Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/306

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Thomas Evans. Brawd arall o'r un teulu. Addysgwyd yntau yn Athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Bettwsycoed, lle y mae yn awr.

Cadwaladr R. Jones. Mab i'r hybarch C. Jones, Dolgellau. Dechreuodd ef bregethu yr un pryd a Thomas Evans; ac y mae yn aros yn Llanfyllin i wasanaethu yr eglwys fel diacon a phregethwr; ac y mae ei enw yn adnabyddus trwy ein henwad fel un parod i bob gweithred dda.

William Jones. Dechreuodd ef bregethu yr un pryd a'r ddau a enwyd ddiweddaf. Symudodd i America, lle y mae yn bresenol.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

AMBROSE MOSTYN. Bu y gwr da hwn yn llafurio i'r eglwys hon ar ei chychwyniad cyntaf; ond gan iddo fod ar ol hyny yn gweinyddu i'r eglwys yn Ngwrecsam gadawn ei hanes ef hyd hyny.

JOHN EVANS. Gweler ei hanes yntau yn nglyn a'r eglwys yn Ngwrecsam lle y terfynodd ei weinidogaeth.

JAMES OWEN. Ganwyd Mr. Owen yn y Bryn, yn mhlwyf Abernant, ger Caerfyrddin, ar y 1af o Dachwedd, 1654. Yr oedd yn fab i amaethwr cyfrifol o'r enw John Owen, yr hwn oedd yn Eglwyswr selog iawn, yn ddyn hynod o ddichlynaidd o ran ei fywyd, a chymeradwy gan ei holl gymydogion. Yr oedd ganddo naw o blant rhwng meibion a merched, a James oedd ei ail fab. Rhoddodd addysg dda i'r plant oll, a dygodd hwynt i fyny yn grefyddol yn ol ei syniad ef am grefydd, ac aberthodd lawer i roddi i rai o honynt ddysgeidiaeth lenyddol o radd uchel yn ol cyfleusderau y dyddiau hyny. Bu fyw i weled ei blant oll wedi eu sefydlu mewn sefyllfaoedd cysurus yn y byd, a mwy na'r cwbl gwelodd hwynt oll wedi dyfod yn grefyddol, er iddynt ymadael a'r Eglwys Sefydledig a throi yn Ymneillduwyr, a daeth tri o honynt, sef David, James, a Charles yn weinidogion Ymneillduol. Wedi i James gael ychydig addysg mewn ysgol yn y gymydogaeth anfonwyd ef i Gaerfyrddin i ofal Mr. Ficton, un o'r Crynwyr, a symudodd oddiyno i ysgol rad perthynol i'r dref hono dan arolygiaeth Mr. David Phillips, yr hwn a'i parotodd gogyfer a Phrif Ysgol Rhydychain, a chymaint oedd ei ymroad yma fel yr hoffid ef yn fawr gan ei athraw, yr hwn a edrychai arno fel un ieuangc pur obeithiol. Yr oedd yn arferiad ganddo pan yn bur ieuangc i aros i fyny yn hwyr, nid yn unig er mwyn parotoi gogyfer a'r dydd canlynol, ond hefyd er adolygu gwaith y dydd a aeth heibio. Pan ar derfynu ei amser yn Nghaerfyrddin i fyned i'r Brifysgol y clywodd gyntaf bregeth gan weinidog Ymneillduol, y testyn oedd Malachi iv. 1. Cafodd ei bregeth y fath argraff arno fel y terfynodd yn ei argyhoeddiad trwyadl. Tywynodd goleuni newydd ar ei gyflwr, newidiodd ei feddwl a'i amcan blaenorol yn hollol, a rhoddodd ei hunan i fyny i'r Arglwydd, gan benderfynu taflu ei goelbren yn mhlith yr Ymneillduwyr. Wedi iddo orphen ei amser yn Nghaerfyrddin, yn lle myned i Rhydychain fel y bwriadai, aeth at Mr. Samuel Jones, Brynllywarch, sir Forganwg, er mwyn addysg ychwanegol. Tra y bu yma ymroddodd yn egniol i fyfyrio, a chynyddodd yn mhob cangen o wybodaeth fuddiol, fel y derbyniodd oddiwrth ei athraw y cymeriad o fod yn astudiwr diflino. Bu yma nes yr oedd oddeutu deunaw oed, pryd y dychwelodd i Gaerfyrddin lle y cadwodd ysgol am ryw gymaint o amser. Yr oedd yno neu yn y gymydogaeth wr eglwysig parch-