ddilyn i dy ei hir gartref, ac yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion y sir, ac amryw o siroedd eraill, yn bresenol; a llywyddid y gwasanaeth angladdol yn y capel ac wrth y bedd gan ei hen gyfaill a'i gyd-lafurwr Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, yr hwn, cyn geni y rhan fwyaf o'r rhai oedd yn bresenol, oedd yn cymeryd rhan yn ei urddiad; a'r hwn yn awr a safai ar lan y bedd â deigryn gloyw yn ei lygad, fel tad y to o weinidogion oedd ar y pryd yn Ngogledd Cymru; ac fel yr olaf o'r "cedyrn fu wŷr enwog" yn Ngwynedd yn yr haner cyntaf o'r ganrif bresenol, a'r hwn hefyd erbyn hyn sydd wedi dilyn ei gyfoedion, ac wedi "huno gyda'i dadau."
Rhaid i ni gyfyngu ein sylwadau ar nodwedd a llafur Mr. Morgan i ychydig eiriau, gan na chaniata ein terfynau i ni wneyd olrheiniad llawn i'w holl neillduolion. O ran ei ymddangosiad allanol, yr oedd pan yn anterth ei ddydd yn dalach na'r cyffredin o ddynion, yn esgyrniog, ac wedi ei adeiladu yn gydnerth, a gallasai ei gyfansoddiad oddef unrhyw swm o lafur heb ddiffygio. Yr oedd penderfyniad yn amlwg yn ei lygaid, a thalweddau ei wyneb; ac fel yr ymddangosai, felly yr ydoedd mewn gwirionedd. Nid yn fynych y gallasai y llygaid ddisgyn ar ddyn mwy pendefigol yr olwg arno; ac yr oedd ei wisg a'i wallt, a holl ysgogiadau ei gorff, yn dangos yn eglur ei fod wedi hanu o gyff gwahanol i'r cyffredinolrwydd o ddynion. Yr oedd o alluoedd meddyliol cryfion, ac ymaflai yn wastad mewn egwyddorion mawrion; ac er nad oedd wedi cael manteision athrofaol pan yn ieuangc, etto ymroddodd i wneyd y diffyg i fyny trwy efrydiaeth ddiflino; ac yr oedd cylch ei ddarlleniad yn eang iawn; a thrwy hir ymarferiad, yr oedd wedi dwyn ei feddwl mor llwyr dan ddysgyblaeth fel y gallai pa le bynag y byddai ddwyn ei fyfyrdodau at y mater fyddai dan sylw ganddo. Am y pethau a gredai, yr oedd yn eu credu yn drwyadl, ac yr oedd ei angerddoldeb dros yr hyn a gredai yn wirionedd yn ei gario weithiau i eithafion. Er fod ei henafiaid, a llawer o'i berthynasau, yn enwedig o du ei wraig, yn Eglwyswyr, etto yr oedd efe yn Ymneillduwr goleuedig a chydwybodol. Dyrchafodd ef ei lais yn uchel, a llefarodd yn groyw yn erbyn anysgrythyroldeb cysylltu crefydd â'r Llywodraeth Wladol yn mhell cyn fod y byd yn gwybod enwau y rhai a ddaeth wedi hyny yn enwog yn Nghymru a Lloegr fel amddiffynwyr crefydd rydd. Yr oedd wedi pregethu ac ysgrifenu ar egwyddorion Cymdeithas Rhyddhad Crefydd am oes gyfan cyn i'r egwyddorion hyny wisgo ffurf mewn cymdeithas; ond pan y ffurfiwyd cymdeithas i'r perwyl, nid oedd neb yn Nghymru yn barotach i ddyfod allan o'i phlaid. Ceir ei enw ef yn un o'r chwe brodyr hyny" a ysgrifenasant draethodau yn Attodiad i'r "Llyfr Glas," fel ei gelwid, gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; a dyoddefodd ei ran o'r cabledd a fwriwyd ar y gwyr hyny fel cyfeiliornwyr a hereticiaid. Ni bu ef erioed yn eithafol ei olygiadau ar bynciau duwinyddol; ac nid oedd dim cymod rhyngddo â'r golygiadau "newydd a dyeithr," fel y cyfrifai efe hwynt, a goleddwyd gan rai o'i frodyr ar waith yr Ysbryd Glan; a bu mewn dadl gyda mwy nag un o honynt yn ngholofnau y Dysgedydd ar y mater pwysig yna.
Pan y daeth dirwest gyntaf i Gymru, syrthiodd i mewn yn y fan â'r egwyddor. Edrychai arni fel y peth oedd yn angenrheidiol i gyfarfod cyflwr ein gwlad. Gwnaeth ei oreu o'i phlaid, a bu yn ddirwestwr cywir a phybur hyd ei fedd. Nid oedd byth yn cellwair â dim, a pha beth bynag y proffesai fod, dyna ydoedd; a phan unwaith yr argyhoeddid ef beth oedd ei ddyledswydd gwnai hi, gan adael y canlyniadau yn llaw yr