ei gyfaill Mr. Mathew Henry. Amlygai ei foddlonrwydd ar ei wely angeu ei fod wedi byw, a'i fod wedi marw yn Anghydffurfiwr. Bu farw mewn llawn sicrwydd gobaith, yn y mwynhad o gysuron uchaf crefydd, gan fendithio ei blant a'r gwyr ieuaingc oeddynt dan ei ofal; a dywedai Mr. Mathew Henry, yr hwn a ymwelasai ag ef yn ei gystudd diweddaf, "fod y nefoedd yn enaid James Owen, cyn fod enaid James Owen yn y nefoedd."
WILLIAM JERVICE. Nid oes genym ddim i'w ychwanegu am dano at yr hyn a ddywedasom eisioes. Yn ol llyfr eglwys Llanfyllin, yr hwn a ysgrifenwyd gan Mr. D. Morgan, sefydlwyd ef yn 1703, a llafuriodd yno hyd 1743 am 40 mlynedd, a chladdwyd ef yn mynwent yr Eglwys, lle y gwelwyd ei gareg fedd gan rai o bobl henaf y dref a'i enw arni.
THOMAS EVANS. Yr ydym wedi dyweyd y cwbl a wyddom o'i hanes yntau. Boddodd yn ddyn ieuangc yn afon Efyrnwy, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Meifod.
JENKIN JENKINS, D.D. Nis gwyddom yn mha le na pha bryd y ganwyd ef. Yn Athrofa y Llwynllwyd yr addysgwyd ef, dan ofal y duwiol Vavasor Griffiths; ond gan i'r Athrofa gael ei symud yn 1740 i Hwlffordd, ac nad yw enw Dr. Jenkins yn mysg y myfyrwyr yno, yr ydym yn barnu iddo ef ar symudiad yr Athrofa o'r Llwynllwyd fyned i ryw Athrofa yn Lloegr neu Scotland, oblegid ni chafodd ei urddo cyn 1747. Yr ydym yn barnu mai yn Llanfyllin yr urddwyd ef, ond nid ydym yn sicr o hyny. Yn 1759, symudodd o Lanfyllin i Gaerfyrddin, i fod yn athraw clasurol yn yr Athrofa, ac yn weinidog yn Heol Awst. O amser marwolaeth Mr. Samuel Thomas, yr athraw Duwinyddol, yn 1766, bu Dr. Jenkins yn unig athraw y sefydliad hyd nes iddo roddi ei swydd i fyny yn 1779. Y flwyddyn hono symudodd i Lundain, lle y bu farw; ond nis gwyddom pa bryd y cymerodd ei farwolaeth le.
Yr oedd Dr. Jenkins, fel yr ymddengys, yn un o'r ysgolheigion goreu yn ei oes. Ariad ydoedd o ran cred, a dywedir ei fod yn mhell o feddu y difrifoldeb a'r duwiolfrydedd a nodweddai yr hen Ymneillduwyr a'r Puritaniaid. Dywed Mr. Morgan, Llanfyllin, iddo yn nhymor ei weinidogaeth yn y lle hwnw fod yn agos a lladd yr achos trwy ei ddiffyg difrifoldeb a nodwedd anefengylaidd ei weinidogaeth. Mae yn hysbys hefyd fod y myfyrwyr, yn ei amser ef, yn Nghaerfyrddin, yn nodedig am eu hanghrefyddoldeb.
JENKIN LEWIS. Ganwyd ef yn agos i Gastellnedd, yn y flwyddyn 1749. Ni chafodd ond ychydig fanteision boreuol; ond derbyniwyd ef yn aelod yn yr Alltwen gan Mr. John Dafis. Yr oedd o'i ieuenctyd yn neillduol am ei symlrwydd, ac ymneillduai o bob cymdeithas ofer a llygredig; O herwydd marwolaeth ei dad, bu raid iddo aros adref gyda'i fam er ei chynorthwyo gyda'r plant ieuengaf yn hwy nag y gwnaethai pe dilynasai dueddfryd ei feddwl. Yr oedd ei ogwyddiad yn gryf at y weinidogaeth, er na fynegasai ei deimladau nes i Mr. Lewis Rees ei holi yn yr achos; ac wedi deall ei awydd, calonogodd ef i fyned yn mlaen. Derbyniwyd ef i'r Athrofa oedd y pryd hwnw yn Abergavenny dan arolygiaeth Dr. Davies, yn y flwyddyn 1780. Yr oedd Mr. Lewis y pryd hyn dros 30 oed, ac mor anadnabyddus yn yr iaith Saesonaeg fel nas gallasai ateb ei athraw yn y pethau mwyaf syml. Ond trwy ymroddiad a diwydrwydd, daeth nid yn unig yn adnabyddus o'r iaith Saesonaeg, ond llwyddodd i allu gwneyd defnydd o'r Testament Groeg, ac i ddarllen gyda budd lyfrau