oedd yn unplyg a diddichell, ac yn drwyadl ffyddlon i bob peth yr ymgymerai ag ef, ac i bawb y proffesai ffyddlondeb iddynt.
Yn nechreu y flwyddyn 1836, derbyniodd alwad oddiwrth, eglwys Gartside Street, Manchester, a symudodd yno. Digwyddodd fod yn adeg isel iawn ar fasnach pan y sefydlodd yn Manchester; ac nid oedd awyr afiach y ddinas boblogaidd yn ateb i iechyd un oedd wedi treulio hyd yn agos i dri ugain oed i yfed awelon iachus, a mwynhau golygfeydd aruchel y mynyddoedd. Nid oedd ychwaith yn mwynhau yr un cyfleusderau i gyfeillachu a'i frodyr, ac i fynychu cyfarfodydd pregethu, a'r hyn yr oedd wedi arfer trwy ei oes. Disgynodd ei ysbryd i fesur mawr yn yr adeg yma, trwy gydgyfarfyddiad gwahanol dreialon, er iddo gael caredigrwydd mawr oddiar law yr eglwys yn Manchester; a theimlai hyd ddiwedd ei oes ymlyniad wrth y lle a'r bobl.
Wedi bod yno dair blynedd, derbyniodd alwad yn Hydref 1839 oddiwrth eglwys Llanfyllin; gan yr hon, fel y crybwyllasom eisioes, y derbyniodd alwad 22 mlynedd yn flaenorol, pan yr ymsefydlodd yn Machynlleth. Symudodd i Lanfyllin yn mis Tachwedd y flwyddyn hono. Teimlai yno ei fod gartref yn ei elfen ei hun; ac nid oedd dim yn fwy naturiol i'w deimlad na chael dychwelyd i dreulio gweddill ei oes yn mysg ei hen gyfeillion yn Maldwyn, er fod y rhan fwyaf o gyfeillion boreu a chanol ei oes erbyn hyn wedi "myned i ffordd yr holl ddaear." Llafuriodd yn Llanfyllin a'r wlad oddi amgylch am y 18 mlynedd dyfodol, nes y gorfu iddo deimlo o'r diwedd fod methiant a gwendid wedi ei ddal, ac nas gallasai sefyll fel cynt ger bron arch Duw. Rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn mis Hydref 1857, pan oedd o fewn dau fis i 78 oed. Y groes drymaf a'i cyfarfu yn ei fywyd oedd rhoddi y weinidogaeth i fyny. Ei ddymuniad bob amser oedd cael marw ar y maes, yn y tresi, fel y dywedai ei hun; a phe buasai yr Arglwydd yn caniatau iddo y dymuniad a amlygwyd ganddo fwy nag unwaith, yn y pulpud y cawsai farw, a hyny pan gyda'i hoff waith o gyfeirio pechaduriaid at "Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd." Nid oedd gan fywyd ddim swyn iddo ef, ond yn unig fel y gwasanaethai yn gyfleusdra iddo i fod yn ddefnyddiol gydag achos ei Arglwydd ; a phan y methodd a bod yn ddefnyddiol fel cynt, collodd bywyd ei brif werth yn ei olwg. Nis gallasai ef fyw heb amcan sefydlog yn ei olwg; a chyn gynted ag y deallodd fod ei ddydd gwaith ar ben, nid oedd ynddo un dymuniad neiliduol am fyw yn hwy.
Yn y rhagolwg ar ei ymddeoliad o'r weinidogaeth, amlygodd eglwysi yr enwad eu gwerthfawrogiad o'i lafur hirfaith a diflino trwy wneyd tysteb er prynu blwydd-dal (annuity) iddo. Casglwyd amryw ganoedd o bunau, a suddwyd cyfran o'r swm a gasglwyd yn funds y Llywodraeth; ond ni bu Mr. Morgan fyw i fwynhau dim o'u ffrwyth. Cyn pen dau fis wedi eu suddo yn y funds, ac yn mhen wyth mis wedi iddo gyflwyno ei weinidogaeth yn Llanfyllin i fyny, nesaodd ei ddyddiau ef i farw. Gan nad oedd gan ei Arglwydd ddim rhagor ganddo i'w wneyd drosto ar y ddaear, galwyd ef adref i dderbyn gwobr y gwas da a ffyddlon." Wedi byr, ond poenus gystudd, bu farw yn Nghroesoswallt, Mehefin 14eg, 1858, i'r lle yr oedd wedi symud dair wythnos cyn ei farwolaeth, gyda'r bwriad o dreulio gweddill ei ddyddiau.
Cymerwyd ei weddillion marwol yn ol i Lanfyllin ddydd Gwener, Mehefin 18fed, a chladdwyd ef yn barchus yn mynwent y capel lle y llafuriodd dros gynifer o flynyddoedd. Daeth torf luosog yn nghyd i'w