Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/400

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Salem yw enw y capel, er mai anaml y gelwir ef ar yr enw hwnw. Mae yn mhlwyf Llanfihangel yn Ngwnfa. Mae yr eglwys hon yn dilyn ei tharddiad i'r eglwys yn Llwydiarth; er mai aelodau o Lanfyllin, Sardis, a Phenllys oedd yn ymuno ynddi ar ei chorpholiad. Pregethwyd llawer yn yr ardal hon yn Efailycwm, Tynewydd, Llawrycwm, Penyfigin, a Phentrepoeth, gan weinidogion Llanfyllin, ac eraill; ac yn Felinwnfa, a Rhiwlas, gan Mr. Morris Hughes, Sardis, ac eraill. Tua'r flwyddyn 1832, barnwyd mai gwell fuasai i'r achos yn y gymydogaeth yma fod dan ofal un gweinidog; a chael achos Annibynol yn y lle, gan y teimlid fod Sardis a Phenllys yn rhy bell. Yr oedd rhai dros i'r achos fod dan ofal Mr. Morris, Llanfyllin, mewn cysylltiad a Penllys; ac eraill am iddo fod dan ofal Mr. Morris Hughes, mewn cysylltiad a Sardis. Cyfarfu Mr. Morris, a Hugh Hughes, yr hwn oedd yn aelod ac yn bregethwr yn Mhenllys, a Mr. M. Hughes, a Thomas Williams, (Eos Gwnfa), yr hwn oedd yn aelod yn Sardis, yn nhy John Breese, er cydystyried y mater; ac wedi siarad llawer, a dadleu yn gynes, ond yn frawdol, penderfynwyd fod i Mr. Morris Hughes gymeryd gofal yr achos. Yr oedd ymlyniad cyfeillion Penllys oedd yn yr ardal, yn gryf wrth Mr. Morris, ac efe oedd y pregethwr mwyaf poblogaidd; ond yr oedd eangder maes ei lafur yn ei gwneyd yn anmhosibl iddo ef ofalu am y lle. Yr oedd Mr. Morris Hughes, o'r ochr arall, wedi rhoddi Penybontfawr i fyny rai blynyddau cyn hyny, ac nid oedd ganddo ond Sardis dan ei ofal; ac yr oedd ei fod wedi ei eni a'i fagu yn yr ardal yn gwneyd fod llawer o'i gyfeillion, ac yn enwedig Thomas Williams, yprydydd, fel ei gelwid, yn selog drosto. Ni bu ond y teimladau goreu rhwng Mr. Morris, Llanfyllin, a Mr. Hughes, Sardis; ond oblegid eu hymlyniad wrth Mr. Morris, daliodd rhai i fyned i Benllys i gymundeb, hyd nes yr ymadawodd a Llanfyllin. Corpholwyd eglwys yma yr amser hwn, yn Tynant-ty Edward Watkin, heb fod yn nepell o'r fan y mae eapel Braichy waun. Bu yr achos yma yn llewyrchus am tua thair blynedd, er nad oedd y lle ond distadl a diaddurn. Yn y ty hwn y derbyniwyd Mr. R. Hughes, yn awr o Cendl, yn aelod, pan nad oedd ond wyth oed. O herwydd rhyw amgylchiadau, bu rhaid gadael ty Edward Watkin; ond agorwyd dau ddrws i'r achos ar unwaith; sef Rhydllechau, a thy John Breese; a byddai pregethu yn ol cyfleustra yn y ddau le, ond fynychaf yn nhy John Breese. "Bu John Breese yn wir Obed Edom i arch Duw yn Braichywaun. Ni bu pâr yn y gymydogaeth hon o gymeriad gwell, nac yn fwy parchus a chariadus yn nghyfrif pawb a'u hadwaenent, na John Breese ac Ann ei wraig. Er nad oedd ef ond saermaen, bychan, cyffredin, ac yn isel eu hamgylchiadau, a buont ill dau yn bur fethiedig am flynyddoedd olaf eu hoes; etto, llawer pryd o fwyd a roisant yn llawen i bregethwyr, a'u ty a roisant yn babell i'r Arglwydd." Crybwyllasom yn hanes Ieuan Gwynedd, yn nglyn a Saron, Tredegar, mai yn yr ardal hon y dechreuodd bregethu, er mai aelod yn Sardis ydoedd ar y pryd; a chan i ni gael rhai crybwyllion ychwanegol oddiwrth un oedd yn cyd-ddechreu pregethu âg ef, rhoddwn hwy i mewn yma. Yr oedd Thomas Williams, (Eos Gwnfa), wedi cael y fath foddlonrwydd yn Ieuan Gwynedd wrth ei glywed yn areithio ar Ddirwest, fel y trefnodd a'i