Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/308

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cytunasant i wneuthur eu goreu i ddal y pregethwr a'r gwrandawyr. Dywedodd un o honynt, gan dybied ei hun yn gyfrwysach na'r lleill, yr aent i ben y bryn oedd gerllaw y lle, gan gymeryd arnynt hela, fel y gallent sylwi i ba dy y byddai cyrchfa y bobl. Llwyddodd y cynllun, a phan ddaethant i'r lle, disgynasant oddiar eu meirch, ac amgylchynasant y ty mewn modd echryslawn gyda'u drylliau a'u cleddyfau. Gwyliodd rhai y drws tra yr oedd eraill yn myned i'r ty. Cymerasant afael yn Mr. Owen a'i Feibl, a dywedai un o honynt yn haerllug ei fod yn Feibl anghyfreithlawn am fod concordance wedi ei gydrwymo ag ef. Y gorchwyl nesaf oedd edrych dros nodau ei bregethau ef, a haerasant gyda llwon mai Jesuit oedd am eu bod wedi eu hysgrifenu yn yr iaith Lladin. Buont fel hyn yn ei fygwth am gryn amser, gan ddychrynu y gwrandawyr yn arswydus; o'r diwedd danfonasant am heddgeidwad, ac aeth tair awr heibio cyn i hwnw wneyd ei ymddangosiad. Yn y cyfamser, yr oedd eu tymherau wedi eu dofi i raddau, ac wedi iddynt eistedd i lawr ar ddeisyfiad gwr y ty, dechreuasant holi Mr. Owen-yr hwn hyd yma oedd wedi bod yn ddistaw-gyda golwg ar ei ddysgeidiaeth, a phaham y gwrthodai gydffurfio, gan ychwanegu llawer o gwestiynau cyfrwys-gall gyda golwg ar y Brenin a'r Llywodraeth oddiar yr amcan fel yr oedd yn ddigon amlwg iddo i'w faglu yn ei ymadroddion. Attebodd Mr. Owen hwynt gyda challineb a phresenoldeb meddwl mawr. Yr oedd y rhesymau a arferodd mor rymus fel y tueddent i gywilyddio ei wrthwynebwyr, a chadarnhau ei gyfeillion. Pan ddaeth yr heddgeidwad tynodd un o honynt ysgrifen o'i logell gan gymeryd arno mai gwarant ydoedd, a thrwy rym hono gyrasant Mr. Owen a'i wrandawyr fel cynifer o ddefaid o'u blaen i'r Wyddgrug. Nis gwyddent yn y byd pa beth i wneyd a'i ysgrifau gan fod eu cynwysiad yn eu meistroli yn deg, o'r diwedd anfonwyd am y Ficar, yr hwn a ddywedodd mai pregeth oeddynt ar Can. v. 16, "Y mae efe oll yn hawddgar." Wedi peth ymddyddan rhwng y Ficar a Mr. Owen, addefai ef a'r Ustus ei fod yn ddyn ieuangc dysgedig, bod yn drueni mawr ei fod yn Ymneillduwr. Wedi hir ymryson a thriniaeth galed, traddodwyd Mr. Owen, a'r gwr yn nhy yr hwn y bu yn pregethu, i'r carchar yn Nghaerwys. Derbyniodd bob caredigrwydd fel Joseph gynt oddiwrth geidwad y carchar, heblaw oddiwrth eraill a ymwelent ag ef. Yr oedd ei ddysgeidiaeth a'i rinweddau yn gorfodi hyd yn nod ei elynion i siarad yn barchus am dano. Bu yn y carchar am dair wythnos, a threuliai rhwng tair a phedair awr bob dydd i weddio, pregethu, ac esbonio yr Ysgrythyrau i'w gyd-garcharorion, ac eraill o drigolion y dref a ewyllysient ddyfod i mewn. Cyrhaeddodd y newydd yn fuan i glustiau y boneddwyr cymydogaethol, a llanwyd hwy ag ofn rhag y byddai i'r carchardy gael ei droi yn addoldy; a gosodasant orchymynion caeth ar y ceidwad na oddefai i neb ddyfod i mewn i uno a'r carcharorioni addoli yr Arglwydd. Ond cymaint oedd awydd y bobl i ddyfod i'w wrando, fel yr ymdyrent o amgylch y ffenestri oddiallan, er mwyn clywed ei weddiau a'i bregethau. Pan nad oedd fawr obaith y cai Mr. Owen na'i gyfeillion gyfiawnder, danfonodd Mr. John Evans, o Wrecsam, ei achos at gyfreithiwr dysgedig yn Llundain, barn yr hwn oedd, fod ei garchariad yn anghyfreithlon, a bod yr heddynad a'i traddododd yn agored. i gosp. Anfonodd yr heddynad yn uniongyrchol at geidwad y carchar pan welodd y perygl yr oedd ynddo, a gorchymynodd ef i droi Mr. Owen a'r cyfaill oedd gydag ef o'r carchar. Cynghorwyd Mr. Owen i ddial ei gam am ei garchariad, ond dewisodd lonyddwch gan ymddiried ei achos