crefyddol i'r rhai y cyrchai gyda'i chwaer henaf. Teithiai lawer i gyfarfodydd, a theimlai fywiogrwydd a sêl wresog tuag at grefydd. Yr oedd hoffder mawr ganddo mewn darllen y Beibl, yn neillduol y rhanau hanesyddol o hono, a dywed fod ganddo lawer o lanerchau ar hyd y bryniau a'r meusydd oeddynt yn gysegredig yn ei olwg, oblegid y teimladau a fwynhaodd ynddynt wrth dywallt ei galon ger bron Duw. Ond collodd y teimladau dymunol hyny. Ymadawodd a'i gariad cyntaf-daeth oerder i'w serchiadau-dechreuodd hoffi cyfeillachau digrefydd, ac aeth i geisio hyfrydwch ar dir gwaharddedig. Yr oedd y pryd hyny tua 19 oed, a bu am rai blynyddau yn rhodio yn ol helynt y byd hwn, gan ymhyfrydu yn nifyrwch cyffredin meibion amaethwyr cyfoethog y dyddiau hyny. Pan oedd ef tuag 21 oed, o herwydd rhyw amgylchiadau, symudodd ei dad o'r Ddolwen, hen gartrefle ei henafiaid, i'r Dolau, rhwng Aberystwyth a Thalybont. Yr oedd ei chwiorydd a'i frawd erbyn hyn wedi priodi, ac yntau wedi ei adael ei hunan gyda'i dad. Priododd ei dad hefyd, ar ol bod yn weddw am 22 mlynedd; ac er nad oedd mewn un modd yn beio ymddygiad ei dad, etto nis gallasai deimlo yn hapus i feddwl byw gyda'i lysfam. Aeth am dymor i'r ysgol i'r Amwythig yn ddyn 23 oed, yn ei gyflawn faintioli. Wedi bod yno dros yr amser bwriadedig, meddyliodd am gyflwyno ei hunan i fasnach; a chytunodd â masnachwr cyfrifol ac ymroddgar yn Machynlleth, a adnabyddid wrth yr enw "John Jones y Siopwr." Yr oedd ei feistr, heblaw bod yn fasnachwr cyfrifol, yn Ymneillduwr crefyddol, ac yn un o brif golofnau yr achos Annibynol yn y dref. Yn ei dy ef y llettyai y pregethwyr Annibynol a ddeuai yma. Y noson gyntaf wedi i Mr. Morgan fyned i'w le newydd yn Machynlleth, yn Rhagluniaethol yr oedd cyhoeddiad y diweddar Mr. John Roberts, Llanbrynmair, i fod yn y dref; ac wrth reswm, yr oedd i aros y noson hono gyda John Jones y Siopwr, yn lletty y fforddolion. Nid oedd Mr. Morgan erioed wedi cyfarfod a Mr. Roberts o'r blaen, a digon prin y gwyddai fod y fath ddyn ag ef yn y byd; ac ni wyddai Mr. Roberts ddim am dano yntau. Yr oedd y siopwr newydd, a'r pregethwr o Lanbrynmair i fyned i'r un ystafell, ac i'r un gwely i gysgu. Ond er eu bod yn hollol ddyeithr i'w gilydd, ar ol myned i'r ystafell wely, dyma Mr. Roberts, yn ol ei arfer, a chyda'r tynerwch oedd mor briodol iddo, yn dechreu holi y gwr ieuangc yn nghylch mater ei enaid; ac fe ddeallodd yn fuan fod teimladau cryfion yn nghalon y llanc. Treuliwyd y rhan fwyaf o'r noson hono mewn ymddyddan difrifol am natur a hawliau gwir grefydd; ac o'r adeg hono, dechreuwyd cyfeillgarwch rhyngddynt, yr hwn a barhaodd hyd farwolaeth Mr. Roberts, yn mhen mwy na deng mlynedd ar hugain arol hyny; ac nid hyny yn unig, ond cariodd ymddyddanion y noson hono ddylanwad annileadwy ar feddwl Mr. Morgan, yr hwn a barhaodd dros ei holl fywyd. Yr oedd y pryd hwnw yn 23 oed; ac y mae Mr. Morgan wedi ei osod ar gof a chadw pan yn 77 oed—nad oedd treigliad mwy na haner can' mlynedd o lafur didor yn ngwasanaeth ei Arglwydd wedi dileu o'i gof yr ymddyddan ar y pryd; ond ei fod yn cofio yn fywiog, ac yn cael adeiladaeth wrth gofio llawer o ymadroddion gwerthfawr Mr. Roberts yn ystod y noson fythgofus hono. Nid arhosodd Mr. Morgan ond chwe mis yn Machynlleth, gan nad oedd ganddo chwaeth at fasnach, a dychwelodd adref gan benderfynu ymroddi i fywyd amaethyddol. Erbyn hyn yr oedd yr Annibynwyr yn dechreu pregethu yn Nhalybont; a chan ei fod yntau wedi arfer gwrando arnynt yn ystod ei arosiad yn Machyn-
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/313
Prawfddarllenwyd y dudalen hon