symudodd ei deulu o sir Aberteifi, ond ymwelai â'i eglwysi yn rheolaidd ddwy waith bob mis; ac ar y Sabbothau eraill gwasanaethai pa le bynag y byddai galwad am dano. Teithiai yn aml ugain a deng milldir ar hugain ar y Sabboth, ac ychwaneg na hyny yn fynych; ac yr oedd yn gwbl ymroddedig i waith ei Arglwydd. Ar ymadawiad Mr. J. Griffith o Machynlleth i Dyddewi yn 1814, derbyniodd Mr. Morgan alwad i fod yn olynydd iddo. Ar yr un pryd derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Llanfyllin; ond gogwyddwyd ef i gydsynio â gwahoddiad yr eglwys yn Machynlleth, a sefydlwyd ef yno Rhagfyr 19eg a'r 20fed, 1814. Symudodd ei deulu i Fachynlleth; ac o'r adeg yma y gellir dyddio ei ymroddiad hollol i "wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab," heb "ymrwystro gyda negeseuau y bywyd hwn." Parhaodd ei lafur diflino am ddwy flynedd ar hugain yn Machynlleth a'r amgylchoedd; a bu ei ymdrechion yn llwyddianus iawn. Pan yr ymsefydlodd yno, nid oedd ond dau gapel gan yr Annibynwyr o fewn deng milldir o amgylchedd ; ac nid oedd rhifedi yr aelodau rhwng Aberhosan a'r dref yn fwy na 120. Ond ymroddodd â'i holl egni i "gyflawni ei weinidogaeth" "mewn amser ac allan o amser.' Pregethai mewn tai anedd, ar y meusydd, yn yr awyr agored, yn gystal ag yn yr addoldai. Ail adeiladwyd y capel yn Machynlleth trwy draul fawr, a gwnaed ef y capel eangaf a feddai yr enwad ar y pryd yn Ngogledd Cymru. Adeiladwyd nifer o gapeli bychain yn amgylchoedd y dref yn benaf gyda'r amcan o gynal ynddynt ysgolion Sabbothol a phregethu achlysurol. Codwyd un yn mlaen y plwyf a alwyd Soar, ac un arall yn y Glasbwll, ac un arall yn Penal, yr hwn a helaethwyd hefyd yn ei amser ef, ac un arall yn Llanwrin, ac un arall yn Penegos, a thalwyd eu traul agos yn llwyr yn yr ardaloedd lle y codwyd hwy. Yr oedd gwasanaeth rheolaidd yn cael ei gynal hefyd yn y Dderwenlas, er na chodwyd yno yr un capel yn nhymor ei weinidogaeth ef. Cynyddodd yr achos yn Machynlleth a'r canghenau, fel yr oedd ar un adeg tua phedwar cant o aelodau dan ei ofal, a'r ysgolion Sabbothol yn yr holl leoedd rhwng wyth, a naw cant. Sicrha Mr. Morgan mai anaml y bu yr un gweinidog yn fwy cysurus, ac ar y cyfan yn fwy llwyddianus nag y bu ef yn Machynlleth yn y deuddeg neu y pymtheg mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth. Derbyniodd fwy na phum cant i gymundeb eglwysig yno. Nid oedd yr eglwys ar ei sefydliad yn gallu addaw iddo fwy na 30p. yn flynyddol; ond wedi ei ymadawiad ef, rhanwyd ei weinidogaeth rhwng pedwar o weinidogion; ac y mae yn sicr genym fod pob un o honynt yn derbyn cymaint ag a dderbyniai Mr. Morgan oddi wrthynt oll. Yn 1827, derbyniodd alwad o'r Drewen, sir Aberteifi; a bu awydd cryf ynddo i fyned, am ei fod yn tybied ei fod gweled arwyddion ystorm yn ymgasglu; ond pa fodd bynag, wedi ymddyddan â rhai o'r cyfeillion, daeth i benderfyniad i aros lle yr oedd. Nid yw yn perthyn i ni yma fyned i mewn i'r amgylchiadau blinion a gyfarfu a Mr. Morgan yn Machynlleth. Mae ef ei hun wedi myned i mewn yn helaeth iddynt yn y Bywgraphiad a ysgrifenodd, yr hwn sydd yn awr ger ein bron, ac y mae yn rhoddi ei esboniad arnynt o'i safbwynt ei hun; ond nid ydym yn gweled yr atebai eu cyhoeddi un daioni. Mae Mr. Morgan a'r genedlaeth hono agos oll wedi myned heibio. Gwyr pawb a adwaenai Mr. Morgan ei fod o dymer fywiog a chyffrous, ac yn angerddol yn y peth a gymerai mewn llaw; ac nid oedd yn un o'r rhai arafaf i gymeryd i fyny ag unrhyw beth; ac os daeth i gyffyrddiad â rhai o gyffelyb dymer iddo ei hun, mae yn hawdd cyfrif pa fodd y daethant i wrthdarawiad. Ond yr
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/316
Prawfddarllenwyd y dudalen hon