yn Llanbrynmair, a ddechreuodd bregethu yn 1846, pan yn 16 oed. Gobeithio fod yr amser yn mhell pan y gelwir ar neb i ysgrifenu bywgraphiad iddo.

David Evans. Brawd y dywededig Owen Evans. Addysgwyd ef yn Athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Rhosymedre; ac y mae yn awr yn yr Abermaw.