wylo; a phan y gofynwyd iddo y rheswm, atebodd—"Nid yn gymaint am fod Mr. Lewis yn marw; ond am fy mod i heb grefydd, ac yntau yn arfer dyweyd bob amser ei fod yn gobeithio cael fy ngweled yn grefyddwr cyn ei farw."
Yn y flwyddyn 1793, priododd âg un o aelodau yr eglwys Annibynol yn y Bala; ond ni fu yr un plentyn iddynt. Dygai arwyddion amlwg ei fod yn addfedu i'r nefoedd fel yr oedd yn nesau at derfyn bywyd; ac ar ddydd yr Arglwydd, Tachwedd 24ain, 1805, hunodd mewn tangnefedd. Claddwyd ei gorff yn mynwent Eglwys y plwyf y dydd Mercher canlynol; ac wedi gadael ei weddillion marwol yn "nhy ei hir gartref," aeth y dorf i'r capel, a phregethodd Mr. Jenkin Lewis, Casnewydd; Mr. John Roberts, Llanbrynmair; a Dr. George Lewis, y pryd hwnw o Lanuwchllyn —yr olaf, trwy ddymuniad, oddiar Mat. xxv. 21: "Da, was da a ffyddlon, buost ffyddlon ar ychydig; mi a'th osodaf ar lawer, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."
DAVID ROBERTS. Daw ei hanes ef yn nglyn âg eglwys Dinbych, lle y terfynodd ei yrfa.
DR. GEORGE LEWIS. Gweler ei hanes ef mewn cysylltiad a'r achos yn y Drefnewydd, lle y bu farw y flwyddyn gyntaf wedi gadael Llanfyllin.
WILLIAM MORRIS. Er mai yn Llanfyllin yr urddwyd ef, y bu farw, ac y claddwyd ef, etto, gan mai Bryngwran, Mon, fu ddiweddaf dan ei weinidogaeth, yn nglyn â'r eglwys yno y ceir ei hanes.
DAVID MORGAN. Ganwyd ef Rhagfyr 27ain, 1779, yn y Ddolwen, yn mhlwyf Llanfihangel-Creuddyn; un o ardaloedd gwylltaf a mwyaf mynyddig sir Aberteifi. Yr oedd ei dad yn amaethwr cyfrifol, ac yn berchenog ar gryn lawer o dir; ac yr oedd ef a'i henafiaid er's cenedlaethau wedi trigianu yn y Ddolwen. Bu i'w rieni saith o blant, dau o ba rai a fuont feirw yn eu mabandod. David oedd eu chweched plentyn. Bu farw ei fam pan nad oedd ef ond dwyflwydd oed, a disgynodd gofal y plant ieuengaf mewn cysylltiad â'i thad ar y ferch hynaf. Yn y Bywgraphiad a ysgrifenodd Mr. Morgan o hono ei hun-o'r hwn y cymerwyd y rhan fwyaf o ddefnyddiau y cofnodion hyn-llefara yn uchel iawn am ei chwaer hynaf, a'i ddyled iddi am yr addysg grefyddol a gafodd ganddi. Ymunodd hi â'r Methodistiaid Calfinaidd pan yn ieuangc, a glynodd gyda hwy hyd ddiwedd ei hoes, a bu farw mewn oedran teg er's blynyddau lawer yn Ponterwyd, sir Aberteifi. Er mai Eglwyswr defosiynol oedd ei dad rhan fwyaf o'i oes, etto, cyn diwedd ei ddyddiau, ymunodd yntau â'r Methodistiaid, gan ddwyn arwyddion amlwg o gyfnewidiad cyflwr. Derbyniodd Mr. Morgan yn ei ddyddiau boreuol well addysg nag a roddid i'r rhan fwyaf hyd yn nod o blant amaethwyr a thirfeddianwyr y dyddiau hyny; ond cwyna yn enbyd yn erbyn anfedrusrwydd yr athrawon y rhoddwyd ef dan eu gofal, ac ar yr afreoleiddiwch oedd yn nglyn a'i addysg foreuol, oblegid sefyllfa anghysbell ei gartref, a'r ffyrdd anhygyrch oedd ganddynt i fyned i bob man. Dechreuodd deimlo argraffiadau crefyddol yn foreu ar ei feddwl. Y cof cyntaf oedd ganddo am unrhyw argraff ddwys a gynyrchwyd ar ei feddwl oedd ar un nos Lun Pasg, pan oedd yn saith neu wyth mlwydd oed, wrth wrando Mr. Williams, Lledrod, yn pregethu mewn lle a elwir Brynchwith, oddiar y geiriau, "Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'u tân yn diffodd." Cafodd y testun a'r bregeth effeithiau dwfn ar ei feddwl. Dygodd of i wrande yn amlach, ac i ddarllen y Gair yn fwy astud, ac i ymhyfrydu yn fwy mewn cyfeillachau