Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLANFACHES.

Saif y plwyf hwn rhwng y Casnewydd a Chasgwent, tua thair milldir i'r gogledd o gledr-ffordd Deheudir Cymru. Yma y ffurfiwyd yr eglwys Ymneillduol gyntaf yn Nghymru, ac y mae wedi parhau i fodoli fel eglwys Annibynol hyd y dydd hwn. Mae hanes ei dechreuad fel y canlyn:

Tua y flwyddyn 1595, cafodd y Parch. William Wroth, B.A. ei osod yn Ficer y plwyf gan y noddwr (patron), Syr William Lewis, o'r Fan, gerllaw Caerphili. Yr oedd Mr. Wroth yn ŵr dysgedig, wedi ei ddwyn i fyny yn Rhydychain, ond fel y rhan fwyaf o'i gydoeswyr wedi ymruthro i waith cyssegredig y weinidogaeth yn amddifad o'r prif gymhwysder, sef duwioldeb. Dywedir ei fod yn hoff iawn o gerddoriaeth a difyrwch, ac yr arferai fyned a chrwth i'r eglwys ar y Suliau, a'i chwareu ar ol y gwasanaeth, ac y byddai ei wrandawyr yn dawnsio ar y fynwent am oriau tra byddai efe yn chwareu y crwth. Fel hyn y dygodd bethau yn mlaen am rai blynyddau ar ol iddo ymsefydlu yn Llanfaches. Ond tua y flwyddyn 1600, neu yn fuan ar ol hyny, darfu i'r Arglwydd ymweled âg ef yn achubol, a hyny mewn modd tarawiadol iawn. Lletyai yn nhŷ boneddwr yn y plwyf, yr hwn oedd berthynas iddo. Bu galwad i'r boneddwr hwnw fyned i Lundain i sefyll cyfraith ar achos o bwys dirfawr iddo ef a'i deulu. Ennillodd y gyfraith, ac anfonodd adref i geisio gan ei deulu ddarparu gwledd fawr erbyn dydd ei ddychweliad, a gwahodd ei gyfeillion yn nghyd yno i lawenychu yn ei lwyddiant. Aeth Wroth drosodd i Gaerodor i brynu crwth newydd erbyn y wledd. Wedi i'r dydd ddyfod, a phob peth yn barod, y gwahoddedigion wedi ymgynnull, a dim yn ddiffygiol ond presenoldeb gwr y tŷ i goroni y wledd; ond tua yr amser y disgwylid ef i ddychwelyd wele genad yn dyfod a'r newydd trist iddo gael ei gymeryd yn glaf ar y ffordd a marw yn ddisymwth. Tarawodd y newydd bawb â syndod a phrudd-der. Wroth, yr hwn oedd a'i grwth yn ei law ar y pryd a'i taflodd i'r llawr, syrthiodd ar ei ddeulin yn nghanol y dorf bruddaidd, a dechreuodd weddio yn ddifrifol am y waith gyntaf y gweddïodd o'i galon erioed. O'r dydd hwnw hyd ddydd ei farwolaeth gweddio a chynghori ei gyd-ddynion i ffoi rhag y llid a fydd fu ei holl waith. Gan fod pregethwyr difrifol a galluog yn yr oes hono mor annghyffredin, rhedodd y son am Ficer Llanfaches ar hyd a lled y wlad, a chyrchodd miloedd o bob parth yno i'w wrandaw; rhyw nifer fechan oddiar awydd i glywed yr efengyl, a'r rhan fwyaf o gywreinrwydd. Bu ei weinidogaeth o fendith i luoedd. Wedi myned yn enwog fel pregethwr cafodd gymhelliadau, rhy daerion i'w gwrthsefyll, i fyned allan o'i blwyf ei hun i ymweled â'i ddysgyblion lluosog, ac i bregethu iddynt yn eu gwahanol ardaloedd. Darfu i'r afreoleiddiwch hwnw yn fuan gyffroi gwrthwynebiad a llid yr offeiriaid dioglyd ac anfoesol, a gwnaethant achwyniadau yn ei erbyn amryw weithiau yn llys yr esgob yn Llandaf. Gwysiwyd ef unwaith i ymddangos ger bron Dr. Field, Esgob Llandaf, yr hwn a ddywedodd wrtho, "Mr. Wroth, yr wyf yn cael achwyniadau mynych yn eich erbyn eich bod yn afreolaidd, fel offeiriad, yn myned allan o'ch plwyf eich hun i bregethu, ac yn cyfodi rhagfarn yn erbyn eich brodyr offeiriadol wrth eich dull hynod o bregethu; pa beth sydd genych i'w ddweyd drosoch eich hun?" "Fy Arglwydd" ebe Mr. Wroth, y mae fy nghydwladwyr wrth y miloedd yn myned i'r farn yn eu pechodau ac heb neb yn eu rhybuddio, ac nis gallaf fod yn llonydd heb fynegu eu perygl iddynt, er i mi weithiau droseddu canonau