Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

John Williams. Gelwid ef yn gyffredin "Y Cadben Williams," oblegid iddo fod yn swyddog yn myddin Cromwell. Bu hefyd yn Aelod Seneddol dros un o siroedd Cymru. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd iawn. Yr oedd yn ei flynyddoedd diweddaf yn cyfaneddu yn Llangollen, ac yno y bu farw. Ar ol ei gladdu yn mynwent eglwys y plwyf, aeth haid o erlidwyr yno, a chodasant ei gorph o'r bedd, a bu raid i'w gyfeillion ei gymeryd a'i gladdu yn ddirgel yn ei ardd ei hun. Nid ydym yn hysbys o amser ei farwolaeth.

PENFRO. Thomas Hughes, o Bugeli. Nid oes genym ddim o'i hanes.

Adam Hawkins, o St. Ismael. Yr oedd yn fyw yn 1669.

Pergrine Phillips, Hwlffordd.

Christopher Jackson, o Lanbedr. Bu ef farw yn Llundain.

John Luntley, Llanstadwell. Bu farw yn 1672.

Morgan Thomas, Mathri. Nid oes genym un hanes i'w roddi am dano.

John Bywater, Penfro. Mae ei hanes yntau yn anhysbys.

John Carver, a fwriwyd allan o Tenby.

MAESYFED.

John Weaver, o Faesyfed. Parhaodd i bregethu yn ddirgel yn yr ardal trwy holl dymor yr erledigaeth. Tua 1688, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Annibynol yn Henffordd, lle y bu farw mewn henaint teg yn 1712. Merch iddo ef oedd gwraig yr enwog Samuel Jones, athraw yr athrofa yn Tewkesbury.

Richard Swaine. Cafodd ei droi allan o ryw blwyf yn y sir hon. Yr oedd ef yn un o'r cymeradwywyr yn y Weithred er taenu yr efengyl yn Nghymru. Bu farw yn yr Amwythig, ond nis gwyddom amser ei farwolaeth.

David Jenks. Trowyd ef allan o blwyf y Bryngwyn. Ar ol bod yn ddyoddefydd dros Ymneillduaeth am bymtheng mlynedd, cydymffurfiodd a'r Eglwys Wladol, a threuliodd weddill ei oes yn ddibarch.

Morris Griffiths. Pregethwr teithiol enwog, a dyn o ddylanwad mawr. Yr oedd yn fyw yn 1675. Nis gwyddom pa bryd y bu farw.

Henry Gregory. Bedyddiwr ac Arminiad o ran barn ydoedd. Yr oedd yn ddyn defnyddiol, a dyoddefodd erledigaethau creulon. Bu farw yn 1700.

Felly gwelir fod yn Nghymru o 1660 i 1662 gant a chwech o bregethwyr digon cydwybodol i wrthod bywioliaethau breision er mwyn cadw cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion. Heblaw y rhai a enwir yn y tudalenau blaenorol, mae genym enwau tua phymtheg eraill a wrthodasant gydymffurfio am dymor, ond wedi hyny, a roisant ffordd i'r brofedigaeth. Yn 1633, pan orchymynwyd darllen y Llyfr Chwareuyddiaethau, ni chafwyd yn holl Gymru ond tri neu bedwar yn ddigon cydwybodol i wrthod cydsynio, ond yn 1662, cafwyd cant a chwech. Dengys hyn fod gwaith mawr