Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi cael ei wneyd yn mysg ein tadau o 1633 hyd 1662. Yr oedd y gweinidogion a drowyd allan o'u bywioliaethau, neu a waharddwyd i bregethu ar adferiad Siarl II., fel y gwelsom yn rhanedig i ddau enwad, sef Annibynwyr a Bedyddwyr-pedwar-ugain-a-phedwar yn Annibynwyr, a dau-ar-hugain yn Fedyddwyr. Nid oedd eu troi allan o'u bywioliaethau a'u hatal i bregethu yn y Llanau yn ddigon i foddio cynddaredd eu herlidwyr, heb gael deddfau creulawn i'w herlid a'u gorthrymu. Yn 1661, pasiwyd Gweithred y Cyfarfodydd Anghyfreithlon, yr hon a waharddai i fwy na phump o bersonau dros un-ar-bymtheg oed, heblaw y teulu, i fod yn wyddfodol mewn un tŷ lle buasai unrhyw fath o wasanaeth crefyddol yn cael ei gynal. Yr oedd y pregethwr a weinyddai yn y cyfarfod i gael tri mis o garchar, neu dalu dirwy o bum' punt y trosedd cyntaf, chwech mis o garchar, neu dalu dirwy o ddeg punt am yr ail drosedd, ac alldudiaeth am ei oes, neu ddirwy o gan' punt am y trydydd troseddiad.

Yr un gosp oedd i ŵr y tŷ neu ei ysgubor. Rhoddid hefyd ddirwy o ddwy bunt ar bob gwraig briod a ddaliesid yn y fath gyfarfod, neu ddeuddeng mis o garchar. Cafodd y ddeddf greulon hon ei hadnewyddu, gydag ychydig gyfnewidiadau yn 1673. Yr oedd un ran o dair o'r holl ddirwyon i fyned i'r cyhuddwr, yr hwn hefyd a allasai gosbi unrhyw Ynad a wrthodasai weinyddu y gosp ar ei dystiolaeth ef. Yn y modd hwn gosodwyd holl Ymneillduwyr y wlad a'r Ynadon ar drugaredd y dyhirod gwaethaf yn mhob ardal. Y canlyniad fu i'r carcharau gael eu gorlenwi a dynion crefyddol, ac i eiddo miloedd o honynt fyned yn ysglyfaeth i'w cyhuddwyr. Yn 1665, pasiwyd Gweithred y Pum Milldir, yr hon a waharddai un gweinidog Ymneillduol fyned o fewn pum' milldir i un dref na bwrdeisdref, ond yn unig wrth groesi heol, na myned ychwaith o fewn pum milldir i'r plwyf lle y buasai yn gweinidogaethu cyn cael ei droi allan. Gwaherddid iddynt hefyd i gadw ysgolion. Amcan y ddeddf hon oedd ysgaru y bugeiliaid oddiwrth eu praidd, a'u hatal i gael un ffordd i gynal eu teuluoedd. Yn 1678, pasiwyd y weithred a elwid y Test Act', yr hon a gauai allan bob Ymneillduwr o bob swydd o elw a dylanwad yn y wlad, yn gystal a'r trefi. Dilynwyd y rhan fwyaf o'r deddfau creulon hyn gan Ddeddf Goddefiad. Ond y mae yr enw Deddf Goddefiad, dan yr hon y mae holl Ymneillduwyr Prydain yn mwynhau eu rhyddid i'r dydd hwn, yn ddirmyg ar synwyr cyffredin. Pa hawl sydd gan Eglwyswyr i ddyweyd eu bod yn ein goddef ni i addoli, mwy nag sydd genym ninau i ddyweyd ein bod ni yn eu goddef hwy. Onid oes hawl gan bob dyn i addoli ei Greawdwr yn y dull a'r modd y myn, heb hawl gan neb o'i gyd-ddynion i ymyraeth ag ef. Yr ydym yn ddiolchgar i Dduw am y rhyddid a fwynheir genym, ond nid ydym yn diolch i ddynion, canys nid oes ganddynt hawl i'w atal oddiwrthym. Ni bydd Rhyddid Crefyddol Prydain yn gyflawn nes y byddo y sectau a elwir Eglwysi Lloegr a Scotland wedi eu dadgysylltu oddiwrth y Llywodraeth, a'u gosod ar yr un tir a'r enwadau eraill. Mae arwyddion yr amserau yn dangos, nad yw yr adeg pan y cymer hyny le yn mhell.