Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwbl; ond yr oedd ei gynwysiad y fath fel nas gallasai miloedd o ddynion. cydwybodol gydsynio ag ef ar ol ei weled, chwaethach cyn hyny. Gorfodwyd dros ddwy fil o'r pregethwyr goreu a duwiolaf yn y deyrnas i roddi eu lleoedd i fyny, am nas medrent gydymffurfio a'r ddeddf orthrymus hon. Y rhai canlynol oedd y rhai a dröwyd allan neu a waharddwyd i bregethu yn Nghymru.

BRYCHEINIOG.

John Edwards, Cathedin. Bedyddiwr oedd ef.

Thomas Evans, Maesmynys, ger Llanfairmuallt. Dyn da, a dyoddefydd mawr. Un o'r Bedyddwyr ydoedd.

David William Probert, Llandefeilog.

Elias Harry, Patrishw, ger Crughowell.

Thomas Watkins, o gymydogaeth y Gelli. Dyn gweithgar, a dylanwadol. Bu yn weinidog yr eglwys yn Olchon hyd 1694, pryd y bu farw.

Thomas Parry. Bedyddiwr ydoedd yntau. Bu farw yn 1709, mewn oedran teg.

Henry Maurice. O Church Stretton, yn sir Amwythig, y trowyd ef allan, ond yn y sir hon y bu fyw a marw fel Ymneillduwr.

ABERTEIFI.

John Evans, Bangor, ger Castellnewydd-yn-Emlyn.

Charles Price, Aberteifi.

David Jones, Llanbadarnfawr.

Evan Hughes, Llandyfriog.

Lewis Price, Llangunllo.

Richard Davies, Penybryn.

John Harris, Tregaron. Pregethodd lawer yn siroedd Aberteifi a Maesyfed, yn amser y werin-lywodraeth. Ni wyddys pa beth a ddaeth o hono ar ol ei droi allan.

John Hanmer. Pregethwr teithiol defnyddiol yn Maesyfed ac Aberteifi.

Rodrick Thomas, Llanfihangel-y-creuddyn.

Morgan Howel, Bettws, ger Llanbedr.

CAERFYRDDIN.

William Jones, Cilmaenllwyd. Bedyddiwr oedd ef a gwr llafurus iawn.

David Jones, Llandysilio.

John Powell, Llangynwr. Nid oes dim o'i hanes ef ar gael.

Meredith Davies, Llanon. Terfynodd ei oes yn Mrowyr, Morganwg.

James Davies, Merthyr, ger Caerfyrddin.

Stephen Hughes, Meidrym.

Rees Prydderch, Ystrad-Walter, ger Llanymddyfri.

Phillip Lewis, pregethwr teithiol yn y sir hon. Bu farw yn anghydffurfiwr.